Trosolwg o'r Cwrs
Gallwch ymgolli mewn llenyddiaeth a barddoniaeth Gymraeg gan ddysgu am hanes cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol yr iaith ar yr un pryd ar ein rhaglen BA Cymraeg.
Byddwch yn meithrin rhuglder llafar ac ysgrifenedig ac yn magu hyder yn eich defnydd a'ch dealltwriaeth o'r Gymraeg.
Byddwch yn astudio amrywiaeth eang o lenyddiaeth gan gynnwys dramâu, straeon byrion a nofelau, yn ogystal â barddoniaeth o'r traddodiad barddol canoloesol i geneuon protest modern.
Byddwch yn meithrin dealltwriaeth gadarn o iaith a gramadeg Cymraeg, ieithyddiaeth a pholisi cynllunio iaith, ac yn dysgu sgiliau cyfieithu gwerthfawr.
Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn meithrin sgiliau ymchwil a dadansoddi ardderchog ac yn dysgu sut i gyflwyno eich syniadau'n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig.