Cysylltiadau Cyhoeddus a'r Cyfryngau, BA (Anrh)

Dysgwch Sgiliau ar gyfer Gyrfa Gysylltiedig

students sat around table

Trosolwg o'r Cwrs

Mae byd cysylltiadau cyhoeddus a'r cyfryngau yn newid yn gyflym, dan ddylanwad technolegau digidol, y cyfryngau cymdeithasol a'r galw am gyfathrebu ystyrlon. Mae ein gradd BA mewn Cysylltiadau Cyhoeddus a'r Cyfryngau yn cyfuno damcaniaeth feirniadol â phrofiad ymarferol, gan eich galluogi i feithrin y sgiliau i ddadansoddi, creu ac arloesi ym meysydd cysylltiadau cyhoeddus, newyddiaduraeth, y cyfryngau digidol a ffilm.

Mae cysylltiadau cyhoeddus heddiw yn llawer mwy na datganiadau i'r wasg. Mae'r rhaglen hon yn canolbwyntio ar gysylltiadau cyhoeddus digidol, strategaeth y cyfryngau cymdeithasol a chysylltiadau cyhoeddus fel swyddogaeth reoli allweddol ym maes cysylltiadau corfforaethol. Byddwch yn cael profiad ymarferol o offer a phlatfformau safonol y diwydiant, o greu cynnwys a marchnata gan ddylanwadwyr i ddadansoddeg y cyfryngau cymdeithasol. Bydd prosiectau ac asesiadau ymarferol yn eich paratoi i reoli ymgyrchoedd, enw da ar-lein a chyfathrebu digidol mewn amgylchedd sy'n newid yn gyflym.

Mewn oes o gyfathrebu sydyn a lefel uchel o graffu, mae sgiliau rheoli argyfwng yn hanfodol. Drwy astudiaethau achos o'r byd go iawn, ymarferion efelychu a strategol, byddwch yn dysgu sut i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i faterion wrth iddynt ddod i'r amlwg.

Mae cysylltiadau cyhoeddus yn ddisgyblaeth gydweithredol sy'n croestorri â newyddiaduraeth, marchnata a chynhyrchu ar gyfer y cyfryngau. Byddwch hefyd yn astudio'r disgyblaethau hyn er mwyn deall cyfathrebu integredig a gweithio'n hyderus mewn timau traws-swyddogaethol. Mae ymarfer moesegol a chyfrifoldeb cymdeithasol yn elfennau canolog o'r rhaglen a cheir pwyslais ar dryloywder, cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, a mynd i'r afael â heriau megis camwybodaeth a dibynadwyedd brand.

Rydym yn cynnig opsiynau i astudio yn Gymraeg ac yn Saesneg felly gallwch ehangu eich rhagolygon gyrfa a manteisio ar gyfleoedd ledled Cymru a'r tu hwnt, gan eich galluogi i fod yn fwy hyblyg byth yn nhirwedd y cyfryngau byd-eang.

Pam Cysylltiadau Cyhoeddus a'r Cyfryngau yn Abertawe?

Byddwch yn astudio ar ein campws Parc Singleton godidog, â golygfeydd dros Fae Abertawe ar drothwy penrhyn Gŵyr.

Mae ein rhaglenni’r Cyfryngau a Chyfathrebu yn perfformio'n uchel yn gyson mewn arolygon er enghraifft:

  • 2il yn y DU am Foddhad Myfyrwyr (Complete University Guide 2026)
  • 5ed yn y DU am Brofiad Myfyrwyr (Times Good University Guide 2026)
  • 5ed yn y DU am Lais Myfyrwyr (NSS 2025)*
  • 9fed yn y DU am Ragolygon Gyrfa (Guardian University Guide 2026)

*yn seiliedig ar y sgôr gyfartalog ar gyfer agwedd gadarnhaol fesul pob thema yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025 o'n cymharu â phrifysgolion eraill yn y Times Good University Guide.

Rydym yn ymfalchïo yn ein gallu i'ch paratoi am fywyd ar ôl y brifysgol. Gallwn wneud hyn drwy ddefnyddio ein cysylltiadau â diwydiant a'n pwyslais ar y sgiliau rhyngbersonol penodol a nodwyd gan ein panel diwydiant fel rhai sy'n allweddol yn eu prosesau recriwtio. 

Eich Profiad Cysylltiadau Cyhoeddus a'r Cyfryngau

Gallwch deilwra eich astudiaethau i gyd-fynd â'ch diddordebau a'ch nodau gyrfa. Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys cyfle i dreulio blwyddyn yn astudio dramor neu flwyddyn mewn diwydiant. Mae blwyddyn dramor yn rhoi cyfle i chi wella eich ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol, gan ddatblygu eich sgiliau ym maes newyddiaduraeth a chreu cynnwys rhyngwladol.

Gallwch dreulio'r Flwyddyn mewn Diwydiant yn y DU neu dramor, gan roi profiad gwerthfawr i chi o'r gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau cyflogedig, gyda chyflog cyfartalog o £20,000+. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos. Er mai cyfrifoldeb y myfyriwr yw sicrhau lleoliad, rydym yn gweithio gyda sawl sefydliad sy'n cynnig cyfleoedd amrywiol. Os ydych yn dewis treulio Blwyddyn mewn Diwydiant, byddwch yn cael eich cefnogi drwy gydol y broses cyflwyno cais gyda chyngor, arweiniad ac adnoddau. Os na allwch sicrhau lleoliad erbyn diwedd yr ail flwyddyn astudio, byddwch yn gallu trosglwyddo i'r rhaglen radd 3 blynedd gyfatebol.

Cyfleoedd Cyflogaeth Cysylltiadau Cyhoeddus a'r Cyfryngau

Mae cysylltiadau agos yr Adran ag amrywiaeth o sefydliadau'r cyfryngau a chyfathrebu yn ein rhoi mewn sefyllfa dda i gynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd profiad gwaith ac interniaethau ar bob lefel astudio. Rydym yn cael ceisiadau rheolaidd gan sefydliadau lleol sy'n cynnig lleoliadau gwaith â thâl a rhai gwirfoddol, i ddiwallu angen cyflogwyr am fyfyrwyr medrus i lenwi rolau cyfathrebu tymor byr.

Ar ben hyn, yn y drydedd flwyddyn, gallwch gofrestru ar ein modiwl interniaeth sy’n cynnig credydau. Byddwch yn ymgymryd â 50 awr o leoliad gwaith mewn amrywiaeth o rolau cyfathrebu, gan gynnwys mewn gweithleoedd cyfrwng Cymraeg lle bo’n briodol.

Mae’r ymagwedd ragweithiol hon at gyflogadwyedd yn helpu i sicrhau bod ein graddedigion yn gallu datblygu CV sy’n creu argraff dda. Yn ogystal, gall interniaethau gynnig cyfle i chi roi’r ddamcaniaeth a astudiwyd mewn darlithoedd ar waith yn y byd go iawn. Bydd cyfleoedd gwerthfawr hefyd i rwydweithio â gweithwyr proffesiynol, mentoriaid a darpar gydweithwyr  y dyfodol, a meithrin cysylltiadau sy’n gallu arwain at gynigion neu argymhellion am swyddi amser llawn i’n graddedigion.

Mae ein graddedigion yn wirioneddol ryngwladol ac wedi cael eu cyflogi ledled y byd mewn gyrfaoedd mewn meysydd fel:

  • Y Cyfryngau
  • Cyfathrebu
  • Busnes
  • Cysylltiadau Cyhoeddus a Marchnata
  • Marchnata Digidol
  • Teledu a Radio
  • Cyhoeddi 

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cysylltiadau Cyhoeddus a'r Cyfryngau

Cysylltiadau Cyhoeddus A'r Cyfryngau gyda Blwyddyn Dramor

Cysylltiadau Cyhoeddus a'r Cyfryngau gyda Blwyddyn mewn Diwydiant