Rydym yn falch o ddarparu profiad addysgol rhagorol, gan ddefnyddio'r dulliau dysgu ac addysgu mwyaf effeithiol, wedi'u teilwra'n ofalus i anghenion penodol eich cwrs.
Caiff y rhaglen hon ei chyflwyno'n bennaf drwy weithgareddau cydamserol ac anghydamserol ar-lein, wedi'u hategu gan sesiynau sgiliau ymarferol ar y campws ar gyfnodau penodol. Bydd myfyrwyr ar y rhaglen hon yn cael eu cyflogi ym myrddau iechyd GIG Cymru ac yn cael amser astudio dynodedig i ymgymryd ag addysgu ar-lein ac ar y campws.
Mae sesiynau sgiliau ymarferol, seminarau waith labordy, a gweithdai yn bennaf yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb ar y campws, gan ganiatáu gweithio mewn grŵp ac arddangosiadau. Rydym hefyd yn gweithredu labordai rhithwir ac Amgylcheddau Dysgu Efelychol a fydd yn hwyluso mwy o fynediad at gyfleoedd hyfforddi yn y dyfodol.
Gall dysgu ar-lein ddigwydd ‘yn fyw’ gan ddefnyddio meddalwedd fel Zoom, sy’n eich galluogi I ryngweithio â’r darlithydd a myfyrwyr eraill ac I ofyn cwestiynau. Mae recordiadau darlithoedd hefyd yn caniatáu mwy o hyblygrwydd I ailedrych ar ddeunydd, I adolygu at asesiadau ac I wella dysgu y tu allan I’r ystafell ddosbarth. Mae gan rai modiwlau adnoddau ychwanegol ar Canvas, megis fideos, sleidiau a chwisiau sy’n galluogi astudiaeth hyblyg bellach.
Byddwch yn cael tuag 8 awr o amser cyswllt yr wythnos wrth astudio i fod yn Awdiolegydd drwy’r rhaglen ran-amser hon. Bydd hanner diwrnod o amser astudio hunangyfeiriedig ychwanegol yn cael ei gymeradwyo yn eich contract cyflogaeth gyda'r GIG.
Caiff y maes llafur ei gyflwyno drwy gyfuniad o ddarlithoedd byw ar-lein ac wedi'u recordio, tasgau astudio cyfeiriedig, pecynnau e-ddysgu a dosbarthiadau ymarferol. Yna drwy eich cyflogaeth yn un o fyrddau iechyd GIG Cymru, byddwch hefyd yn cael y cyfle i roi damcaniaeth ar waith mewn ymarfer go iawn.
Asesir dysgu fesul amrywiaeth o ddulliau trwy gydol y tair blynedd o astudio. Byddwch yn cwblhau arholiadau ysgrifenedig, aseiniadau ysgrifenedig, cyflwyniadau, trafodaethau ar sail achos ac asesiadau o gymhwysedd clinigol. Ym mlwyddyn tri, cewch gyfle i gwblhau prosiect ymchwil yn eich rhaglen wyddoniaeth gofal iechyd ddewisol. Caiff canlyniadau hyn eu cyflwyno fel rhan o'ch traethawd hir.