Trosolwg o'r Cwrs
Os ydych chi'n mwynhau mathemateg ac eisiau cymhwyso eich sgiliau i heriau busnes yn y byd go iawn, mae BSc (Anrhydedd) Gwyddor Actiwaraidd Prifysgol Abertawe'n cynnig llwybr ardderchog i broffesiwn uchel iawn ei barch.
Mae actiwarïaid yn unigolion proffesiynol ym maes busnes dadansoddol sy'n defnyddio modelu mathemategol a dealltwriaeth ariannol uwch i asesu a rheoli risgiau yn y dyfodol.
Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn adeiladu sylfaen gref mewn mathemateg, busnes a sgiliau astudio, gan eich paratoi i lwyddo yn y modiwlau mathemateg arbenigol a rheoli dilynol. Mae'r rhaglen wedi'i hachredu gan Sefydliad a Chyfadran yr Actiwarïaid (IFoA), a gall graddedigion gael eu heithrio o hyd at chewch o arholiadau proffesiynol, gan roi i chi fantais sylweddol yn eich gyrfa actiwaraidd.
Caiff eich dysgu ei gefnogi gan arbenigwyr busnes a mathemateg profiadol a gydnabyddir yn rhyngwladol sy'n dod â dealltwriaeth helaeth o'r diwydiant i'r ystafell ddosbarth.
Cyflwynir y BSc (Anrh) mewn Gwyddor Actiwaraidd mewn partneriaeth rhwng yr Adran Fathemateg a'r Ysgol Reolaeth ym Mhrifysgol Abertawe.