Addysg a'r Gymraeg (Llwybr i Fyfyrwyr Iaith Gyntaf), BA (Anrh)

Mae clirio ar agor!

myfrywr

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein gradd BA Addysg a’r Gymraeg yn gwrs tair blynedd sy'n seiliedig ar ymchwil, sy'n cefnogi'r gwaith o ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer ystod eang o yrfaoedd cyfrwng Cymraeg ym maes addysg a’r tu hwnt.

Mae addysg yn faes astudio pwysig sy'n tynnu ar ddisgyblaethau seicoleg, cymdeithaseg, athroniaeth a hanes. Yn eich modiwlau Addysg, byddwch yn cael cyflwyniad i ystod eang o bynciau gan gynnwys polisi addysg, dysgu ac addysgu, lles, datblygiad plant, anghenion dysgu ychwanegol, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol ac addysg ddigidol.

Bydd eich astudiaethau Cymraeg iaith gyntaf yn eich galluogi i archwilio safbwyntiau gwahanol ar yr iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, gan roi cyfleoedd i chi drafod cyd-destun rhyngwladol yr iaith Gymraeg, wrth archwilio cysylltiadau byd-eang ac amlddiwylliannaeth yng Nghymru.

Fel myfyriwr Addysg a’r Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, bydd gennych chi sylfaen gadarn mewn damcaniaethau a chysyniadau cyfoes sy'n cael eu llywio gan sylfaen ymchwil gref.  Byddwch chi'n graddio â’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i feddwl yn feirniadol am addysg a byddwch chi'n gallu cymhwyso eich gwybodaeth mewn lleoliadau byd go iawn, mewn cyd-destunau addysgol ac ar draws y byd yn ehangach. Mae'r rhaglen hon yn mynd y tu hwnt i astudiaethau traddodiadol; yn eich gwahodd i archwilio beth yw ystyr siarad ac ysgrifennu’r Gymraeg a byw drwy gyfrwng yr iaith yn yr unfed ganrif ar hugain.

Mae'r rhaglen hon ar gyfer siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf – os ydych yn siaradwr Cymraeg ail iaith, mae gennym lwybr ar gyfer myfyrwyr ail iaith, sy'n cynnwys cyfleoedd i wella eich sgiliau iaith Gymraeg.

Pam Addysg a'r Gymraeg (Llwybr i Fyfyrwyr Iaith Gyntaf) yn Abertawe?

Byddwch chi'n astudio ar ein Campws Parc Singleton prydferth, mewn parcdir sy’n edrych dros Fae Abertawe wrth ymyl Penrhyn Gŵyr. Trwy gydol y rhaglen, bydd gennych chi'r cyfle i:

  • Archwilio ymarfer addysgol yn yr oes ddigidol drwy astudio technolegau dysgu digidol sydd ar flaen y gad o ran tueddiadau addysg cyfredol
  • Dysgu am bolisi ac ymarfer addysgol hanesyddol a chyfoes
  • Ennill dealltwriaeth o sut olwg sydd ar addysg mewn gwledydd gwahanol, gan archwilio'r berthynas rhwng cydraddoldeb, tegwch ac amrywiaeth mewn addysg
  • Archwilio materion sy'n ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol a lles
  • Astudio damcaniaethau ac athroniaethau gwahanol am ddysgu ac addysgu

Byddwch hefyd yn cael y cyfle i wneud y canlynol:

  • Dysgu gan awduron a beirdd Cymraeg blaenllaw hynod gymwys, y mae dau ohonynt yn enillwyr cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn yng Nghymru.
  • Astudio iaith ac ieithyddiaeth Gymraeg, cynllunio ieithyddol a pholisi a llenyddiaeth
  • Elwa o ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn ogystal ag Ysgoloriaethau Academi Hywel Teifi

Eich Profiad Addysg a'r Gymraeg (Llwybr i Fyfyrwyr Iaith Gyntaf)

Byddwch yn astudio 120 o gredydau'r flwyddyn, gyda 60 o gredydau modiwlau Addysg a 60 o gredydau modiwlau Cymraeg. Mae'r rhaglen hon yn un hyblyg, a bydd yn rhoi'r opsiwn i chi ddewis nifer o fodiwlau bob blwyddyn, gan eich galluogi i lywio eich dysgu eich hun. Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn ymgymryd â modiwl ymchwil a thraethawd hir gorfodol, y byddwch yn eu cwblhau wrth gael eich cefnogi gan eich goruchwyliwr.

Cewch gyflwyniad i ystod o bynciau sy'n berthnasol i addysg gyfoes gan gynnwys tegwch ac amrywiaeth, polisi ac ymarfer, lles a thechnolegau digidol, damcaniaethau addysgu a dysgu, a'r Cwricwlwm i Gymru. Byddwch hefyd yn archwilio datblygiadau diweddar megis Deddf y Gymraeg ac Addysg (2025), sy'n eich galluogi i ddeall sut mae polisi iaith yn llywio mynediad, tegwch a darpariaeth yn system addysg Cymru.   Mae gan raddedigion Addysg a'r Gymraeg yr wybodaeth a'r sgiliau i feddwl yn feirniadol am ddamcaniaeth a chysyniadau addysg, a dod yn raddedigion sy'n cael eu llywio gan ymchwil gan gymhwyso eu gwybodaeth i leoliadau'r byd go iawn mewn addysg a’r tu hwnt.

Ar draws y rhaglen, caiff addysgu ei gyflwyno drwy ystod o ddulliau, gan gynnwys darlithoedd, gweithdai a thiwtora personol un-i-un. Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio i annog datblygiad sgiliau a chymwyseddau allweddol gan gynnwys meddwl yn feirniadol, meddylfryd annibynnol, cydweithio, cyfathrebu a rheoli amser. Byddwch yn cael eich cefnogi i ddatblygu dyfnder ac ehangder eich gwybodaeth trwy ddarllen annibynnol, gweithgareddau mewn gweithdai a pharatoi a chyflwyno aseiniadau, yn ogystal â gwaith grŵp cydweithredol, cyflwyniadau a dysgu hunangyfeiriedig.

Mae'r rhaglen hon hefyd yn cynnwys y cyfle i ymgymryd â Blwyddyn Dramor, gan wella'ch dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy. 

Mae'r Flwyddyn Sylfaen opsiynol sy'n rhan o'r rhaglen hon yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch, ac yn sicrhau bod gennych y sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig fwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i fyd addysg ar ôl seibiant. Ar ôl i chi gwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch chi'n symud ymlaen i Flwyddyn 1 eich gradd BA. 

Modiwlau

Rydym wedi gwella ein modiwlau i ddarparu profiad dysgu deniadol, wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddatblygu'r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Darganfyddwch beth sydd ar gael a chael eich hysbrydoli gan y modiwlau y gallwch eu hastudio.

Gofynion Mynediad

Mae gennym ni leoedd ar draws ystod eang o bynciau ar gyfer mynediad ym Medi 2026 - cysylltwch â'n Llinell Gymorth Clirio i drafod eich opsiynau.

0808 175 3071

Rydym hefyd yn croesawu ymholiadau gan ymgeiswyr sy’n ymchwilio i ddechrau cwrs yn 2027 - gweler ein Tudalen Gofynion Mynediad i gael gwybod am ystodau cynnig nodweddiadol, e-bostiwch ni neu ffoniwch 01792 295111.

A ydych yn fyfyriwr rhyngwladol sy'n aros am ganlyniadau arholiad neu sgôr prawf Iaith Saesneg? Os felly, byddem yn eich annog i gyflwyno cais drwy ein system ymgeisio uniongyrchol gan efallai na fyddwch yn gymwys am gynnig amodol.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Mae cyflogadwyedd, gan ganolbwyntio ar gynyddu eich rhagolygon fel myfyriwr graddedig, yn rhan ganolog o'r radd, ac mae wedi'i wreiddio ar draws y rhaglen gyfan, gyda chyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau cyflogadwyedd ar gael i chi ar bob lefel.

Ochr yn ochr â hyn, bydd gennych chi hefyd fynediad at gyfres o ddarlithoedd a gweithdai sy'n canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd allweddol. Mae'r darlithoedd a'r gweithdai hyn yn datblygu eich sgiliau o ran ysgrifennu CV, paratoi ar gyfer cyfweliadau, gwneud penderfyniadau gyrfa, rhwydweithio, gweithio mewn tîm a rheoli amser.

Mae graddedigion y rhaglen hon yn symud ymlaen i ystod o lwybrau. Mae'r rhain yn cynnwys rhaglenni Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) mewn addysg gynradd neu uwchradd, graddau meistr mewn addysg neu astudiaethau plentyndod, neu astudiaethau lefel ôl-raddedig eraill. Mae gyrfaoedd posib yn cynnwys rolau mewn addysg, gwaith ieuenctid, gwaith cymdeithasol, y trydydd sector, ymchwil gymdeithasol ac addysgol, awdurdodau lleol, sefydliadau dysgu cymunedol, sefydliadau'r sector cyhoeddus, rheoli'r blynyddoedd cynnar, addysg feithrin ac oedran cyn ysgol ac addysg uwch.

Addysg a'r Gymraeg (Llwybr i Fyfyrwyr Iaith Gyntaf), BA (Anrh)

Addysg a'r Gymraeg gyda Blwyddyn Dramor, BA (Anrh)