Addysg a Seicoleg, BSc (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
myfrywr

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd astudio Addysg a Seicoleg yn rhoi hyfforddiant gwyddonol arbenigol i chi ynghylch sut mae'r meddwl, yr ymennydd ac ymddygiad yn cydweithio.

Byddwch yn archwilio'r prosesau seicolegol a niwrowyddonol sy'n sail i feddwl, rhesymu, cof ac iaith. Byddwch hefyd yn archwilio effeithiau anafiadau i'r ymennydd ac yn ymchwilio i ffyrdd sy'n seiliedig ar dystiolaeth o wella ymddygiad sy'n gysylltiedig ag iechyd. Ynghyd â hyn, mae ein gradd yn cynnig y cyfle i astudio amrywiaeth eang o bynciau sy'n canolbwyntio ar addysg, gan gynnwys polisi addysg, dysgu ac addysgu, lles, datblygiad plant, anghenion dysgu ychwanegol, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol, ac addysg ddigidol.

Drwy gydol y cwrs, byddwch chi'n datblygu sgiliau ymchwil, ysgrifennu a dadansoddi beirniadol rhagorol, yn ogystal â lefel uchel o rifedd a gallu TGCh.

PAM ADDYSG A SEICOLEG YN ABERTAWE?

Mae'r Adran Addysg yn Abertawe yn:

  • Un o'r 15 orau yn y DU am Ansawdd Ymchwil (Complete University Guide 2026)

Mae Seicoleg yn Abertawe:

  • Ymysg y 30 rhaglen orau yn y DU o ran Rhagolygon Gyrfa (Guardian University Guide 2026)
  • Ymysg y 201-250  o adrannau gorau yn y byd (Safleoedd Prifysgolion y Byd The Times Higher Education yn ôl Pwnc 2026)

Mae dewis Abertawe'n golygu y byddwch chi'n ymuno â chymuned gefnogol sy'n weithgar o ran ymchwil, lle byddwch chi'n cael eich addysgu gan arbenigwyr o ddwy gyfadran flaenllaw, y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd a Chyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol. Mae ein hymagwedd integredig yn sicrhau nad ydych chi'n astudio Addysg a Seicoleg fel pynciau ar wahân, ond fel disgyblaethau cysylltiedig sy'n eich helpu i ddeall ymddygiad, dysgu, a newid cymdeithasol mewn ffordd ystyrlon.

Mae ein cymuned academaidd gyfeillgar yn un o'n cryfderau mwyaf. O'r cyfnod sefydlu hyd at eich blwyddyn olaf, byddwch yn cael eich cefnogi gan diwtoriaid personol, timau addysgu profiadol, ac amrywiaeth eang o wasanaethau lles ac academaidd.

Gyda chysylltiadau cryf â chyflogwyr, sefydliadau polisi a'r trydydd sector, ynghyd â sgiliau cyflogadwyedd sydd wedi'u gwreiddio drwy gydol y cwrs, mae Abertawe'n sicrhau bod gennych chi'r hyder, y profiad o'r byd go iawn, a’r sgiliau trosglwyddadwy i ffynnu yn eich gyrfa yn y dyfodol.

EICH PROFIAD ADDYSG A SEICOLEG

Mae ein BSc (Anrh) Addysg a Seicoleg yn radd gydanrhydedd integredig a gyflwynir ar y cyd gan yr Adran Seicoleg ac Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Mae'r rhaglen yn seiliedig ar y ddealltwriaeth bod mewnwelediad ystyrlon i ymddygiad a dysgu yn gofyn am safbwyntiau seicolegol ynghylch y meddwl, yr ymennydd ac ymddygiad, a damcaniaethau addysgol sy’n ymwneud â thegwch, cyfiawnder cymdeithasol, polisi, arweinyddiaeth a dysgu.

Mae'r radd yn cynnig rhaglen astudio gydlynol a chynyddol sy'n cysylltu gwyddor seicolegol â damcaniaeth ac ymarfer addysgol cyfredol yn fwriadol. Mae ei sylfeini ymchwil cryf, a'r pwyslais ar ymarfer sy'n foesegol ac yn gymdeithasol gyfrifol, yn sicrhau bod gennych chi'r hyblygrwydd deallusol, yr ymwybyddiaeth feirniadol a'r sgiliau cymhwysol sydd eu hangen i fynd i'r afael â materion cymdeithasol cymhleth mewn cyd-destunau proffesiynol a byd-eang amrywiol.

Drwy gydol y rhaglen, byddwch chi'n ymdrin ag astudiaethau achos, senarios byd go iawn, a thasgau datrys problemau cymhwysol sy'n tynnu ar feysydd Addysg a Seicoleg. Mae'r ymagwedd hon yn eich helpu i gysylltu damcaniaeth â phrofiad personol a heriau addysgol a chymdeithasol cyfredol. Byddwch chi'n cael eich cefnogi drwy ddysgu ar sail trafodaeth, gweithgareddau wedi'u sgaffaldio, ac ymarfer dan arweiniad er mwyn meithrin hyder ac annibyniaeth o ran eich sgiliau academaidd a phroffesiynol.

Mae'r rhaglen hon yn cynnwys y cyfle i ymgymryd â Blwyddyn Dramor mewn lleoliadau fel UDA, Canada, Tsieina, Hong Kong neu Singapore, gan wella eich dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy. 

Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnig y cyfle i chi dreulio Blwyddyn mewn Diwydiant, yn y DU neu dramor, gan eich galluogi i gael profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl yn unig, sydd â chyflog gwerth mwy nag £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos. 

Os ydych chi'n dewis peidio ag ymgymryd â blwyddyn gyfan mewn diwydiant, bydd dal gennych yr opsiwn i gwblhau lleoliad gwaith fel rhan o'r Modiwl Lleoliad Gwaith. Mae nifer o'r lleoliadau gwaith sydd ar gael yn y trydydd sector, a gallwch hefyd ddod o hyd i sefydliad sy'n cyd-fynd â'ch diddordebau eich hun hefyd. Mae'r profiad hwn yn cefnogi eich datblygiad proffesiynol ac yn eich helpu i roi eich dysgu ar waith mewn cyd-destun ymarferol.

CYFLEOEDD CYFLOGAETH ADDYSG A SEICOLEG

Gall myfyrwyr deilwra'r rhaglen i'w dyheadau gyrfaol drwy ddewis o amrywiaeth o fodiwlau dewisol.

Mae nifer o feysydd galwedigaethol yn cysylltu'n agos â seicoleg, gan gynnwys rolau iechyd, clinigol, addysg, y byd academaidd, lleoliadau galwedigaethol, cwnsela, gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff, niwrowyddoniaeth, a rolau fforensig. Mae graddedigion seicoleg hefyd yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr yn y trydydd sector.

Mae'r radd hon yn darparu sylfaen gref mewn damcaniaeth seicolegol, ymchwil a sgiliau cymhwysol. Mae rhai graddedigion yn penderfynu ymgymryd â hyfforddiant arbenigol pellach mewn meysydd megis seicoleg glinigol, fforensig, addysgol, neu seicoleg chwaraeon, tra mae eraill yn mynd ymlaen i feithrin gyrfaoedd ar draws amrywiaeth eang o ddiwydiannau.

Mae graddedigion y cwrs hwn wedi mynd ymlaen i rolau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, addysg, ymchwil, y gwasanaethau cyhoeddus a sifil, a'r trydydd sector. Mae eraill wedi sicrhau gyrfaoedd mewn rheolaeth, adnoddau dynol, marchnata, profiad defnyddwyr a dadansoddi data. Mae'r sgiliau dadansoddol, ymchwil, cyfathrebu a datrys problemau a ddatblygir yn ystod y radd yn cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr y tu hwnt i lwybrau seicoleg traddodiadol.

P'un a ydych chi'n mynd ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig neu'n mynd yn syth i fyd gwaith, mae'r radd hon yn sicrhau bod gennych chi sgiliau hyblyg a throsglwyddadwy sy'n agor amrywiaeth o ddrysau o ran opsiynau gyrfa, yn hytrach na'ch arwain at un llwybr proffesiynol yn unig.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Addysg a Seicoleg, BSc (Anrh)

Addysg a Seicoleg gyda Blwyddin Dramor, BSc (Anrh)