Trosolwg o'r Cwrs
Darganfyddwch ffordd ffres a chyffrous o astudio Cymraeg gyda gradd BA Cymraeg Abertawe. Mae'r radd arloesol hon yn archwilio iaith, llenyddiaeth a diwylliant Cymru, gan edrych tuag allan at gysylltiadau byd-eang ac amlddiwylliannaeth. Byddwch yn astudio sut brofiad yw siarad, ysgrifennu a byw drwy’r Gymraeg yn yr unfed ganrif ar hugain, gan feithrin dealltwriaeth o'i rôl yn ein cymdeithas heddiw.
Mae'r rhaglen yn seiliedig ar dair thema - Creadigrwydd, Cyflogadwyedd a'r Gymraeg mewn Cymdeithas - gan gynnig profiad academaidd amrywiol ac ysgogol. Byddwch yn archwilio'r iaith Gymraeg mewn cyd-destun rhyngwladol, gan ystyried amrywiaeth ieithyddol a'r heriau a'r cyfleoedd sy’n wynebu ieithoedd lleiafrifol ledled y byd. Mae'r ymagwedd hon yn sicrhau bod eich dysgu'n berthnasol ac wedi'i lywio gan safbwynt byd-eang.
Mae cyflogadwyedd yn rhan annatod o'r radd. Byddwch yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy ym meysydd cyfathrebu, ymchwil, cyfieithu a gweithio'n ddwyieithog, gan eich paratoi ar gyfer gyrfaoedd mewn addysg, cyhoeddi, darlledu, yn y gwasanaethau cyhoeddus a'r diwydiannau creadigol. Bydd asesiadau ymarferol a phrosiectau â pherthnasedd byd go iawn yn eich helpu i graddio â'r hyder a'r profiad i ffynnu mewn gweithle dwyieithog.
Byddwch yn cael eich cefnogi mewn amgylchedd croesawgar a chynhwysol. Byddwch hefyd yn cael eich annog i lywio eich dysgu eich hun, gan ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol sy'n eich paratoi ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig neu rolau proffesiynol.
O lenyddiaeth i ieithyddiaeth gymdeithasegol, mae'r radd yn cynnig cwricwlwm dynamig sy'n edrych tuag allan ac yn dathlu cyfoeth y Gymraeg gan eich paratoi ar gyfer y dyfodol.
Beth am ehangu eich profiad â Blwyddyn mewn Diwydiant neu Dramor? Gallwch dreulio amser yn astudio dramor neu ennill profiad gwaith â thâl, (cyflog cyfartalog o dros £20,000) gan roi hwb i'ch sgiliau a'ch cyflogadwyedd.