Llenyddiaeth Saesneg, BA (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
students working together

Trosolwg o'r Cwrs

Yn Abertawe, mae astudio Llenyddiaeth Saesneg yn golygu archwilio syniadau sy'n bwysig, rhai o'r gorffennol a'r presennol - gan eich gwneud chi'n rhan o waith diwylliannol beirniadol o bwys!

Mae ein gradd yn gwneud astudio llenyddiaeth yn gyfoes drwy archwilio testunau yn eu fframweithiau diwylliannol a hanesyddol a meddwl am yr hyn y maent yn ei olygu i'r byd rydyn ni'n byw ynddo heddiw. Mewn marchnad swyddi sy'n newid yn gyflym, mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi graddedigion sydd â'r gallu i wynebu heriau, dadansoddi ac ysgrifennu cynnwys yn glir, a chyfathrebu mewn modd sy'n dwyn perswâd. Bydd ein gradd yn eich helpu i feithrin y sgiliau hynny.

Drwy gydol y rhaglen hon, byddwch yn:

  • Profi 'teithio' llenyddol ar draws amser a lle, drwy archwilio testunau Saesneg a ysgrifennwyd mewn cyd-destunau lleol a byd-eang, o'r cyfnod canoloesol hyd heddiw.
  • Archwilio'r cwestiynau diwylliannol mwyaf dybryd drwy destunau llenyddol: am hunaniaeth, yr argyfwng amgylcheddol, rhywedd, hil ac ethnigrwydd, a chenedl
  • Cysylltu ag arbenigwyr. Gweithio gydag arbenigwyr cyhoeddi, cyrff diwylliannol, paneli gwobrau llenyddol, ac arweinwyr y diwydiant i helpu i lunio ein tirwedd lenyddol.
  • Caffael sgiliau meddwl yn feirniadol, darllen ar gyfer ystyr, ysgrifennu at bwrpas, ac atebion creadigol: sgiliau sydd i gyd yn hanfodol i'r farchnad swyddi fodern.
  • Cynnig safbwynt amrywiol a beirniadol i gyflogwyr.
  • Cynhyrchu cymwysiadau proffesiynol, byd go iawn, creadigol a beirniadol.
  • Meithrin gyrfa ag effaith. Paratoi ar gyfer rolau cyffrous ym maes cyhoeddi, y diwydiannau creadigol a diwylliannol, ysgrifennu/awduraeth, newyddiaduraeth, cyfathrebu a chysylltiadau cyhoeddus, a rheoli gwyliau llenyddol, fel beirniaid, sgriptwyr a chrewyr cynnwys.

Gyda'r diwydiannau diwylliannol a chreadigol bellach ymhlith y sectorau byd-eang sy'n tyfu gyflymaf, dyma'r amser i fod yn rhan o'r dyfodol llenyddol!

Pam Llenyddiaeth Saesneg yn Abertawe?

Addysgir y rhaglen ar Gampws godidog Parc Singleton, mewn parcdir yn edrych dros Fae Abertawe, ar ymyl Penrhyn Gŵyr;

Mae Llenyddiaeth Saesneg yn Abertawe:

  • Yn yr 11eg safle yn y DU ar gyfer Effaith Ymchwil (REF 2021)
  • Ymysg y 15 adran orau yn y DU am Foddhad â’r Addysgu (Guardian University Guide 2026)
  • Ymhlith o 101-150 brifysgolion gorau’r byd (Safleoedd Prifysgolion y Byd yn ôl Pwnc QS 2025)

Cydnabyddir ein staff academaidd yn rhyngwladol am eu hymchwil. Byddwch yn dysgu gan awduron profiadol, sefydledig y mae eu gwaith wedi'i gyhoeddi, ei ddarlledu a'i berfformio'n eang. Byddwch yn elwa o'r arbenigedd hwn ac yn meithrin creadigrwydd beirniadol, gan wella eich sgiliau darllen, ysgrifennu, a meddwl sy'n hanfodol ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol. 

Bydd gennych hefyd yr opsiwn i dreulio semester yn UDA, Canada, Tsieina, Hong Kong neu Singapore.

Eich Profiad Llenyddiaeth Saesneg

Gallwch ddewis o ystod ddiddorol o bynciau Llenyddiaeth Saesneg ac ysgrifennu creadigol i deilwra'ch gradd i'ch diddordebau.

Rydym yn cynnig cynnwys cwrs amrywiol a hyblyg, ac felly gallwch lywio’ch cwrs i gyd-fynd â’ch diddordebau chi, boed yn llenyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol, llenyddiaeth y Dadeni, ffuglen Gothig a genres eraill, llenyddiaeth y 19eg ganrif, llenyddiaeth fodern a chyfoes neu ysgrifennu creadigol a phroffesiynol.

Mae gan Gymru draddodiad telynegol cyfoethog ac Abertawe yw man geni'r bardd a'r awdur Dylan Thomas. Gallwch fod yn rhan o brosiectau unigryw Canolfan Dylan Thomas a Theatr Genedlaethol Cymru.

Bydd gennych hefyd diwtor personol ar gyfer unrhyw gymorth bugeiliol ac academaidd y gallai fod ei angen arnoch, ac mae'r Gymdeithas Myfyrwyr Saesneg fywiog yn Abertawe yn trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau llenyddol, cymdeithasol a diwylliannol.

Os wyt ti'n poeni am fodloni ein gofynion mynediad, beth am ystyried y radd BA Llenyddiaeth Saesneg gyda Blwyddyn Sylfaen. Yn ystod dy flwyddyn sylfaen, byddi di'n dysgu'r sgiliau allweddol y mae eu hangen arnat ti i lwyddo yn dy radd wrth ddatblygu gwybodaeth am dy faes pwnc a sut mae'n perthyn i'r dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol.

Cyfleoedd Cyflogaeth Llenyddiaeth Saesneg

Erbyn diwedd y radd, byddwch yn gyfathrebwr hyderus ac yn feddyliwr beirniadol, a bydd gennych sgiliau trosglwyddadwy mewn dadansoddi, ysgrifennu a datrys problemau. Byddwch yn datblygu galluoedd cyfathrebu rhagorol yn ysgrifenedig ac ar lafar, yn dyfnhau eich sgiliau ymchwil a'ch meddwl dadansoddol, ac yn dysgu cyflwyno syniadau mewn amrywiaeth o fformatau. Byddwch hefyd yn gallu datrys problemau, gwneud penderfyniadau gwybodus, a rheoli eich amser a'ch llwyth gwaith yn effeithiol. Mae pob un o’r rhain yn rhinweddau dymunol yn y farchnad swyddi fodern.

Mae ein graddedigion wedi cael swyddi yn y meysydd canlynol:

  • Ysgrifennu/awdura
  • Newyddiaduraeth
  • Cyhoeddi
  • Y Cyfryngau
  • Addysg
  • Marchnata
  • Cysylltiadau cyhoeddus
  • Addysgu
  • Rheoli gwyliau llenyddol
  • Sgriptio

Hefyd ceir cyfleoedd ar gyfer astudiaethau pellach ar lefel Meistr ac Ymchwil. Gan gynnwys rhaglenni MA presennol mewn Llenyddiaeth Saesneg, Ysgrifennu Creadigol, Astudiaethau Canoloesol, Cyfathrebu, Arferion y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus, Cyfryngau Digidol, a Hanes a Threftadaeth Cyhoeddus. Gall ein rhaglenni MA arwain at gyfleoedd PhD hefyd. Mae ein TAR Uwchradd mewn Saesneg hefyd yn llwybr poblogaidd i fyfyrwyr ar ôl  eu BA mewn Llenyddiaeth Saesneg. 

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Llenyddiaeth Saesneg, BA (Anrh)

Llenyddiaeth Saesneg gyda Blwyddyn Sylfaen, BA (Anrh)

Llenyddiaeth Saesneg gyda Blwyddyn Dramor, BA (Anrh)

Llenyddiaeth Saesneg gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BA (Anrh)