Cymraeg ((Llwybr ar gyfer myfyrwyr Ail Iaith), BA (Anrh)

Astudiwch Ddiwylliant a Hanes Cymru mewn Cyd-destun Iaith Gyntaf

students working together

Trosolwg o'r Cwrs

Byddwch yn darganfod ffordd ffres a chyffrous o astudio Cymraeg gyda gradd BA Cymraeg (Ail Iaith) Abertawe. Mae'r radd arloesol hon yn archwilio iaith, llenyddiaeth a diwylliant Cymru, gan edrych tuag allan at gysylltiadau byd-eang ac amlddiwylliannaeth. Byddwch yn astudio sut brofiad yw siarad, ysgrifennu a byw drwy’r Gymraeg yn yr unfed ganrif ar hugain, gan feithrin dealltwriaeth o'i rôl yn ein cymdeithas heddiw.

Mae'r rhaglen yn seiliedig ar dair thema - Creadigrwydd, Cyflogadwyedd a'r Gymraeg mewn Cymdeithas - gan gynnig profiad academaidd amrywiol ac ysgogol. Byddwch yn archwilio'r iaith mewn cyd-destun rhyngwladol, gan ystyried amrywiaeth ieithyddol a'r heriau a'r cyfleoedd a wynebir gan ieithoedd lleiafrifol ledled y byd. Mae'r ymagwedd hon yn sicrhau bod eich dysgu'n berthnasol ac wedi'i lywio gan safbwynt byd-eang.

Mae cyflogadwyedd yn rhan annatod o'r radd. Byddwch yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy mewn cyfathrebu, ymchwil, cyfieithu a gweithio'n ddwyieithog, gan eich paratoi ar gyfer gyrfaoedd mewn addysg, cyhoeddi, darlledu, yn y gwasanaethau cyhoeddus a'r diwydiannau creadigol. Bydd asesiadau ymarferol a phrosiectau â pherthnasedd byd go iawn yn eich helpu i graddio â'r hyder a'r profiad i ffynnu mewn gweithle dwyieithog.

P'un a ydych chi'n rhugl neu'n dal i fagu hyder, byddwch yn cael eich cefnogi mewn amgylchedd croesawgar a chynhwysol. Byddwch hefyd yn cael eich annog i lywio eich dysgu eich hun, gan ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol sy'n eich paratoi ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig neu rolau proffesiynol.

O lenyddiaeth i ieithyddiaeth gymdeithasegol, mae’r cwricwlwm dynamig sy'n edrych tuag allan ac yn dathlu cyfoeth y Gymraeg gan eich paratoi ar gyfer y dyfodol.

Beth am ehangu eich profiad â Blwyddyn mewn Diwydiant neu Dramor? Gallwch dreulio amser yn astudio dramor neu ennill profiad gwaith â thâl (cyflog cyfartalog o dros £20,000), gan roi hwb i'ch sgiliau a'ch cyflogadwyedd.

Pam Cymraeg ((Llwybr ar gyfer myfyrwyr Ail Iaith) yn Abertawe?

Byddwch yn astudio ar ein campws Parc Singleton godidog, â golygfeydd dros Fae Abertawe ar drothwy penrhyn Gŵyr.

Byddwch yn elwa o sgiliau a phrofiad awduron a beirdd blaenllaw yn ein tîm academaidd.

Mae Astudiaethau Diwylliannol yn Abertawe:
• Yn y 4ydd safle yn y DU am brofiad myfyrwyr (The Times and Sunday Times Good University Guide 2026)

Rydym yn ymfalchïo yn ein gallu i'ch paratoi am fywyd ar ôl y brifysgol. Gallwn wneud hyn drwy ddefnyddio ein cysylltiadau â diwydiant a'n pwyslais ar y sgiliau rhyngbersonol penodol a nodwyd gan ein panel diwydiant fel rhai sy'n allweddol yn eu prosesau recriwtio.

Eich Profiad Cymraeg ((Llwybr ar gyfer myfyrwyr Ail Iaith)

Gallwch deilwra eich astudiaethau i adlewyrchu eich diddordebau a'ch uchelgeisiau gyrfa, gyda chyfleoedd i astudio dramor neu gael profiad ymarferol drwy Flwyddyn mewn Diwydiant. Mae'r cyfleoedd hyn yn eich galluogi i ehangu eich gorwelion, datblygu sgiliau newydd a chael mantais mewn marchnad swyddi gystadleuol.

Mae'r Flwyddyn mewn Diwydiant yn cynnig profiad gwerthfawr o'r gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau cyflogedig, gyda chyflog cyfartalog o £20,000+. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos. Er mai cyfrifoldeb y myfyriwr yw sicrhau lleoliad, rydym yn gweithio gyda sawl sefydliad sy'n cynnig cyfleoedd amrywiol. Os ydych yn dewis treulio Blwyddyn mewn Diwydiant, byddwch yn cael eich cefnogi drwy gydol y broses cyflwyno cais gyda chyngor, arweiniad ac adnoddau. Os na allwch sicrhau lleoliad erbyn diwedd yr ail flwyddyn astudio, byddwch yn gallu trosglwyddo i'r rhaglen radd 3 blynedd gyfatebol.

Mae ein rhaglenni wedi'u cynllunio i helpu dysgwyr ail iaith i ddod yn rhugl drwy gyfleoedd estynedig i ymarfer ac ymgysylltu, a chewch eich annog i wneud y mwyaf o adnoddau a gweithgareddau allgyrsiol ychwanegol i atgyfnerthu eich sgiliau. Mae ein cymuned glos o fyfyrwyr a staff yn angerddol am y Gymraeg ac yn ymrwymedig i helpu pawb i lwyddo. Mae addysgu mewn grwpiau bach, arweiniad wedi'i bersonoli ac ymdeimlad cryf o gymuned yn ganolog i'ch profiad fel myfyriwr.

Byddwch hefyd yn elwa o gwricwlwm sy'n annog creadigrwydd a meddwl yn feirniadol, ochr yn ochr â thrafodaethau parchus am amrywiaeth iaith, cynrychiolaeth a chynwysoldeb. O lenyddiaeth i ieithyddiaeth gymdeithasegol, bydd gennych brofiad academaidd cyfoethog ac amrywiol. Bydd prosiectau â pherthnasedd byd go iawn a chyfleoedd i gysylltu dysgu'r ystafell ddosbarth â'r gymuned ehangach yn eich helpu i ddatblygu sgiliau ymarferol a hyder ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.

Cyfleoedd Cyflogaeth Cymraeg ((Llwybr ar gyfer myfyrwyr Ail Iaith)

Mae cyflogadwyedd yn elfen ganolog o'r radd BA Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio i'ch paratoi i lwyddo mewn marchnad swyddi ddwyieithog a dynamig ac mae sgiliau proffesiynol yn rhan annatod o'r rhaglen gyfan. Byddwch yn datblygu arbenigedd mewn cyfathrebu, cyfieithu, cyfryngau digidol a meddwl yn strategol, wedi'u hategu gan asesiadau â pherthnasedd byd go iawn a phrosiectau creadigol sy'n annog myfyrwyr i greu cynnwys creadigol, cyflwyno syniadau ac archwilio llwybrau gweithio llawrydd a hunangyflogaeth.

Oherwydd cysylltiadau agos ein Hadran â sefydliadau cyfryngau a chyfathrebu, gallwn gynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd profiad gwaith ac interniaethau ar bob lefel astudio. Rydym yn cael ceisiadau'n rheolaidd gan gyflogwyr lleol i lenwi rolau cyfathrebu tymor byr, gan roi cyfle i chi ddefnyddio eich sgiliau mewn amgylcheddau byd go iawn, drwy leoliadau gwaith cyflogedig a gwirfoddol.

Gall myfyrwyr hefyd gymryd rhan mewn interniaethau SPIN ac mae llawer yn sicrhau rolau cyfrwng Cymraeg megis cefnogi digwyddiadau yn Eisteddfod yr Urdd gydag Academi Hywel Teifi. Mae galw am sgiliau Cymraeg mewn llawer o adrannau, gan agor drysau i interniaethau ym mhob rhan o'r Brifysgol a'ch helpu i feithrin rhwydweithiau a phrofiad ymarferol. Mae cyfleoedd gwirfoddoli gydag elusen Prifysgol Abertawe, Discovery, hefyd yn eich galluogi i drefnu a chynnal digwyddiadau yn y Brifysgol a'r gymuned ehangach.

Mae meddylfryd entrepreneuraidd yn cael ei annog drwy gydol y rhaglen. Mae siaradwyr gwadd - gan gynnwys awduron, cyfieithwyr, gweithwyr proffesiynol yn y cyfryngau, newyddiadurwyr a llunwyr polisi - yn cyfrannu'n rheolaidd, gan gynnig eu doethineb ar lwybrau i yrfaoedd ac ysbrydoli myfyrwyr i weld y Gymraeg fel offeryn ar gyfer arloesi ac arweinyddiaeth. Beth bynnag yw'ch nod - gyrfa yn y sector cyhoeddus, y diwydiannau creadigol neu ddatblygu cymunedol - byddwch yn graddio â'r hyder, y profiad a'r sgiliau dwyieithog i gael effaith ystyrlon.

Mae'r rhaglen wedi cael ei llywio gan fewnbwn rhanddeiliaid allanol megis Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg, gan sicrhau ei bod yn adlewyrchu anghenion cyflogwyr ledled Cymru. Rydym yn gweithio'n agos gydag Adran y Cyfryngau i ehangu cyfleoedd yn y diwydiannau creadigol, a chaiff myfyrwyr gyfle i arddangos eu gwaith yn COPA, digwyddiad sy'n dathlu cyflawniad myfyrwyr ac yn eich cysylltu â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant.

Mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i weithio ym meysydd busnes, adnoddau dynol a chyllid, addysg, y celfyddydau, dylunio, y cyfryngau, marchnata, cysylltiadau cyhoeddus, gwerthiannau, gwleidyddiaeth, cynllunio iaith, gwaith ieuenctid, cyfieithu a gweinyddu. Mae llawer hefyd yn mynd ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig, gan gynnwys TAR, graddau Meistr a Addysgir ac Ymchwil a rhaglenni PhD.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cymraeg ((Llwybr ar gyfer myfyrwyr Ail Iaith), BA (Anrh)

Cymraeg gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BA (Anrh)