Troseddeg a Pholisi Cymdeithasol, BSc (Anrh)

Mae clirio ar agor!

students in the school of law

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Trosolwg o'r Cwrs

Mae’r radd hon mewn Troseddeg a Pholisi Cymdeithasol yn cyfuno dau faes pwnc cyffrous sy’n datblygu’n gyflym, ac mae gan y ddau ohonynt ddylanwad enfawr ar fywydau pob un ohonom.

Ni fyddwch yn dysgu damcaniaethau yn unig - byddwch chi'n eu cymhwyso i faterion yn y byd go iawn: o anghydraddoldebau iechyd i drais rhyweddol, seiberdroseddu i dlodi, deinameg deuluol i ddioddefoleg. Erbyn y diwedd, bydd gennych ddealltwriaeth ddofn o sut mae cymdeithasau yn mynd i'r afael â'u heriau cymdeithasol anoddaf.

A byddwch chi'n meithrin sgiliau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi.  Drwy gydol y rhaglen, byddwch chi'n hogi sgiliau ymchwil, dadansoddi, cyfathrebu, a rhesymu moesegol - sgiliau trosglwyddadwy sy'n agor drysau mewn unrhyw yrfa. Mae'r radd hon yn eich arfogi i feddwl yn feirniadol, gweithredu ag uniondeb, a chael effaith wirioneddol mewn perthynas â throseddu, polisi cymdeithasol a thu hwnt.

Pam Troseddeg a Pholisi Cymdeithasol yn Abertawe?

Gan astudio yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, byddwch yn elwa o fod yn rhan o amgylchedd bywiog ac amrywiol, sy’n adnabyddus am ei weithgarwch ymchwil ac addysgu.

Eich Profiad Troseddeg a Pholisi Cymdeithasol

Mae ein strwythur gradd hyblyg yn rhoi'r cyfle i chi deilwra'ch astudiaethau i'ch diddordebau penodol, eich nodau gyrfa, neu'ch uchelgeisiau ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig.

Byddwch chi'n elwa o amgylchedd ymchwil amrywiol a deinamig, ynghyd â llawer o gyfleoedd i wneud cysylltiadau ar draws disgyblaethau.

Mae'r rhaglen hon hefyd yn cynnig profiadau ymarferol sy'n dod â damcaniaeth yn fyw, megis:

  • Teithiau maes i safleoedd fel y Senedd, Big Pit, Pencadlys Heddlu De Cymru, Carchar Abertawe
  • Siaradwyr gwadd o sefydliadau gan gynnwys Heddlu Avon a Gwlad yr Haf, Sefydliad Bevan, TUC Cymru, a Just Stop Oil.

Mae'r rhaglen hon yn cynnwys cyfleoedd i ymgymryd â semester neu flwyddyn dramor, mewn lleoliadau megis Unol Daleithiau America, Canada, Tsieina, Hong Kong, neu Singapore, gan gyfoethogi eich dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy.

Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnig y cyfle i chi dreulio Blwyddyn mewn Diwydiant, yn y DU neu dramor, gan eich galluogi i ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl yn unig, sydd â chyflog gwerth mwy nag £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos.

Modiwlau

Rydym wedi gwella ein modiwlau i ddarparu profiad dysgu deniadol, wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddatblygu'r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Darganfyddwch beth sydd ar gael a chael eich hysbrydoli gan y modiwlau y gallwch eu hastudio.

Gofynion Mynediad

Mae gennym ni leoedd ar draws ystod eang o bynciau ar gyfer mynediad ym Medi 2026 - cysylltwch â'n Llinell Gymorth Clirio i drafod eich opsiynau.

0808 175 3071

Rydym hefyd yn croesawu ymholiadau gan ymgeiswyr sy’n ymchwilio i ddechrau cwrs yn 2027 - gweler ein Tudalen Gofynion Mynediad i gael gwybod am ystodau cynnig nodweddiadol, e-bostiwch ni neu ffoniwch 01792 295111.

A ydych yn fyfyriwr rhyngwladol sy'n aros am ganlyniadau arholiad neu sgôr prawf Iaith Saesneg? Os felly, byddem yn eich annog i gyflwyno cais drwy ein system ymgeisio uniongyrchol gan efallai na fyddwch yn gymwys am gynnig amodol.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Mae ein gradd Polisi Cymdeithasol a Throseddeg yn rhoi pwyslais ar ddamcaniaeth gymdeithasegol a pholisi ac ymarfer cymdeithasol, ac yn meithrin sgiliau cadarn a rhyngddisgyblaethol ar gyfer graddedigion.

Mae'r sgiliau hyn yn drosglwyddadwy iawn mewn ystod eang o sectorau. Mae graddedigion o'r rhaglen BSc Troseddeg a Pholisi Cymdeithasol yn dilyn gyrfaoedd mewn meysydd fel:

 Astudiaethau pellach ac ymchwil

  • Graddau Ôl-raddedig
  • Hyfforddiant Proffesiynol (e.e. Gwaith Cymdeithasol a TAR)
  • Ymchwil Ddoethurol
  • Bod yn gynorthwy-ydd ymchwil mewn sefydliadau academaidd neu bolisi

 Polisi ac Eiriolaeth

  • Eiriolaeth Polisi
  • Sefydliadau Ymchwil
  • Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU
  • Cyrff anllywodraethol a'r Sector Gwirfoddol
  • Gwasanaeth Sifil

 Y System Cyfiawnder Troseddol

  • Plismona 
  • Y Gwasanaeth Prawf
  • Cyfiawnder Ieuenctid
  • Y Gwasanaeth Carchardai
  • Yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol 

Troseddeg a Pholisi Cymdeithasol, BSc (Anrh)

Troseddeg a Pholisi Cymdeithasol, BSc (Anrh)

Troseddeg a Pholisi Cymdeithasol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BSc (Anrh)