Safon Uwch: O leiaf BBB. Mae cyrsiau iechyd neu sy'n gysylltiedig â gwyddoniaeth yn ddymunol.
Diploma Mynediad at Addysg Uwch: Cyfanswm o 60 credyd gydag o leiaf 45 ar lefel 3 a 15 ar lefel 2. O'r 45 credyd ar lefel 3, bydd rhaid cael o leiaf 24 rhagoriaeth, o leiaf 18 teilyngdod ac uchafswm o 3 llwyddiant
BTEC: DDM
Lefelau T: Teilyngdod
Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch: B a BB yn Safon Uwch neu DD yn BTEC
Tystysgrif Gadael Iwerddon:360
TGAU: O leiaf bum TGAU graddau A i C. Rhaid i'r rhain gynnwys Iaith Gymraeg/Saesneg, Mathemateg a Gwyddor Ffisegol neu Wyddoniaeth Ddwbl.
IELTS: Lefel 7 heb gydran sy'n llai na 6.5 (I ymgeiswyr sydd wedi ennill cymwysterau mynediad y tu allan i'r DU)
I ymgeiswyr ansafonol: Cydnabyddir y gallai fod gan ymgeiswyr heb gymwysterau ffurfiol brofiad a gwybodaeth berthnasol. Caiff ceisiadau eu hystyried ar sail unigol.
Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol: Ystyrir ceisiadau yn unigol. Fel Prifysgol, mae gennym hefyd bolisi gydnabyddiaeth o`ddysgu blaenorol i gefnogi nodau ehangu mynediad.
Os ydych yn cael cynnig lle ar y rhaglen hon, bydd gofyn hefyd am y canlynol:
- Gwiriad Datgelu a Gwahardd ("DBS") uwch boddhaol. Caiff ceisiadau gan ddarpar ddysgwyr ag euogfarn droseddol eu hystyried ar sail unigol, gan gyfeirio at Safonau Ymddygiad, Perfformiad a Moeseg diweddaraf y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal. Mae gennym ni ddull sefydledig ar gyfer ymdrin â sefyllfaoedd fel hyn drwy brosesau Ffitrwydd i Ymarfer. Ymgeiswyr fydd yn gorfod talu am eu gwiriad datgelu a gwahardd.
- Mae asesiad Iechyd Galwedigaeth yn cadarnhau y bydd ymgeiswyr yn ffit i ymgymryd â'r rhaglen.
Yn ogystal, rhaid i ddysgwyr fodloni Canllawiau Iechyd (Mawrth 2007) ‘Health clearance for, Tuberculosis, Hepatitis B, Hepatitis C and HIV: New healthcare workers’.
Bydd angen geirda addysgol boddhaol ar bob ymgeisydd.
Bydd ymgeiswyr sy'n bodloni'r gofynion mynediad a'r meini prawf dethol yn cael eu gwahodd i gyfweliad, y gellir ei gynnal wyneb yn wyneb neu dros y ffôn/galwad fideo. Mae ein Cyngor Cyfweliadau yn esbonio mwy am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl.
Os ydych yn llwyddiannus yn y cyfweliad, bydd unrhyw gynnig lle yn amodol ar wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd/yr Heddlu boddhaol neu gyfwerth gan eich gwlad gartref yn ogystal â datganiad iechyd galwedigaethol ac asesiad cyn dechrau eich astudiaethau. Darperir rhagor o fanylion os byddwch yn derbyn cynnig.
Bydd gofyn i bob ymgeisydd gael gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a gwiriad iechyd galwedigaethol. Gellir ystyried unrhyw bryderon sy'n codi o'r rhain ym Mhanel Addasrwydd a Phriodoldeb i Ymarfer Proffesiynol yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol a gall arwain at dynnu lle ar y rhaglen yn ôl.