Rydym yn falch o ddarparu profiad addysgol rhagorol, gan ddefnyddio'r dulliau dysgu ac addysgu mwyaf effeithiol, wedi'u teilwra'n ofalus i anghenion penodol eich cwrs. Ar wahân i nifer fach o gyrsiau ar-lein, mae'r rhan fwyaf o'n cyrsiau'n cynnwys addysgu wyneb yn wyneb ar y campws, gan alluogi ymgysylltiad llawn â'ch darlithwyr a'ch cyd-fyfyrwyr.
Mae sesiynau sgiliau ymarferol, seminarau gwaith labordy, a gweithdai yn bennaf yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb ar y campws, gan ganiatáu gweithio mewn grŵp ac arddangosiadau. Rydym hefyd yn gweithredu labordai rhithwir ac Amgylcheddau Dysgu Efelychol a fydd yn hwyluso mwy o fynediad at gyfleoedd hyfforddi yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae ein dulliau addysgu hefyd yn cynnwys defnyddio rhywfaint o ddysgu ar-lein i gefnogi a gwella addysgu wyneb yn wyneb traddodiadol.
Gall dysgu ar-lein ddigwydd ‘yn fyw’ gan ddefnyddio meddalwedd fel Zoom, sy'n eich galluogi i ryngweithio â'r darlithydd a myfyrwyr eraill ac i ofyn cwestiynau. Mae recordiadau darlithoedd hefyd yn caniatáu mwy o hyblygrwydd i ailedrych ar ddeunydd, i adolygu at asesiadau ac i wella dysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Mae gan rai modiwlau adnoddau ychwanegol ar Canvas, megis fideos, sleidiau a chwisiau sy'n galluogi astudiaeth hyblyg bellach.
Cwrs modiwlaidd rhan-amser 18 mis yw hwn, darperir dysgu trwy ddarlithoedd wyneb yn wyneb, e-ddysgu a dysgu yn y gweithle.
Digwydda’r elfen ddysgu yn y Brifysgol dros 12 wythnos mewn tri bloc yn ystod 12 mis cyntaf y cwrs.
Caiff y cwrs ei asesu trwy arholiadau ysgrifenedig nas gwelwyd o'r blaen, aseiniadau ysgrifenedig a chyflwyniadau, ynghyd â chwblhau Canlyniadau Dysgu Clinigol.
Byddwch yn mynychu'ch gweithle arferol ar gyfer y lleoliad yn y gwaith.
Mae'r cwrs hwn yn cynnig peth modiwlau a addysgir trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog ar gyfer myfyrwyr sy'n ystyried eu hunain yn siaradwyr Cymraeg rhugl. Am fwy o fanylion am y ddarpariaeth sydd ar gael gweler esboniwr Darpariaeth Cymraeg isod.