Peirianneg Biofeddygol, BEng (Anrh) / MEng (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Biomedical engineering

Trosolwg o'r Cwrs

Mae Peirianneg Fiofeddygol yn cymhwyso egwyddorion peirianneg i'r corff dynol, i fynd ar drywydd arddull uwch a phersonol o ofal iechyd yn y dyfodol. Mae cyfuno peirianneg â'r offeryniaeth a ddefnyddir mewn meddygaeth fodern yn addo creu technolegau newydd pwysig sy'n cyffwrdd ac yn ymestyn ein bywydau i gyd.

Mae ein gradd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa wobrwyol ar draws ystod o sectorau, gan weithio i ddylunio ac arloesi technolegau meddygol y dyfodol. Byddwch yn meithrin sgiliau peirianneg craidd wrth ddysgu am anatomeg, ffisioleg a chyfathrebu â chlinigwyr. Wrth i chi symud ymlaen, bydd eich galluoedd datblygol i ddadansoddi a datrys problemau yn cyfuno â phrofiad ymarferol o ddyfeisiau ac offerynnau meddygol diwydiannol, gan feithrin sgiliau sy'n hanfodol i gyflogaeth yn y diwydiant ehangach.

Mae'r rhaglen yn cael ei hastudio fel gradd Baglor mewn Peirianneg (BEng) am 3 blynedd, neu radd Meistr Integredig mewn Peirianneg (MEng) am 4 blynedd sy'n bodloni'r gofyniad academaidd ar gyfer cofrestru fel Peiriannydd Siartredig. Mae ein cyrsiau BEng ac MEng yn cynnwys opsiynau i astudio gyda Blwyddyn Dramor, Blwyddyn mewn Diwydiant a Blwyddyn Sylfaen.

Pam Peirianneg Biofeddygol yn Abertawe?

Mae gan Beirianneg ym Mhrifysgol Abertawe enw da yn fyd-eang ac mae'n denu myfyrwyr o bob cwr o'r byd. Addysgir Peirianneg Fiofeddygol ym Mhrifysgol Abertawe ar ein Campws y Bae ar lan y môr, ac mae yn y safleoedd canlynol:

  • Yr 11eg safle yn y DU (Guardian University Guide 2026)*
  • Y 3ydd safle yn y DU am Ansawdd Ymchwil (Complete University Guide 2026)**
  • Y 5ed safle yn y DU am Ragolygon Gyrfa (Guardian University Guide 2026)*

*Y safle ar gyfer Peirianneg Gyffredinol

**Y safle ar gyfer Technoleg Feddygol a Biobeirianneg

Eich Profiad Peirianneg Biofeddygol

Mae ein graddau Peirianneg Fiofeddygol yn cwmpasu tair prif thema; bydd Biomecaneg a Deunyddiau yn archwilio datblygu a dadansoddi deunyddiau ar gyfer cryfder a biogydwyddoldeb; bydd Offeryniaeth yn cwmpasu meintioli technegau diagnostig a therapiwtig uwch; a bydd Biobroses yn manylu ar y broses ffisegol, gemegol a biolegol bwysig yn y corff dynol.

Drwy gydol eich astudiaethau byddwch yn elwa o'n cyfleusterau o'r radd flaenaf, gan gynnwys offerynnau peirianneg drydanol i adeiladu a phrofi dyfeisiau meddygol, ac unedau modelu biomecanyddol i wneud y gorau o dechnolegau mewnblannu.

Byddwch yn astudio ochr yn ochr â'n cymuned ymchwil ffyniannus, fel Labordy Efelychu a Phrofi Peirianneg Fiofeddygol (BEST), gofod gwych i ymchwilwyr rhyngddisgyblaethol feithrin syniadau o'r cysyniad hyd at weithgynhyrchu, offeryniaeth a phrofi.

Mae'r rhaglen hon ar gael fel rhaglen BEng am 3 blynedd, neu fel MEng am 4 blynedd, sy'n radd israddedig uwch, gan ychwanegu blwyddyn arall sy'n canolbwyntio ar ymchwil at eich gradd.   Mae ein rhaglen MEng yn arwain at gymhwyster ar lefel Meistr, yn ogystal â'ch gradd israddedig, gan roi i chi hyfforddiant gwyddonol gan arbenigwyr a llwybr at amrywiaeth o yrfaoedd arbenigol.

Fel rhan o'ch astudiaethau byddwch yn cael y cyfle i ymgymryd â Blwyddyn Dramor mewn lleoliadau fel UDA, Canada, Tsieina, Hong Kong neu Singapore, gan wella eich dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy. 

Rydym hefyd yn cynnig y cyfle i dreulio Blwyddyn mewn Diwydiant, yn y DU neu dramor, gan eich galluogi i ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl yn unig, sydd â chyflog gwerth mwy nag £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos.

Mae'r Flwyddyn Sylfaen opsiynol sy'n rhan o'r rhaglen hon yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch, ac yn sicrhau bod gennych y sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig mwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i fyd addysg ar ôl seibiant. Ar ôl i chi gwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch chi'n symud ymlaen i Flwyddyn 1 eich gradd BEng.

Cyfleoedd Cyflogaeth Peirianneg Biofeddygol

Ar ôl cwblhau'r cwrs, bydd eich arbenigedd peirianneg, eich gwybodaeth am anatomeg a ffisioleg, a'ch profiad mewn cyfathrebu clinigol yn rhoi'r hyder i chi ddechrau yn y gweithle. Mae galw mawr am ein graddedigion ym maes datblygu dyfeisiau meddygol, arloesi gofal iechyd a sefydliadau ymchwil. Mae rolau i raddedigion yn cynnwys:

  • Peiriannydd Bioddeunyddiau
  • Peiriannydd Biofeddygol
  • Peiriannydd/Gwyddonydd Clinigol
  • Gwyddonydd Ymchwil Feddygol
  • Peiriannydd Dylunio Prosthetigau
  • Peiriannydd Adsefydlu

Efallai yr hoffech hefyd symud ymlaen i astudiaethau uwch ar lefel Meistr neu Ddoethuriaeth.

Mae'r sgiliau sy'n cael eu meithrin drwy gydol y rhaglen, sy'n cynnwys dylunio technegol, datrys problemau, a chydweithredu rhyngddisgyblaethol, yn sicrhau bod graddedigion Peirianneg Fiofeddygol o Brifysgol Abertawe yn barod i gael effaith ystyrlon wrth wella gofal cleifion a hyrwyddo technoleg feddygol ledled y byd.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Peirianneg Biofeddygol, BEng (Anrh)

Peirianneg Biofeddygol, MEng (Anrh)

Peirianneg Biofeddygol gyda Blwyddyn Dramor, MEng (Anrh)

Peirianneg Biofeddygol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, MEng (Anrh)

Peirianneg Biofeddygol gyda Blwyddyn Sylfaen, BEng (Anrh)

Peirianneg Biofeddygol gyda Blwyddyn Dramor, BEng (Anrh)

Peirianneg Bioeddygol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BEng (Anrh)