Beth yw Sefydliad Ymchwil?
Sefydliad wedi'i datblygu ar gyfer gwneud ymchwil yw sefydliad ymchwil. Mae ein sefydliadau ymchwil wedi ymrwymo i gefnogi, annog a blaenoriaethu ymchwil staff a myfyrwyr. Nod ein sefydliadau ymchwil yw annog ymchwil ryngddisgyblaethol ar draws Prifysgol Abertawe a thu hwnt, i wella cyfleoedd ymchwil a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i heriau byd-eang yng Nghymru, y DU a thu hwnt.
Archwilio problemau byd-eang
Archwilio problemau byd-eang yw ein cyfres podlediadau, lle mae academyddion o bob rhan o’r Brifysgol yn siarad am sut mae eu hymchwil arloesol yn helpu i fynd i’r afael ag amrywiaeth o heriau byd-eang.
Yn y trydydd tymor 11-pennod hwn, bydd ein hacademyddion yn archwilio pynciau mor amrywiol a phwysig ag amddiffyn ein hunain rhag cemegau sy’n achosi canser, gwella gofal iechyd i bobl awtistig ac ailfeddwl am berthynas cymdeithas â cheir.
Ewch i'n tudalen podlediadau i wrando a thanysgrifio i'r gyfres. Gobeithio y gwnewch chi fwynhau!
Cymryd Rhan
Rydym yn croesawu unrhyw un sy’n rhannu ein gweledigaeth, cenhadaeth a gwerthoedd i ymuno â ni i hybu ein gweithgarwch cydweithio, gartref a thramor.
Yn benodol, rydym yn bwriadu parhau i gryfhau ein cysylltiadau â’r GIG, diwydiant a phartneriaid eraill ledled y byd.
Cysylltwch â ni