Troseddeg a Seicoleg, BSc (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
criminology and psychology

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd astudio Troseddeg a Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe yn rhoi hyfforddiant gwyddonol arbenigol i chi ar y berthynas rhwng y meddwl, yr ymennydd ac ymddygiad.

Bydd myfyrwyr yn astudio’r prosesau seicolegol a niwrowyddonol sy’n sail i weithgareddau megis meddwl, rhesymu, cof ac iaith, yn dysgu am ganlyniadau anafiadau i’r ymennydd, ac yn archwilio ffyrdd o wella ymddygiad sy’n gysylltiedig ag iechyd.

Mae ein gradd  israddedig mewn Troseddeg a Seicoleg yn cynnig cyfle cyffrous i archwilio'r ffactorau cymhleth sy'n dylanwadu ar ymddygiad troseddol, y penderfyniadau sy'n diffinio gweithredoedd penodol fel rhai troseddol, a'r ffyrdd y mae cymdeithas yn ymateb i wyro a niwed.

Pam Troseddeg a Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe?

Mae gan ein Hysgol Seicoleg enw rhagorol yn y DU ac yn rhyngwladol. 
Rydym yn gartref i ddiwylliant ymchwil ffyniannus gyda hanes cryf o drosi gwyddoniaeth yn atebion byd go iawn, sef y rheswm bod: 

  • 100% o'n Heffaith Ymchwil yn rhagorol yn rhyngwladol (REF 2021), a bod
  • 93% o raddedigion Troseddeg a Seicoleg yn gweithio a/neu'n astudio neu'n ymgymryd â gweithgareddau eraill megis teithio 15 mis ar ôl gadael Prifysgol Abertawe (Arolwg Hynt Graddedigion 2025)

Mae Troseddeg ym Mhrifysgol Abertawe hefyd yn:

  • 5ed yn y DU am Ragolygon Graddedigion (Times Good University Guide 2026)
  • 13eg yn y DU yn gyffredinol (Guardian University Guide 2026)

Mae ein graddau Seicoleg wedi'u dilysu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) ac, ar yr amod y byddwch yn cael o leiaf 2:2 yn eich gradd, byddwch yn gymwys am Aelodaeth i Raddedigion y BPS ac  Aelodaeth Siartredig i Raddedigion (GBC), sef y cam cyntaf tuag at ddod yn Seicolegydd Siartredig.

Eich profiad ym maes Troseddeg a Seicoleg

Mae ein rhaglen Troseddeg a Seicoleg wedi gwreiddio yn yr egwyddor bod deall trosedd, niwed, cyfiawnder a rheoleiddio cymdeithasol angen mewnwelediad seicolegol i'r meddwl, yr ymennydd ac ymddygiad, a dadansoddiad troseddol o strwythurau cymdeithasol, pŵer, anghydraddoldeb a rheolaeth. Ni chaiff y disgyblaethau hyn eu haddysgu fel canghennau anghysylltiedig, ond maent wedi'u dylunio'n bwrpasol i atgyfnerthu, cwestiynu a chefnogi ei gilydd ar draws y cwricwlwm.

Mae'r cynnwys Seicoleg yn rhoi sylfaen wyddonol i chi o ran mecanweithiau gwaelodol gwybyddiaeth, emosiwn, datblygiad, gwahaniaethau unigol ac ymddygiad cymdeithasol, wrth i'r cynnwys troseddeg osod y prosesau hyn mewn cyd-destunau cyfreithiol, diwylliannol, gwleidyddol a hanesyddol ehangach. Gyda'i gilydd, bydd y disgyblaethau hyn yn rhoi'r sgiliau i chi ddeall ffenomena cymdeithasol cymhleth megis troseddu, erledigaeth, gwyredd, cyfiawnder ac adsefydlu.

Mae ein hymagwedd at addysgu, sy'n cynnwys darlithoedd, tiwtorialau personol, seminarau academaidd, gweithdai, a dosbarthiadau ymchwil ymarferol, yn annog sgiliau gweithio mewn tîm effeithiol a sgiliau cyfathrebu ar lafar o safon uchel.

Mae'r rhaglen hon yn cynnwys cyfleoedd i dreulio Blwyddyn Dramor, gan wella'ch dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy.

Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnig y cyfle i chi dreulio Blwyddyn mewn Diwydiant, yn y DU neu dramor, gan eich galluogi i ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl yn unig, sydd â chyflog gwerth mwy nag £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos. 

Os nad ydych chi ar y rhaglen Blwyddyn mewn Diwydiant, bydd gennych chi'r opsiwn i gwblhau lleoliad gwaith fel rhan o'r modiwl Lleoliad Gwaith Lefel 6. Mae lleoliadau gwaith presennol o'r trydydd sector yn bennaf, ond mae croeso i chi ddod o hyd i'ch lleoliad eich hun. Mae'r modiwl dewisol hwn yn gystadleuol, ac mae lleoedd yn gyfyngedig.

Gyrfaoedd Troseddeg a Seicoleg

Mae'r radd hon, sydd wedi'i hachredu gan y BPS yn darparu sylfaen gref mewn theori, ymchwil a sgiliau cymhwysol seicolegol. Er bod rhai graddedigion yn dewis dilyn hyfforddiant pellach mewn meysydd arbenigol seicoleg (megis seicoleg glinigol, fforensig, addysgol, neu chwaraeon), mae'r rhan fwyaf yn dilyn gyrfaoedd llwyddiannus ar draws ystod eang o ddiwydiannau.

Mae graddedigion y cwrs hwn wedi mynd ymlaen i swyddi ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol, addysg, ymchwil a'r gwasanaethau cyhoeddus a sifil, yn ogystal â gyrfaoedd mewn rheoli, adnoddau dynol, marchnata, profiad y defnyddiwr, a dadansoddi data. Mae'r sgiliau dadansoddol, ymchwil, cyfathrebu a datrys problemau sy'n cael eu datblygu yn ystod y radd yn cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr ymhell y tu hwnt i'r llwybrau gyrfa seicoleg traddodiadol. Bydd gennych chi hefyd y cyfle i ddod o hyd i gyflogaeth yn y system cyfiawnder troseddol, gan gynnwys rolau gyda'r Heddlu, cymorth i ddioddefwyr, a'r gwasanaethau carchardai a phrawf.

P'un a ydych chi'n dewis symud ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig neu fynd yn syth i gyflogaeth, mae'r radd hon yn rhoi sgiliau hyblyg, trosglwyddadwy i chi sy'n agor drysau i lwybrau gyrfa amrywiol, yn hytrach nag arwain at un llwybr proffesiynol.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Troseddeg a Seicoleg, BSc (Anrh)

Troseddeg a Seicoleg gyda Blwyddyn Dramor, BSc (Anrh)