Nid yw'n rhy hwyr i ddechrau astudio gyda ni ym mis Medi / Hydref. Ewch i’n tudalennau Clirio am fwy o wybodaeth.
Trosolwg o'r Cwrs
BSc Microbioleg ac Imiwnoleg: Côd UCAS B550
Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd BSc Microbioleg ac Imiwnoleg gyda Blwyddyn Sylfaen Côd UCAS C55F
Microbioleg yw'r gangen o wyddoniaeth sy'n canolbwyntio ar astudio micro-organebau, gan archwilio pob math o fywyd microsgopig o facteria i ffyngau, protosoa, a hyd yn oed firysau anfyw. Ochr yn ochr â hyn, mae imiwnoleg yn astudio'r system imiwnedd a sut mae'r corff dynol yn ei amddiffyn ei hun rhag yr organebau hyn drwy nifer o wahanol lwybrau a phrosesau. Bydd y rhaglen hon yn canolbwyntio ar strwythur, swyddogaeth ac ymddygiad y micro-organebau hyn, sut maent yn rhyngweithio â'u hamgylchedd, eu gallu i achosi afiechyd dynol, a'u potensial ar gyfer cymwysiadau diwydiannol.
Bydd y rhaglen ryngddisgyblaethol hon yn dod â'r ddau faes hyn ynghyd, gan ganolbwyntio ar y modd y maent yn rhyngweithio â'i gilydd mewn ymateb i glefydau heintus at ei gilydd yn ogystal ag ystyried anhwylderau sy'n digwydd o ganlyniad i system imiwnedd sy'n camweithio. Bydd cymwysiadau diwydiannol ac ymchwil, megis datblygu cyffuriau gwrthficrobaidd newydd, ac imiwn-therapiwteg arloesol yn gwreiddio'r rhaglen mewn cymwysiadau byd go iawn.
Mae microbioleg ac imiwnoleg yn cynrychioli disgyblaethau sydd nid yn unig yn sylfaenol i'n dealltwriaeth o iechyd a chlefydau ond sydd hefyd yn hanfodol i amrywiol ddiwydiannau. Mae galw cynyddol am arbenigwyr yn y meysydd hyn, wedi'i ysgogi gan ffocws cynyddol ar ofal iechyd, biotechnoleg, fferyllol, a'r sector gwyddorau bywyd ehangach, sy'n trosi'n rhagolygon rhagorol i'n graddedigion.
Pam Microbioleg ac imiwnoleg ym Mhrifysgol Abertawe?
Byddwch yn elwa o gael mynediad i gyfleusterau ymchwil o’r radd flaenaf yn yr Ysgol Feddygaeth, gan gynnwys offer bio-ddadansoddol fel offer dadansoddi DNA a phrotein, sytometreg llif ar gyfer nodweddu cellog, dadansoddi metaboledd celloedd amser real a dadansoddwyr delweddau cyfrifiadurol ar gyfer astudiaethau moleciwlaidd neu gellog.
Byddwch hefyd yn cael eich addysgu gan ymchwilwyr sy'n gweithio ym meysydd microbioleg, imiwnoleg a biowybodeg, gan ddarparu enghreifftiau go iawn o ymchwil ar waith ar y rhaglen radd hon.
Eich profiad Microbioleg ac imiwnoleg
Gallwch ddewis astudio Microbioleg ac imiwnoleg fel BSc 3 blynedd neu fel BSc 4 blynedd gyda blwyddyn mewn diwydiant ar ffurf blwyddyn ar leoliad.
Gan astudio'r BSc 3 blynedd, byddwch yn ymgymryd â chymysgedd o fodiwlau gorfodol a dewisol, gan roi'r hyblygrwydd i chi deilwra'ch gradd i'ch diddordebau penodol, eich uchelgeisiau gyrfa, neu gynlluniau ar gyfer astudiaeth bellach.
Mae'r rhaglen 4 blynedd gyda blwyddyn Lleoliad yn cynnig blwyddyn leoliad ychwanegol rhwng yr ail flwyddyn a'r flwyddyn olaf, gan roi'r cyfle i chi gael profiad o waith mewn diwydiant, a'ch galluogi i fagu hyder a chael profiad yn y byd go iawn.
Ddim yn meddwl eich bod yn bodloni'r gofynion mynediad? Beth am ystyried ein BSc Microbioleg ac imiwnoleg gyda Blwyddyn Sylfaen?
Mae'r cwricwlwm a'r rhaglen wedi'u cynllunio i baratoi myfyrwyr â'r sgiliau a'r priodoleddau sydd eu hangen i ddod yn wyddonwyr ac ymchwilwyr hyfedr a chymwys.
Bydd y rhaglen hon yn gwella eich gallu creadigol i ddatrys problemau ac yn annog arloesedd mewn ymchwil. Mae'r flwyddyn gyntaf yn rhoi sylfaen gadarn i'r rhaglen, gan ganolbwyntio ar wybodaeth sylfaenol a sgiliau ymarferol craidd. Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn ymchwilio i bynciau a sgiliau uwch yn ymwneud â Bioystadegau, Imiwnopatholeg, Firoleg, ynghyd â Datblygiad Therapiwtig. Mae'r drydedd flwyddyn yn eich cyflwyno i bynciau uwch fel Biowybodeg, Biotechnoleg, Pandemig ac Imiwnotherapiwteg.
Byddwch hefyd yn mireinio eich sgiliau ymchwil annibynnol trwy ymgymryd â 'prosiect capfaen' ym maes naill ai microbioleg neu imiwnoleg. Bydd y prosiect hwn yn gyfle i chi gymhwyso'ch gwybodaeth a'ch sgiliau cyfan, cyfrannu at ddarganfyddiadau gwyddonol a dangos eich gallu i weithredu fel aelodau gweithredol o'r gymuned ymchwil wyddonol.
Cyfleoedd cyflogaeth microbioleg ac imiwnoleg
Mae gradd mewn Microbioleg ac imiwnoleg yn agor ystod o gyfleoedd gyrfa cyffrous mewn meysydd amrywiol gan gynnwys:
- Datblygiad fferyllol
- Biotechnoleg
- Biodanwyddau
- Amaethyddiaeth
- Biowybodeg
- Academia