Geneteg, BSc (Anrh) / MSci (Anrh)

Deall Prosesau Genetig Bywyd

Students in Lab

Trosolwg o'r Cwrs

Mae astudiaeth geneteg yn faes cyffrous sy’n symud yn gyflym ac yn cael effaith enfawr mewn ystod o feysydd gwyddonol, gan gynnwys deall a thrin clefydau amrywiol, datblygu fferyllol, esblygiad, cadwraeth a bioamrywiaeth.  

Bydd ein gradd Geneteg yn rhoi gwybodaeth drwyadl i chi o’r blociau adeiladu hyn sy’n hanfodol ar gyfer yr holl fywyd ar y ddaear.   Byddwch yn dysgu technegau ar gyfer dadansoddi mynegiad genynnau, y ffordd y mae proteinau yn rhyngweithio, strwythur DNA a’r difrod iddo, dadansoddi delweddau biomoleciwlau a chelloedd, a dulliau dadansoddol cyfrifiadurol uwch.

Byddwch yn datblygu sgiliau dadansoddi a rheoli prosiect arbennig ac yn dysgu dylunio arbrofion a chynllunio rhaglenni gwaith.

Pam Geneteg ym Mhrifysgol Abertawe?

Byddwch yn elwa ar gael mynediad i gyfleusterau ymchwil o’r radd flaenaf yn yr Ysgol Feddygaeth, gan gynnwys offer dadansoddi DNA a phrotein, dadansoddwyr delweddau cyfrifiadurol ar gyfer astudiaethau moleciwlaidd neu gellog, a chyfleuster uwchgyfrifiadur pwerus.

Eich profiad ym maes Geneteg

Gan astudio'r BSc 3 blynedd, byddwch yn ymgymryd â chymysgedd o fodiwlau gorfodol a dewisol, gan roi'r hyblygrwydd i chi deilwra'ch gradd i'ch diddordebau penodol, eich uchelgeisiau gyrfa, neu gynlluniau ar gyfer astudiaeth bellach.

Mae ein gradd MSci 4 blynedd yn radd israddedig uwch a chanddi flwyddyn meistr integredig. Treulir y flwyddyn ychwanegol yn ymgymryd â phrosiect ymchwil, gan ganiatáu i chi ddatblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth.

Pa bynnag gymhwyster a ddewiswch, byddwch yn elwa ar arbenigedd ein staff academaidd sy'n weithgar mewn ystod amrywiol o feysydd ymchwil biolegol moleciwlaidd, gan gynnig cymysgedd heb ei ail o ragoriaeth academaidd ac arfer sydd ar flaen y gad.

Mae treulio blwyddyn dramor yn ystod eich gradd israddedig yn eich caniatáu i ychwanegu profiad rhyngwladol gwerthfawr i'ch CV, wrth feithrin sgiliau cyfathrebu rhyngddiwylliannol a fydd yn gwella eich gallu i ryngweithio â phobl o gefndiroedd amrywiol.

Os wyt ti'n poeni am fodloni ein gofynion mynediad, beth am ystyried ein BSc Geneteg gyda Blwyddyn Sylfaen. Mae'r flwyddyn sylfaen yn rhoi cyflwyniad cyffrous i addysg uwch i chi, archwilio'r gwyddoniaeth sy'n sail i Geneteg cyn symud ymlaen i'r rhaglen gradd lawn. Mae'n ddelfrydol os oes angen ychydig mwy o gymorth arnoch ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd at addysg ar ôl cyfnod o amser.

Cyfleoedd Cyflogaeth Geneteg

Gyda gradd mewn Geneteg, mae cyfleoedd gyrfa yn amrywiol ac yn helaeth. Maent yn cynnwys:

  • Ymchwil meddygol,
  • Diwydiant fferyllol a Gwyddorau Iechyd,
  • astudiaethau ôl-raddedig (MSc, MRes, PhD),
  • Cwnsela Genetig,
  • Gwyddonydd Clinigol,
  • Meddygaeth mynediad i raddedigion,
  • Cydymaith Meddygol,
  • Dysgu,
  • Ysgrifenydd Gwyddonol,
  • Biowybodeg

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Geneteg

Geneteg

Geneteg gyda Blwyddyn Sylfaen

Geneteg gyda Blwyddyn ar Leoliad

Geneteg gyda Blwyddyn Dramor

Geneteg gyda Blwyddyn Sylfaen ac gyda Blwyddyn Dramor