Trosolwg o'r Cwrs
Mae mathemateg yn sail i bob maes cyfoes o ran gwyddoniath, busnes a thechnoleg. Mae ein gradd BSc tair blynedd mewn Mathemateg a Chyfrifiadureg yn rhaglen uchel ei pharch sy'n croesawu myfyrwyr o bob cwr o'r byd.
Drwy gydol eich astudiaethau byddwch yn datblygu sylfaen gadarn yng nghysyniadau sylfaenol mathemateg a chyfrifiadureg, gan gwmpasu ystod o bynciau sy'n berthnasol i fyd diwydiant gan gynnwys modelu, graffeg, diogelwch, dadansoddi data, dysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial.
Byddwch hefyd yn cael cyfle i ddewis un o dair thema allweddol; Modelu ac Efelychu, Gwyddor Data a Rhesymeg, ac AI, gan ystyried y sylfeini damcaniaethol a datblygu'r sgiliau ymarferol mewn rhaglennu a datrys problemau, i roi ffocws i'ch diddordebau a'ch rhagolygon gyrfa.
Bydd eich dysgu yn cael ei lywio gan academyddion llawn ysbrydoliaeth ac o fri rhyngwladol sydd ag arbenigedd mewn ystod o bynciau, a byddwch yn astudio mewn mannau addysgu pwrpasol wedi'u cynllunio gan fathemategwyr ac ar eu cyfer.
Byddwch yn meistroli syniadau a rhesymeg mathemateg a chyfrifiadureg a'u cymwysiadau, â sgiliau dadansoddol cryf, rhesymu rhesymegol, trin data a meddwl meintiol, gan adeiladu set ddymunol iawn o briodoleddau graddedigion a fydd yn eich gosod ben ac ysgwyddau uwchlaw eraill yn y farchnad gyflogaeth.
Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnig cyfle i chi astudio gan dreulio Blwyddyn Dramor, Blwyddyn mewn Diwydiant a Blwyddyn Sylfaen.