Trosolwg o'r Cwrs
I geisio am y cwrs yma rhaid eich bod chi’n aelod sy’n gwasanaethu gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, yn gweithio fel Technegydd Meddygol Argyfwng (EMT) ac yn cwrdd â’r anghenion mynediad fel yr amlinellwyd isod.**
Bydd ein diploma’n rhoi’r sgiliau hanfodol, gwybodaeth, a’r priodoleddau i ddechrau gyrfa cyffrous a gwobrwyol fel Parafeddyg Cofrestredig.
Byddwch yn dysgu am anatomi a ffiisioleg, prif system y corff a’r cyflyrau sy’n eu heffeithio hwy, sut mae asesu cleifion ac adnabod cyflyrau sy’n bygwth bywyd, a gweini cefnogaeth bywyd.
Byddwch hefyd yn datblygu dealltwriaeth o rôl a pherthnasedd yr ymchwilo, cysyniadau o ofal claf, ac egwyddorion cyfreithiol a moesegol yn ymwneud â gofal iechyd.
2il yn y DU am Wyddoniaeth Barafeddygol (Complete University Guide 2024).