Cysylltiadau Rhyngwladol gydag Ieithoedd Modern, BA (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Cynhadledd Cysylltiadau rhyngwladol

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Trosolwg o'r Cwrs

Wrth i dechnoleg, trafnidiaeth, ac economi sy'n fwy cymhleth ac wedi'i globaleiddio wneud ein byd yn llai, mae gwerth perthnasoedd heddychlon a chydweithredol rhwng gwladwriaethau a chenhedloedd yn fwyfwy pwysig. Ar yr un pryd, mae'r bygythiadau y mae gwladwriaethau, cymunedau ac unigolion yn eu hwynebu yn dod yn fwy dwys ac yn fwy eang. Sut mae gwladwriaethau yn ymdopi â natur newidiol gwrthdaro a bygythiadau newydd i ddiogelwch? Sut rydyn ni'n cynnal ac yn atgyfnerthu cysylltiadau heddychlon rhwng pobl a gwladwriaethau? Pa rôl gall sefydliadau rhyngwladol ei chwarae ochr yn ochr â gweithredwyr y wladwriaeth mewn byd cymhleth a rhyng-gysylltiedig?

Mae ein gradd BA Cysylltiadau Rhyngwladol ac Ieithoedd Modern yn rhoi cyfle i chi ymchwilio i effaith byd globaleiddiol ar wladwriaethau a dinasyddion, rôl cyfathrebu digidol wrth lunio dealltwriaeth o ddigwyddiadau, a datblygiad hawliau dynol byd-eang. Mae'r ysgogwyr a'r grymoedd y tu ôl i gydweithredu a gwrthdaro rhyngwladol yn rhan o'n gradd fel y mae effaith gwrthdaro ar y berthynas rhwng gwladwriaethau a phobl. Byddwch yn dysgu sut mae pŵer, normau a sefydliadau, yn ogystal â fframweithiau cyfreithiol, yn effeithio ar ein bywydau beunyddiol a sut mae digwyddiadau hanesyddol yn dal i gael effaith amlwg ar y drefn fyd-eang.

Fel rhan o'ch gradd byddwch hefyd yn astudio amrywiaeth gyfoethog eich iaith ddewisol (Ffrangeg, Sbaeneg neu Almaeneg) ar lefel sy'n addas i'ch gwybodaeth bresennol, a bydd cyfle i dreulio blwyddyn dramor. Mae hyn yn rhoi cyfle uniongyrchol i chi gael mewnwelediadau diwylliannol, i ryngweithio'n uniongyrchol â diwylliannau a systemau addysgol eraill, ac i wella eich sgiliau ieithyddol ymhellach.

Eich profiad cysylltiadau Rhyngwladol ag Ieithoedd Modern

Gan astudio ar gampws prydferth Parc Singleton, mewn parcdir yn edrych dros Fae Abertawe ac wrth ymyl Penrhyn Gŵyr, bydd gennych chi’r cyfle i:

  • Astudio amrywiaeth eang o fodiwlau gan gynnwys y rhai hynny sy'n ymwneud â democratiaeth, datblygu rhyngwladol, gwleidyddiaeth ac athroniaeth.
  • Ymgymryd ag ystod o fodiwlau arbenigol sy'n eich galluogi i deilwra eich nodau gyrfa yn y dyfodol wrth ddatblygu eich diddordebau unigol.
  • Ymgysylltu ag amrywiaeth gyfoethog eich iaith ddewisol a chael eich addysgu gan arbenigwyr arloesol sydd â chysylltiadau cryf yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
  • Meithrin sgiliau rhagorol ar lafar ac wrth ysgrifennu a datblygu sgiliau cryf ymchwilio a dadansoddi cryf.
  • Yn eich blwyddyn olaf, gallwch ddewis lle ar Gynllun Lleoliadau Gwaith Senedd Cymru ac ymgymryd â'r Modiwl Astudiaethau Seneddol gyda siaradwyr gwadd a theithiau i Dŷ'r Cyffredin.

Mae'r rhaglen hon yn cynnwys cyfleoedd i dreulio Blwyddyn Dramor, gan wella'ch dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy. Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnig y cyfle i chi dreulio Blwyddyn ym myd Diwydiant, yn y DU neu dramor, gan eich galluogi i ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl yn unig, sydd â chyflog gwerth mwy nag £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos.

Mae'r Flwyddyn Sylfaen ddewisol sy'n rhan o'r rhaglen hon yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch, ac yn sicrhau bod gennych y sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig mwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i fyd addysg ar ôl seibiant. Ar ôl i chi gwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch chi'n symud ymlaen at Flwyddyn 1 eich gradd BA.

Modiwlau

Rydym wedi gwella ein modiwlau i ddarparu profiad dysgu deniadol, wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddatblygu'r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Darganfyddwch beth sydd ar gael a chael eich hysbrydoli gan y modiwlau y gallwch eu hastudio.

Gofynion Mynediad

Mae gennym ni leoedd ar draws ystod eang o bynciau ar gyfer mynediad ym Medi 2026 - cysylltwch â'n Llinell Gymorth Clirio i drafod eich opsiynau.

0808 175 3071

Rydym hefyd yn croesawu ymholiadau gan ymgeiswyr sy’n ymchwilio i ddechrau cwrs yn 2027 - gweler ein Tudalen Gofynion Mynediad i gael gwybod am ystodau cynnig nodweddiadol, e-bostiwch ni neu ffoniwch 01792 295111.

A ydych yn fyfyriwr rhyngwladol sy'n aros am ganlyniadau arholiad neu sgôr prawf Iaith Saesneg? Os felly, byddem yn eich annog i gyflwyno cais drwy ein system ymgeisio uniongyrchol gan efallai na fyddwch yn gymwys am gynnig amodol.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Mae ein graddedigion yn cael eu cyflogi ledled y byd ac yn dechrau gyrfaoedd mewn meysydd megis:

  • Addysg
  • Llywodraeth a gwleidyddiaeth
  • Sefydliadau dyngarol
  • Busnes
  • Y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus
  • Y gyfraith a gwasanaethau cyhoeddus

Mae ein myfyrwyr hefyd wedi cael eu cyflogi mewn sefydliadau megis:

  • Westminster Forum Projects
  • Pleidiau gwleidyddol
  • Price Waterhouse Coopers

Cysylltiadau Rhyngwladol gydag Ieithoedd Modern, BA (Anrh)

Cysylltiadau Rhyngwladol gydag Ieithoedd Modern gyda Blwyddyn Dramor, BA (Anrh)

Cysylltiadau Rhyngwladol gydag Ieithoedd Modern gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BA (Anrh)