Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r gallu i arloesi'n llwyddiannus yn dibynnu ar y deunyddiau allweddol a ddewisir a'u perfformiad. O geir, awyrennau a llongau mordeithio, i gyfarpar chwaraeon ac offerynnau cerdd, gall y deunyddiau cywir helpu i ddiffinio cynnydd technolegol.
Mae Gwyddor a Pheirianneg Deunyddiau yn archwilio sut y gellir rheoli priodweddau mater. Mae'n cynnwys elfennau o ffiseg a chemeg, gyda chysylltiad agos â'r rhan fwyaf o feysydd eraill mewn peirianneg.
Bydd y cwrs gradd tair blynedd hwn yn eich paratoi ar gyfer gyrfa sy'n llawn boddhad mewn amrywiaeth o sectorau peirianneg, gan gynnwys awyrofod, cerbydau modur, gweithgynhyrchu, chwaraeon a chynhyrchu ynni.
Byddwch yn datblygu galluoedd dadansoddi wrth gael profiad ymarferol o gyfarpar arbenigol uwch, gan feithrin sgiliau sy’n hanfodol ar gyfer gweithio yn y diwydiant.