Trosolwg o'r Cwrs
Bydd ein gradd Nyrsio Anabledd Dysgu a gydnabyddir yn rhyngwladol yn rhoi'r sgiliau a'r profiad i chi ddechrau mewn gyrfa wobrwyol yn y proffesiwn amrywiol a hanfodol hwn.
Yn ystod y rhaglen hon a gymeradwywyd gan yr NMC ac a gomisiynwyd gan AaGIC, byddwch yn dysgu am anghenion amrywiol a chymhleth pobl ag anableddau dysgu o unrhyw oedran.
Wedi'i seilio ar athroniaeth gofal sy'n canolbwyntio ar y person, sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n cael ei llywio gan werthoedd, mae'r rhaglen yn pwysleisio tosturi, cynhwysiant a phartneriaeth â phobl, teuluoedd a chymunedau.
Ein nod yw datblygu ymarferwyr myfyriol, atebol sy'n gallu ymateb i anghenion iechyd cymhleth a newidiol cymdeithas, ac sy'n gallu cyfrannu at wella canlyniadau iechyd yng Nghymru, y DU, ac yn rhyngwladol.
Tua hanner eich addysgu fydd dysgu yn y brifysgol, a bydd yr hanner arall ar ffurf lleoliadau clinigol mewn amgylcheddau gofal iechyd. Mae gennym berthynas ardderchog â llawer o ddarparwyr gofal iechyd, felly bydd gennych fynediad at ystod eang o leoliadau ledled de-orllewin Cymru, yn y GIG a'r sector annibynnol, mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol.