Trosolwg o'r Cwrs
Hoffech chi ragori mewn diwydiant chwaraeon sy’n cynnig cyfleoedd gyrfa byd-eang?
Mae’r diwydiant chwaraeon yn fusnes sy’n tyfu’n gyflym ac mae angen pobl sy’n meddu ar setiau sgiliau cyflawn sy’n gallu cymhwyso eu gwybodaeth am chwaraeon i ochr fusnes y diwydiant. Gan ddarparu sylfaen ym maes prif flaenoriaethau rheoli a sut i’w cymhwyso yng nghyd-destun y byd chwaraeon, mae’r cwrs gradd MSc mewn Rheoli (Chwaraeon) yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth hanfodol ar gyfer y genhedlaeth nesaf o arweinwyr sefydliadau chwaraeon.
Mae ein rhaglen yn canolbwyntio ar reoli chwaraeon, gan gynnwys prif ddyletswyddau sefydliadau chwaraeon i weithwyr a rhanddeiliaid yn ogystal â rheoliadau sy’n ymwneud â materion hanfodol megis diogelu, cynwysoldeb, atal dopio, a threfnu digwyddiadau. Byddwch chi hefyd yn gwerthuso’n feirniadol materion moesegol ac uniondeb craidd ym myd chwaraeon a sut i ymarfer llywodraethu da, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, o safbwynt a hysbyswyd gan ddamcaniaeth ac sy’n berthnasol o ran ymarfer.
Wedi’i achredu gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI), sef yr unig gorff proffesiynol siartredig yn y Deyrnas Unedig yn benodol ar gyfer hyrwyddo’r safonau uchaf mewn rhagoriaeth rheoli ac arweinyddiaeth, mae’r cwrs ar agor i fyfyrwyr o unrhyw ddisgyblaeth a hoffai weithio ym myd busnes neu reoli. Ar ôl gorffen y modiwlau a fapiwyd yn y cwrs gradd MSc mewn rheoli byddwch chi’n cymhwyso ar gyfer Tystysgrif mewn Rheoli ac Arweinyddiaeth Strategol Lefel 7 y Sefydliad Rheolaeth Siartredig.