Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r radd Peirianneg Feddygol ran-amser ar gael i unigolion sy'n cael eu cyflogi o fewn byrddau iechyd y GIG ac sy'n canolbwyntio ar agweddau clinigol ac ymarferol ar Beirianneg Feddygol yn eich rôl GIG.
Bydd y cwrs gradd rhan-amser hwn mewn Peirianneg Feddygol yn rhoi'r hyfforddiant arbenigol i chi i'ch galluogi i ddatblygu eich gyrfa fedrus wrth weithio yn y proffesiwn gofal iechyd fel Peiriannydd Meddygol.
Mae'r cwrs rhan-amser hwn yn cynnwys dwy lefel astudio, FHEQ lefel 5 a 6, ac mae'n hygyrch ar ôl cwblhau cymhwyster lefel 4 cydnabyddedig FHEQ, neu gymhwyster cyfatebol. Bydd y rhaglen yn cael ei chwblhau'n rhan-amser dros dair blynedd ac yn cyfuno gwaith academaidd a damcaniaethol trwyadl â'r profiad clinigol ymarferol helaeth y bydd ei angen arnoch yn eich cyflogaeth yn y proffesiwn hanfodol hwn.
Dros dair blynedd byddwch yn dysgu am gylch bywyd offer meddygol, gan gynnwys profi derbyn offer newydd, cyflwyno offer a dyfeisiau i wasanaeth, cynghori ar ddefnyddio offer yn gywir, mynd i'r afael â materion diogelwch cleifion a chael gwared ar hen ddyfeisiau’n ddiogel. Byddwch yn cyfuno gwaith academaidd manwl â sgiliau clinigol a thechnolegol ymarferol mewn ystod o leoliadau gofal iechyd arbenigol.