Ymchwil-gwybodus Ymarfer Myfyriol
Bydd asesiad ar gyfer EDPM30 yn galluogi athrawon dan hyfforddiant i ddangos eu bod wedi datblygu lefel uchel o sgiliau meddwl yn feirniadol a fydd yn eu galluogi i integreiddio dysgu academaidd a phrofiadol.
Asesiad 1: Myfyrio beirniadol ar gynlluniau gwersi
Bydd athrawon dan hyfforddiant yn cyflwyno 4 cynllun gwersi penodol gyda ffocws penodol ar faterion ysgol cyffredinol (e.e. rheoli ymddygiad mewn gwers Fioleg), ynghyd â myfyrdod beirniadol 750 o eiriau ar effeithiolrwydd y gweithgareddau dysgu a gyflwynwyd. Dylai pob myfyrdod beirniadol ddangos fod ganddynt ddealltwriaeth glir o sut mae llenyddiaeth yn cyfeirio cynllunio ar gyfer deilliannau penodol yn eu pwnc a sut mae'r wers a ddewiswyd yn cymhwyso theori i ymarfer. Bydd athrawon dan hyfforddiant yn amlinellu (i) y llenyddiaeth ymchwil sy'n cyfiawnhau eu dewis o weithgareddau dysgu a (ii) sut mae cynllun y wers yn ystyried fframweithiau statudol, (iii) ffactorau eraill a gyfrannodd at wella'r profiad dysgu i ddisgyblion (e.e. cynllun seddi, cymorth gan oedolion eraill).
Asesiad 2: Adroddiad ar brosiect ymchwil agos i ymarfer
Yn yr ail asesiad, bydd athrawon dan hyfforddiant yn gorfod nodi cwestiwn ymchwil sy'n gysylltiedig ag un o'r materion ysgol gyfan a astudiwyd. Bydd athrawon dan hyfforddiant yn datblygu cynnig er enghraifft, prosiect ymchwil sy'n agos i ymarfer ar raddfa fach, a fydd yn gwella cyfranogiad disgyblion. Caiff y canfyddiadau eu cyflwyno fel adroddiad ysgrifenedig sy'n cynnwys adolygiad llenyddiaeth, methodoleg, dadansoddi data a thrafod y canfyddiadau. Bydd yr adroddiad yn myfyrio'n feirniadol ar ymyriadau a strategaethau a roddwyd ar waith yn y prosiect. Bydd yr adroddiad agos i ymarfer yn 6,000 o eiriau.
Asesiad 3: Myfyrdod beirniadol ar reolaeth ystafell ddosbarth
Bydd athrawon dan hyfforddiant yn nodi ardal o reolaeth ystafell ddosbarth yr hoffent ei gwella neu ei mireinio. Byddant yn cymryd fideo o'u hunain wrth addysgu dros gyfnod o wersi er mwyn arsylwi ar eu hymarfer addysgu eu hunain ac i fonitro cynnydd o ran yr ardal o reolaeth ystafell ddosbarth a nodwyd. Bydd athrawon dan hyfforddiant yn ymchwilio i ddulliau rheolaeth ystafell ddosbarth a'u cymhwyso mewn awyrgylch ystafell ddosbarth. Caiff y recordiad fideo ei gefnogi gan fyfyrdod beirniadol o'r strategaethau a ddefnyddir ganddynt. Bydd yr adroddiad terfynol yn 3,000 o eiriau.
EDP300 Ymarfer Proffesiynol
Bydd yr asesiad ar gyfer EDP300 yn galluogi athrawon dan hyfforddiant i ddangos sut maent wedi cyflawni'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth a gallant gael eu hargymell ar gyfer gwobr SAC a gyflwynir gan y Cyngor Gweithlu Addysg. Bydd yn rhaid i athrawon dan hyfforddiant ddarparu tystiolaeth yn erbyn pob un o'r 32 o ddisgfrifwyr SAC a nodir yn y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth. Yn ystod eu hymarfer addysgu, bydd athrawon dan hyfforddiant yn cael eu cyflwyno i amrywiaeth o brofiadau mewn lleoliadau addysgol gwahanol sy'n ceisio sicrhau eu bod yn cael mwy nag un cyfle i gasglu tystiolaeth yn erbyn pob un o Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yng Nghymru.
Bydd athrawon dan hyfforddiant yn defnyddio Pasbort Dysgu Proffesiynol y Cyngor Gweithlu Addysg i gofnodi tystiolaeth o gyflawni'r Safonau Proffesiynol. Byddant yn gallu lanlwytho tystiolaeth yn Gymraeg neu'n Saesneg mewn amrywiaeth o fformatau gan gynnwys ffeiliau sain a fideo (gyda chaniatâd priodol) yn ogystal â chyflwyniadau ysgrifenedig traddodiadol (e.e. cynlluniau gwersi, cynlluniau gwaith, adnoddau dysgu ac addysgu, dyddiaduron myfyrio, adroddiadau ymchwil).
Bydd yn rhaid i fyfyrwyr ysgrifennu 5 traethawd myfyriol byr hefyd (400 gair yr un) sy'n cyd-fynd â phenawdau'r Safonau Proffesiynol, sef: Addysgeg, Cydweithio, Dysgu Proffesiynol, Arloesedd ac Arweinyddiaeth, a thraethawd myfyrio hwy 1,000 o eiriau sy'n trafod perthynas y 5 llinyn â'r gwerthoedd a'r rheolaeth a nodwyd yn y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth.