Trosolwg o'r Cwrs
Mae astudio Astudiaethau Americanaidd a Chysylltiadau Rhyngwladol yn golygu dysgu am ddiwylliant, hanes a gwleidyddiaeth y wlad fwyaf dylanwadol yn y byd, ochr yn ochr â llawer o agweddau ar wleidyddiaeth ac economeg fyd-eang a rhanbarthol.
Mae ein cwrs gradd BA pedair blynedd gyda blwyddyn dramor yn cynnig amrywiaeth o bosibiliadau gyrfa cyffrous drwy eich helpu i feithrin sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn rhoi llawer o werth arnynt.
Byddwch yn cael cyfle i astudio hanes, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth a diwylliant America, o wladychu i arlywyddiaeth Donald Trump, ac amrywiaeth o bynciau ym maes cysylltiadau rhyngwladol, o globaleiddio a sefydliadau byd-eang i hawliau dynol ac economi wleidyddol.