Hanes, BA (Anrh)

Astudiwch Hanes a Meithrin Sgiliau Gwerthfawr

Students walking through Singleton Park

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r radd BA Hanes ym Mhrifysgol Abertawe'n eich galluogi i feithrin y sgiliau sy'n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr, ar draws amrywiaeth o sectorau a phroffesiynau, wrth archwilio dros 1500 o flynyddoedd o hanes, o gwymp yr Ymerodraeth Rufeinig tan heddiw.

Mae'r rhaglen, sy'n cynnwys modiwlau gorfodol yn ogystal â modiwlau dewisol, yn rhoi llwybr tywysedig, strwythuredig a sgematig i chi drwy hanes sy'n eich galluogi i feithrin y sgiliau a'r galluoedd ar gyfer ymchwiliadau hanesyddol yr unfed ganrif ar hugain.

Drwy'r modiwlau dewisol sydd ar gael, byddwch yn cael y cyfle i arbenigo mewn cyfnodau hanes penodol , yn ogystal â'r gallu i ganolbwyntio ar themâu sy'n rhychwantu cyfnodau hanesyddol, drwy archwilio materion sy'n cynnwys Rhyw a Rhywedd, Ymerodraeth a Chenedligrwydd, Chwyldro, Meddygaeth ac Anabledd a'r Amgylchedd ar draws lleoedd ac amserau gwahanol.

Fe'i cyflwynir gan academyddion blaenllaw sy'n addysgu ar sail ymchwil, ac sy'n angerddol am rannu eu gwybodaeth â myfyrwyr a'r byd ehangach, a bydd y radd hon yn eich galluogi i archwilio’r ymchwil hanesyddol ddiweddaraf, wrth iddi gael ei chynnal.

Caiff pob myfyriwr ei annog i fod yn gyfrifol am ei ddysgu ei hun, i weithio'n annibynnol yn ogystal â chydag eraill, ymddwyn yn broffesiynol ac ennill a mireinio sgiliau newydd. Bydd aelodau'r maes pwnc yn cynnig cymorth ac adborth unigol ar gyfer asesiadau, gan weithio gyda chi er mwyn i chi gyflawni eich potensial a deall a bodloni heriau astudio hanes ar lefel prifysgol.

Pam Hanes yn Abertawe?

Byddwch yn astudio ar ar Gampws Parc Singleton, mewn parcdir hardd sy'n edrych dros Fae Abertawe ar ymyl Penrhyn Gŵyr.

Mae ein cyrsiau Hanes ym Mhrifysgol Abertawe yn uchel eu parch ymysg myfyrwyr a chyflogwyr.

  • Mae 94% o raddedigion Hanes yn gweithio, yn astudio a/neu'n ymgymryd â gweithgareddau eraill megis teithio 15 mis ar ôl gadael Prifysgol Abertawe (Arolwg Hynt Graddedigion 2025)

Eich Profiad Hanes

Mae’r radd yn seiliedig ar dri llinyn canolog, sy'n datblygu gyda'i gilydd ar draws pob lefel astudio:

  • Mae'r radd yn pwysleisio pa mor berthnasol yw'r gorffennol heddiw. Mae modiwlau'n eich ysgogi i ofyn cwestiynau am y berthynas rhwng y gorffennol ar un llaw, a'r presennol a'r dyfodol ar y llaw arall.
  • Bydd y rhaglen yn eich tywys i gaffael, datblygu a mireinio sgiliau trosglwyddadwy ymchwil hanesyddol. Mae'r rhain yn cynnwys y gallu i gynllunio, cynnal a gwerthuso gwybodaeth, cyfleu syniadau a dadleuon mewn amrywiaeth o ffyrdd, meddwl yn greadigol gan ddefnyddio dadleuon ar sail tystiolaeth, a gweithio'n annibynnol ac yn gydweithredol.
  • Caiff y cwricwlwm ei addysgu mewn ffordd sy'n gwella ac yn ehangu eich sgiliau cyflogadwyedd, gan eich helpu chi i ddatblygu priodoleddau graddedigion, y gellir eu cymhwyso mewn gyrfaoedd ar draws ystod eang o broffesiynau. Drwy asesiadau arloesol, sy'n mynd y tu hwnt i draethodau traddodiadol a chynnig digon o ddewis mewn asesiadau, mae'r cwricwlwm yn eich arwain i ennill y sgiliau hyn sy’n addas i’r byd go iawn drwy gwblhau gwaith sy'n cyd-fynd â'ch cryfderau.

Mae'r rhaglen yn cynnwys cyfleoedd i dreulio semester neu flwyddyn dramor, mewn lleoliadau megis Unol Daleithiau America, Canada, Tsieina, Hong Kong, neu Singapore, gan wella eich dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy.

Neu gallech dreulio Blwyddyn mewn Diwydiant, yn y DU neu dramor, gan eich galluogi chi i gael profiad gwaith gwerthfawr. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl, sydd â chyflog gwerth mwy na £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos. Gallwch chi hefyd ymgymryd â modiwl lleoliad gwaith, a fydd yn datblygu eich sgiliau drwy dreulio amser gyda sefydliad partner.

Os bydd angen, gellir cynnwys Blwyddyn Sylfaen ychwanegol yn y rhaglen hon, a fydd yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch, gan sicrhau bod gennych y sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth y bydd eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig mwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i fyd addysg ar ôl blynyddoedd lawer. Ar ôl i chi gwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen at Flwyddyn 1 y radd BA.

Cyfleoedd Cyflogaeth Hanes

Bydd graddedigion â BA Hanes yn meddu ar ystod o sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys sgiliau meddwl yn feirniadol annibynnol, sgiliau dadansoddi a'r gallu i brosesu a syntheseiddio llawer iawn o wybodaeth a chymryd rhan mewn trafodaethau hanesyddol.

Bydd ganddynt hefyd sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol ynghyd â'r gallu i feddwl yn ddargyfeiriol;  i ddadansoddi digwyddiadau yn y gorffennol a defnyddio'r dadansoddiad hwn i lywio eu dealltwriaeth o faterion cyfoes a chymdeithas heddiw. Mae'r sgiliau hyn yn drosglwyddadwy ar draws nifer o ddiwydiannau sy'n canolbwyntio ar gymdeithasau presennol, yn enwedig busnes, gwleidyddiaeth a'r byd academaidd. 

Drwy ddeall yn well sut mae busnesau a'r sectorau creadigol yn defnyddio hanes er mwyn creu cyfoeth, ac yn ei ddefnyddio mewn amgylcheddau masnachol, mae ein myfyrwyr yn dechrau yn y gweithle gyda dealltwriaeth gadarn o foeseg a goblygiadau defnyddio’r gorffennol i ddehongli’r presennol.

Gall y BA Hanes eich paratoi i symud i ystod o swyddi lefel raddedig, gan gynnwys:

  • Y Gwasanaeth Sifil, addysg a sefydliadau hanes a threftadaeth, gan gynnwys amgueddfeydd
  • Rolau polisi ym maes eang diwylliant a hamdden
  • Addysg (drwy TAR)
  • Y Cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus
  • Ystod eang o rolau'n defnyddio sgiliau meddwl yn feirniadol uwch yn ogystal â phrofiad gwaith ymarferol e.e. rheoli digwyddiadau.
  • Astudiaethau academaidd pellach mewn hanes a disgyblaethau a gyrfaoedd cysylltiedig yn y byd academaidd

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Hanes

Hanes gyda Blwyddyn Dramor

Hanes gyda Blwyddyn mewn Diwydiant