Cynnig Nodweddiadol ar gyfer Safon Uwch
O leiaf BCC mewn cymwysterau U2, ac mae cyrsiau sy'n gysylltiedig ag iechyd neu wyddoniaeth yn ddymunol. Rydym yn derbyn Bagloriaeth Cymru fel Safon Uwch.”
Cynnig Nodweddiadol ar gyfer Mynediad i Addysg Uwch
Bydd y cynnig yn amrywio rhwng 120 a 104 o bwyntiau UCAS
Sylwer, mae ein hamrediad graddau'n cynnwys cynigion safonol a chyd-destunol. Os byddwch chi'n bodloni un (neu fwy) o'n meini prawf cymhwysedd ar gyfer cynigion cyd-destunol, rhoddir cynnig is i chi. Bydd hyn o fewn yr amrediad graddau a nodir o hyd. Gweler ein tudalen derbyn myfyrwyr ar gyfer cynigion cyd-destunol am ragor o wybodaeth.
Cynnig Nodweddiadol ar gyfer BTEC
DDM – DMM
Cynnig Nodweddiadol ar gyfer Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch
B a BB mewn Safon Uwch, neu B a DD mewn BTEC
Tystysgrif Gadael Iwerddon
360
O leiaf bum cymhwyster TGAU â graddau A-C gan gynnwys Cymraeg/Saesneg Iaith, Mathemateg a Gwyddor Ffisegol neu Wyddoniaeth Dyfarniad Dwbl.
O dan rai amgylchiadau penodol, derbynnir Sgiliau Allweddol Lefel 3 mewn Cymhwyso Rhif yn lle TGAU Mathemateg a Sgiliau Allweddol Lefel 3 mewn Cyfathrebu yn lle TGAU Cymraeg/Saesneg Iaith.
Bydd angen i chi ddangos y canlynol hefyd:
- Proffil addysgol cryf yn ystod y tair i bum mlynedd diwethaf
- Dealltwriaeth fanwl o Nyrsio Oedolion ac ymrwymiad iddo
- Mae profiad ym maes gofal yn ddefnyddiol ond nid yw'n hanfodol
- Bydd disgwyl i chi gymryd rhan mewn trafodaethau grŵp, gwaith tîm a thasgau unigol yn ystod y cyfweliadau
Os nad Cymraeg neu Saesneg yw eich iaith gyntaf, bydd angen sgôr IELTS o 7.0 arnoch
Nid oes unrhyw fantais mewn gwneud cais i Abertawe a Chaerfyrddin ac rydym yn argymell yn gryf mai dim ond i'r lleoliad sydd orau gennych y dylech wneud cais.
Os cynigir lle i chi, bydd angen y canlynol arnoch hefyd:
- Gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), neu wiriad cyfatebol cymeradwy
- Gwiriad Iechyd Galwedigaethol
- Darllenwch ein Polisi Brechu i Ymgeiswyr
Dylech hefyd ymgyfarwyddo â Gwerthoedd a Safonau Ymddygiad GIG Cymru.
Bydd gofyn i bob ymgeisydd gael gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a gwiriad iechyd galwedigaethol. Gellir ystyried unrhyw bryderon sy'n codi o'r rhain ym Mhanel Addasrwydd a Phriodoldeb i Ymarfer Proffesiynol yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol a gall arwain at dynnu lle ar y rhaglen yn ôl.
Rhagori ar y gofynion hyn?
Os yw'r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond eich bod wedi rhagori ar y cymwysterau mynediad gofynnol, beth am ystyried ein Nyrsio Oedolion, MSc?