Nyrsio (Iechyd Meddwl), BSc Ran-amser (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Nyrs iechyd meddwl

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein gradd Nyrsio Iechyd Meddwl ran-amser ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd presennol, a bydd yn rhoi i chi’r sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnoch i ddechrau gyrfa wobrwyol yn y proffesiwn amrywiol a hanfodol hwn.

Mae nyrsys iechyd meddwl yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi pobl o bob oed a chefndir ar rai o adegau anoddaf a mwyaf heriol eu bywydau.

Bydd ein cwrs gradd pedair blynedd mewn Nyrsio Iechyd Meddwl yn sicrhau bod gennych chi’r wybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol i’ch galluogi i roi gofal nyrsio tosturiol o ansawdd uchel i bobl sy'n delio â salwch meddwl, yn ogystal â chymorth i'w teuluoedd.

Byddwch yn datblygu sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu craff i'ch paratoi chi i weithio fel rhan o dîm sy'n cynnwys seiciatryddion, seicolegwyr, gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr cymunedol  therapyddion galwedigaethol a ffisiotherapyddion.

Mae gennym berthnasoedd gweithio ardderchog â llawer o ddarparwyr gofal iechyd, felly bydd gennych fynediad at ystod eang o brofiadau clinigol ledled de-orllewin Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys lleoliadau yn y GIG a'r sector annibynnol mewn ysbytai ac yn y gymuned.

Pam Nyrsio Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Abertawe?

Mae gennym enw rhagorol am nyrsio, ac ar hyn o bryd rydym:

  • Yn y 3ydd safle yn y DU am Ragolygon Gyrfa (aseswyd o dan 'Nyrsio Cyffredinol', Guardian University Guide 2026)
  • Yn y 4ydd safle yn y DU am Ansawdd Ymchwil (Complete University Guide 2026)
  • Yn y 6ed safle yn y DU o ran Rhagolygon Graddedigion (Complete University Guide, 2026)
  • Yn y 7fed safle yn y DU am Ragolygon Graddedigion (Times Good University Guide 2026)

Mae ein staff academaidd i gyd yn nyrsys, yn feddygon ac yn weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd cymwysedig, ac mae llawer ohonynt hefyd yn glinigwyr wrth eu gwaith, sy’n sicrhau y gallwn gynnig cyfuniad eithriadol o drylwyredd damcaniaethol, dealltwriaeth broffesiynol, ac arbenigedd ymarferol.

Mae gennym gysylltiadau cryf â byrddau iechyd Cymru, gan gynnig cyfleoedd lleoliad gwaith clinigol i chi mewn amrywiaeth o leoliadau trefol a gwledig. Yn ogystal â hyn, mae'r ysbyty agosaf yn rhannu ffin â'n Campws Singleton.

Os ydych yn fyfyriwr o’r DU a gallwch ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio, gallai eich ffïoedd dysgu gael eu talu’n llawn drwy Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru, a gallech gael cyllid cynhaliaeth a benthyciad cyfradd is gan Gyllid Myfyrwyr.

Ewch i'n tudalen we Cyllid y GIG i wirio a ydych chi'n gymwys i gael cyllid cyn cyflwyno cais.

Eich profiad ym maes Nyrsio Iechyd Meddwl

Mae ein rhaglen nyrsio wedi'i chynllunio'n bwrpasol i ddatblygu nyrsys diogel, effeithiol a thosturiol sy'n barod ar gyfer realiti amgylcheddau gofal iechyd modern, amlddisgyblaethol.

Bydd gennych fynediad at gyfleusterau rhagorol, gan gynnwys ystafell glinigol realistig i chi roi eich gwybodaeth ddamcaniaethol ar waith mewn amgylchedd sy'n adlewyrchu mor agos â phosibl, yr amodau go iawn y byddwch chi’n cael profiad ohonynt ar leoliad mewn ysbyty neu leoliad cymunedol.

Mae myfyrwyr nyrsio hefyd yn elwa o gael mynediad at SUSIM ar ein campysau yn Abertawe a Chaerfyrddin, y gosodiad mwyaf o dechnoleg wal ymdrochol yn y byd. Mae'r cyfleuster unigryw hwn yn golygu bod gennych chi'r gallu i ymarfer sgiliau allweddol a gwaith tîm mewn amrywiaeth o senarios wedi’u hefelychu o fywyd go iawn.

Gyrfaoedd Nyrsio Iechyd Meddwl

Mae'r rhaglen hon yn cynnig sylfaen gref ar gyfer gyrfa gydol oes mewn nyrsio, boed mewn gofal cleifion uniongyrchol, rolau clinigol uwch, arweinyddiaeth, addysg neu ymchwil. Mae graddedigion yn gyflogadwy iawn, gyda chyfleoedd i weithio'n lleol, yn genedlaethol neu’n rhyngwladol.

Ar ôl graddio, byddwch yn gymwys i wneud cais am statws Nyrs Gofrestredig gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC), ac i gofrestru fel nyrs i weithio yn yr UE a’r AEE.

Bydd myfyrwyr o'r DU hefyd yn gallu cael mynediad at gyllid y GIG i gyfrannu at gostau hyfforddiant. Bydd angen i’r rhai sy'n cael y fwrsariaeth ymrwymo i weithio yng Nghymru yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol cyhoeddus/preifat/annibynnol am hyd at ddwy flynedd yn dilyn cofrestru gyda'r NMC.

Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP), mewn cytundeb â byrddau iechyd GIG Cymru a phrifysgolion ledled Cymru, wedi datblygu ac yn rheoli proses baru o dan y Cynllun Symleiddio Myfyrwyr. Ar ddiwedd eich rhaglen, byddwch yn gallu cyflwyno cais am swyddi gwag ledled Cymru drwy'r cynllun.

Gallwch ddisgwyl ennill cyflog cychwynnol o £28,407, a fydd yn codi i £57,349 i nyrs staff brofiadol iawn. Gall nyrsys arbenigol a rheolwyr ymarfer ennill £50,056.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Nyrsio (Iechyd Meddwl), BSc Ran-amser (Anrh)