Rheoli Busnes Cymhwysol (Coleg Cambria), FDSc

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Pobl

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r radd sylfaen mewn Rheoli Busnes Cymhwysol yng Ngholeg Cambria yn cael ei chyflwyno mewn cydweithrediad ag Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe - lle rydych chi'n barod ar gyfer busnes go iawn o'r diwrnod cyntaf.

Byddwch yn ymgysylltu â briffiau a arweinir gan gyflogwyr, yn mireinio sgiliau cyllid, marchnata, gweithrediadau ac adnoddau dynol, wrth adeiladu a datblygu portffolio sy'n profi eich bod chi'n gallu cyflawni. Gallwch astudio’r byd gwaith yn y Ganolfan Rheoli Busnes, gallwch dyfu eich rhwydwaith drwy siaradwyr gwadd a chysylltiadau â'r diwydiant ar draws Cymru a thu hwnt, gan ddefnyddio gwybodaeth o’r ystafell ddosbarth i greu effaith effeithiol.

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar y dyfodol a’r ymarferol, mae’n cyflwyno hyfedredd digidol a data, arweinyddiaeth, a chynaliadwyedd fel eich bod chi'n barod ar gyfer yr economi ehangach, gyda'r offer sydd eu hangen i gyflawni mewn amgylcheddau busnes sy'n symud yn gyflym.

O brosiectau byw i ddysgu dewisol sy’n seiliedig ar waith, bydd eich profiad yn eich galluogi chi i ddatblygu'r hyder, yr hygrededd a'r gallu mae cyflogwyr yn gofyn amdanynt, a phan fydd cyfle'n codi, byddwch chi’n ddigon hyderus i gyflwyno cais a chyflawni eich nodau.

Pam Rheoli Busnes Cymhwysol (Coleg Cambria) yn Abertawe?

Wrth ddewis gradd mewn FDSc Rheoli Busnes Cymhwysol, byddwch yn astudio ystod eang o bynciau busnes a rheoli (megis marchnata, rheoli gweithrediadau, cyllid, cyfrifeg, strategaeth a rheoli adnoddau dynol).

Mae gan Goleg Cambria gysylltiadau ardderchog yng ngogledd Cymru, gyda siaradwyr gwadd o fyd busnes, cyflwyniadau a chyfleoedd i rwydweithio. Rydym yn ddarparwr profiadol o ran llwybrau prentisiaeth, gan gynnwys ar gyfer y cwrs rheoli busnes. Byddwch yn astudio yn ein Canolfan Rheoli Busnes Addysg Uwch yn Llaneurgain.

Mae'r rhaglen hon yn ddelfrydol i'r myfyriwr sy'n awyddus i ragori a chyrraedd lefel uchaf ymarfer rheoli busnes byd-eang.

Eich Profiad Rheoli Busnes Cymhwysol (Coleg Cambria)

Mae'r radd Rheoli Busnes Cymhwysol yn rhoi'r hyblygrwydd i chi astudio wrth weithio, i chi ddefnyddio'r hyn rydych chi wedi'i ddysgu yn syth. Wedi'i addysgu gan diwtoriaid sy'n weithredol yn y byd busnes, mae'r cwrs yn cyfuno'r hanfodion: marchnata, gweithrediadau, cyllid, cyfrifeg, strategaeth a rheoli adnoddau dynol gyda phrosiectau go iawn, mewnbwn cyflogwyr a siaradwyr gwadd. Bydd y radd hon yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y sector busnes.

Mae cwblhau'r holl fodiwlau ym mlynyddoedd 1 a 2 yn eich galluogi i ennill Gradd Sylfaen (yr FdSc mewn Rheoli Busnes Cymhwysol). Bydd cwblhau'r FdSc yn caniatáu dilyniant i'r BSc Rheoli Busnes Cymhwysol ym mlwyddyn 3 lle byddwch chi'n astudio 3 modiwl.

Mae'r modiwlau wedi'u dylunio i ganolbwyntio ar Ddeilliannau Dysgu - dau ohonynt fydd yn cael eu datblygu'n bersonol ac yn broffesiynol rhwng y myfyriwr, y tiwtor personol a'r cyflogwr sy'n fentor. Bydd y deilliannau hyn yn rhan o gontract dysgu ac yn sail ar gyfer gwaith cwrs ac asesu, er enghraifft, portffolio o dystiolaeth ac adroddiad ysgrifenedig.

Cyfleoedd Cyflogaeth Rheoli Busnes Cymhwysol (Coleg Cambria)

Mae myfyrwyr sydd â gradd Rheoli Busnes yn gyflogadwy iawn oherwydd bod ganddynt yr ystod lawn o sgiliau busnes sydd eu hangen. Mae cyfleoedd gyrfa'n cynnwys cyfrifeg, marchnata, adnoddau dynol, logisteg, datblygu busnes a gwerthiannau.

Mae graddedigion y cwrs wedi dilyn gyrfaoedd mewn meysydd sy'n cynnwys:

  • Busnes
  • Gweithwyr proffesiynol a rheolwyr TG
  • Addysgu a gofal plant
  • Eraill (gyrwyr trafnidiaeth a thechnegwyr pensaernïol)

Oherwydd natur arloesol y cwrs, byddwch yn gallu dysgu ac ymarfer eich sgiliau yn eich gweithle ar yr un pryd, gyda mentoriaid i'ch tywys drwy eich astudiaethau.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Rheoli Busnes Cymhwysol (Coleg Cambria), FDSc