Trosolwg o'r Cwrs
A ydych yn gweld eich hun yn gweithio mewn swydd gyllid ar lefel uwch mewn sefydliad rhyngwladol? A ydych am chwarae rhan allweddol yn llwyddiant busnes mawr?
Gallai'r cwrs gradd BSc Economeg a Chyllid gyda Blwyddyn Sylfaen ym Mhrifysgol Abertawe eich helpu i gyflawni hyn.
Os nad ydych yn ennill y graddau angenrheidiol i gofrestru ar gyfer y cwrs BSc Economeg a Chyllid, y cwrs BSc Economeg a Chyllid gyda Blwyddyn Sylfaen yw'r radd i chi.
Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn ffordd ardderchog o feithrin y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ym maes economeg a chyllid, cyn ymuno â myfyrwyr Blwyddyn 1 y cwrs gradd BSc Economeg a Chyllid yn yr Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol.
Mae'r cwrs hwn yn cyfuno elfennau craidd economeg a chyllid ac yn meithrin dealltwriaeth gynhwysfawr o economeg fodern a'r ffordd y caiff ei chymhwyso yn y diwydiant ariannol. Bydd y cyfle i ganolbwyntio ar feysydd arbenigol fel cyllid corfforaethol yn eich helpu i werthfawrogi'r gydberthynas rhwng dadansoddi economaidd a gweithrediadau ariannol.