Rheoli Busnes, BSc (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r BSc Rheoli Busnes wedi'i chynllunio ar gyfer meddylwyr chwilfrydig a blaengar sy'n barod i feithrin dealltwriaeth ddyfnach o sut mae sefydliadau'n gweithio, syniadau'n tyfu a sut mae newid yn digwydd yn lleol ac yn fyd-eang. Byddwch yn archwilio'r gwerthoedd sy'n diffinio busnes modern - cynaliadwyedd, cynwysoldeb, moeseg ac arloesi - ac yn darganfod sut gallwch chi wneud  gwahaniaeth.

Mae ein rhaglen yn cyfuno damcaniaeth a dysgu ymarferol, gan sicrhau eich bod yn datblygu sylfaen gadarn mewn meysydd busnes allweddol megis cyllid, economeg, marchnata, dadansoddeg a menter. Caiff eich astudiaethau eu cyfoethogi drwy gysylltiadau rheolaidd â busnesau, entrepreneuriaid ac arloeswyr, wrth i chi elwa o'n partneriaethau cryf â sefydliadau lleol a rhyngwladol.

Cewch eich addysgu o gwricwlwm sy'n cael ei arwain gan ymchwil a'i lywio gan ddiwydiant ac sy'n mabwysiadu safbwynt byd-eang gan gysylltu damcaniaeth yn uniongyrchol â thueddiadau ym myd diwydiant a materion byd go iawn. Cewch eich grymuso i ffynnu mewn cyd-destunau proffesiynol amrywiol, gan wneud cyfraniadau ystyrlon at weithredu busnesau ac ymateb yn effeithiol i heriau economaidd, gwleidyddol ac amgylcheddol byd-eang.

Mewn byd sy'n newid yn gyson, lle mae technoleg yn datblygu'n gyflym, lle mae marchnadoedd yn gweddnewid dros nos a heriau byd-eang yn trawsnewid y ffordd mae sefydliadau'n gweithredu, bydd y BSc Rheoli Busnes yn eich paratoi i lunio llwyddiant mewn byd bythol newidiol.

Mae'r Flwyddyn Sylfaen ddewisol sy'n rhan o'r rhaglen hon yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch, ac yn sicrhau bod gennych y sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth y bydd eu hangen arnoch chi i lwyddo yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os oes angen ychydig fwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i fyd addysg ar ôl seibiant. Ar ôl i chi gwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch chi'n symud ymlaen i Flwyddyn 1 eich gradd BSc.

Pam Rheoli Busnes yn Abertawe?

Byddwch chi'n cael eich addysgu gan academyddion o safon fyd-eang, sydd â gwybodaeth eang am fyd diwydiant a'r byd academaidd, yn yr Ysgol Reolaeth, sy’n flaenllaw yn y sector, ar Gampws y Bae. Mae ein cyfleusterau'n cynnwys mannau addysgu ac ardaloedd astudio pwrpasol, ynghyd â chyfleusterau TG gan gynnwys meddalwedd sy'n cyd-fynd â safonau diwydiant, wedi'u dylunio i'ch helpu i ffynnu. 

Mae'r Ysgol Reolaeth wedi'i hachredu gan AACSB International, y sefydliad addysg fusnes mwyaf yn y byd, sy'n cysylltu ysgolion busnes, busnesau a dysgwyr i greu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwych.

Eich Profiad Rheoli Busnes

O'r diwrnod cyntaf oll, byddwch yn cysylltu â busnesau, entrepreneuriaid ac arloeswyr drwy brosiectau go iawn, darlithoedd gwadd a heriau ymarferol. Byddwch yn elwa o'n partneriaethau â mentrau lleol a sefydliadau rhyngwladol, gan ddysgu'n uniongyrchol gan y bobl sy'n llunio byd busnes heddiw.

Wrth i chi symud drwy eich cwrs, byddwch yn datblygu eich gwybodaeth a'ch hyder i arwain a rheoli mewn unrhyw amgylchedd busnes drwy ddefnyddio eich sgiliau i ddatrys problemau go iawn o fyd busnes. Byddwch yn meithrin sgiliau  meddwl yn feirniadol, ymddwyn yn foesegol ac addasu’n greadigol i heriau newydd.

Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn cael cymorth pwrpasol gan Diwtoriaid Personol a'n Tîm Gyrfaoedd a fydd gyda chi bob cam o'r ffordd - o sgiliau astudio i gynllunio gyrfa.

Os yw heriau byd-eang yn tanio eich brwdfrydedd, mae ein Llwybr Ieithoedd Modern yn rhoi cyfle i chi astudio Eidaleg, Ffrangeg, Sbaeneg, Mandarin neu Almaenig ochr yn ochr â'ch modiwlau busnes. P'un a ydych chi'n ddechreuwr pur neu'n datblygu sgiliau Safon Uwch, erbyn i chi raddio, byddwch yn barod i gyfathrebu a chydweithredu'n hyderus ar draws diwylliannau - mantais hanfodol yn y farchnad swyddi ryngwladol sydd ohoni.

Mae'r rhaglen hon yn cynnwys cyfleoedd i dreulio semester neu flwyddyn dramor, gan gyfoethogi’ch dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy.

Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnig y cyfle i chi dreulio Blwyddyn mewn Diwydiant, yn y DU neu dramor, gan eich galluogi i gael profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl yn unig, sydd â chyflog gwerth mwy nag £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos.

Cyfleoedd Cyflogaeth Rheoli Busnes

Mae graddedigion y BSc Rheoli Busnes yn Abertawe yn meddu ar y sgiliau, yr wybodaeth a'r hyder y mae cyflogwyr ledled y byd yn chwilio amdanynt ac maent wedi'u paratoi'n dda ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd, gan gynnwys:

  • Entrepreneuriaeth ac Arloesi
  • Ymgynghori a Chynghori Strategol
  • Cynaliadwyedd a Chyfrifoldeb Corfforaethol
  • Dadansoddeg Fusnes a Rheoli Gweithrediadau
  • Cyllid a Chyfrifyddiaeth

Ni waeth i ba gyfeiriad bydd eich uchelgeisiau'n eich tywys, bydd ein cwrs yn eich paratoi i greu, arwain a llwyddo ym myd cyflym busnes. 

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Rheoli Busnes, BSc (Anrh)

Rheoli Busnes gyda Blwyddyn Dramor, BSc (Anrh)

Rheoli Busnes gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BSc (Anrh)