Mae'r Sefydliad Ymchwil Heneiddio'n Iach a Chyflyrau Cronig yn arwain dulliau rhyngddisgyblaethol arloesol i hybu iechyd gydol oes a darparu ymyriadau gwell i reoli cyflyrau cronig yn fwy effeithlon.
Trwy gydol ein bywydau ceir ffactorau amgylcheddol, biolegol, seicolegol a chymdeithasol sy'n effeithio ar ein hiechyd a’n lles. Arweinir gan Yr Athro Shareen Doak a Dr Emma Rees, mae'r Sefydliad Ymchwil Heneiddio'n Iach a Chyflyrau Cronig yn creu tystiolaeth o safon i ddeall y ffactorau hyn yn well ac i ddatblygu polisïau ac arferion i gefnogi pobl i heneiddio'n iach. Mae ein hymchwil yn rhychwantu holl gamau bywyd ac yn integreiddio gwybodaeth o'r lefel gellol i'r lefel gymdeithasol.
Ategir hyn gan ymchwil rhyngddisgyblaethol rhyngwladol sy'n cwmpasu astudiaethau arsylwi ar raddfa fawr, ymchwil arbrofol, astudiaethau ansoddol, a chyflwyno datblygiadau mewn atal, diagnosis a thriniaeth gynnar, i wella rheolaeth glinigol cyflyrau cronig.
Mae ymgysylltu a chynnwys rhanddeiliaid allweddol ac aelodau o'r cyhoedd yn rhan greiddiol o'n hymchwil i helpu pobl i gael bywydau iachach a hirach.
Cymryd Rhan
Rydym yn croesawu unrhyw un sy’n rhannu ein gweledigaeth, cenhadaeth a gwerthoedd i ymuno â ni i hybu ein gweithgarwch cydweithio, gartref a thramor.
Yn benodol, rydym yn bwriadu parhau i gryfhau ein cysylltiadau â’r GIG, diwydiant a phartneriaid eraill ledled y byd.
Cysylltwch â ni