Mae'r Gyfadran Iechyd a Gwyddor Bywyd ym Mhrifysgol Abertawe yn cynnal ymchwil mewn ystod eang o feysydd sy'n rhychwantu gwyddoniaeth fiofeddygol, iechyd cyhoeddus, seicoleg a disgyblaethau perthynol i iechyd gan gynnwys ymchwil nyrsio. Fel Cyfadran prifysgol ymchwil-ddwys, croesawn geisiadau am gyllid cymrodoriaeth allanol gan wyddonwyr eithriadol, uchelgeisiol sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd perthnasol ac sydd am ddod i weithio yn un o'n meysydd cryfder ymchwil.
Rydym yn cydnabod na fydd ymchwil sy’n cael effaith bob amser yn ffitio’n daclus i un adran disgyblaethol, ac rydym yn annog ymholiadau cymrodoriaeth ar gyfer prosiectau ar draws nifer o feysydd blaenoriaeth gan gynnwys y rhai sydd angen ymagwedd amlddisgyblaethol. Mae gennym gysylltiadau rhagorol â Chyfadrannau eraill y Brifysgol, yn enwedig y Gyfadran Wyddoniaeth a Pheirianneg a Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol. Mae gennym hefyd bartneriaethau strategol gyda dau fwrdd iechyd GIG trwy Bartneriaeth ARCH (Cydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd).