Biocemeg, BSc (Anrh) / MSci (Anrh)

Sylfaen Meddygaeth Fodern

Students in Lab

Trosolwg o'r Cwrs

Mae biocemeg yn hanfodol wrth astudio a thrin clefydau, wrth ddatblygu biocemeg, ac wrth roi sylw i’r perthnasau cymhleth rhwng ein hamgylchedd a ni ein hunain.

Byddwch yn dysgu am y prosesau cemegol sy’n digwydd o fewn organeddau byw ac yn astudio sut mae celloedd yn gweithio ar lefelau is-gellog a moleciwlaidd.

Byddwch yn ennill dealltwriaeth drylwyr o swyddogaeth fiocemegol organeddau byw, o facteria i blanhigion, anifeiliaid a bodau dynol.

Byddwch yn datblygu sgiliau rheoli prosiect arbennig ac yn dysgu dylunio arbrofion a chynllunio rhaglenni gwaith.

Pam Biocemeg ym Mhrifysgol Abertawe?

Byddwch yn elwa ar gael mynediad i gyfleusterau ymchwil o’r radd flaenaf yn yr Ysgol Feddygaeth, gan gynnwys offer biodadansoddol megis cromatograffi hylif perfformiad uchel, cromatograffi nwy, sbectrometreg màs, offer dadansoddi DNA a phrotein, a dadansoddwyr delweddau cyfrifiadurol ar gyfer astudiaethau moleciwlaidd neu gellog.

Eich profiad ym maes Biocemeg

Ar y cynllun BSc 3 blynedd, byddwch yn ymgymryd â chymysgedd o fodiwlau gorfodol a dewisol, gan roi'r hyblygrwydd i chi deilwra eich gradd i'ch diddordebau penodol, eich uchelgeisiau o ran gyrfa neu eich cynlluniau ar gyfer astudiaethau pellach. 

Mae treulio blwyddyn dramor yn ystod eich gradd israddedig yn eich caniatáu i ychwanegu profiad rhyngwladol gwerthfawr i'ch CV, wrth feithrin sgiliau cyfathrebu rhyngddiwylliannol a fydd yn gwella eich gallu i ryngweithio â phobl o gefndiroedd amrywiol.

Fel arall mae'r rhaglen 4 blynedd gyda blwyddyn lleoliad gwaith yn cynnig blwyddyn ychwanegol rhwng eich ail a thrydedd flwyddyn, gan roi cyfle i chi weithio ym myd diwydiant, magu hyder a chael profiad yn y byd go iawn.

Mae ein gradd MSci 4 blynedd yn radd israddedig uwch a chanddi flwyddyn meistr integredig. Treulir y flwyddyn ychwanegol yn ymgymryd â phrosiect ymchwil, gan ganiatáu i chi ddatblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth.

Os wyt ti'n poeni am fodloni ein gofynion mynediad, beth am ystyried ein BSc Biocemeg gyda Blwyddyn Sylfaen. Mae'r flwyddyn sylfaen yn rhoi cyflwyniad cyffrous i addysg uwch i chi, archwilio'r gwyddoniaeth sy'n sail i Fiocemeg cyn symud ymlaen i'r rhaglen gradd lawn. Mae'n ddelfrydol os oes angen ychydig mwy o gymorth arnoch ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd at addysg ar ôl cyfnod o amser.

Cyfleoedd Cyflogaeth Biocemeg

Mae gradd mewn Biocemeg yn fan cychwyn cyfleoedd gyrfa cyffrous mewn meysydd amrywiol megis:

  • Datblygu cynnych fferyllol
  • Biotechnoleg diwydiannol
  • Biodanwyddau
  • Amaethyddiaeth
  • Biowybodeg

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Biocemeg

Biocemeg

Biocemeg gyda Blwyddyn Sylfaen

Biocemeg gyda Blwyddyn ar Leoliad

Biocemeg gyda Blwyddyn Dramor

Biocemeg gyda Blwyddyn Sylfaen ac gyda Blwyddyn Dramor