Dirprwy Is-ganghellor

Mae'r Athro Judith Lamie'n Ddirprwy Is-ganghellor ar gyfer Ymgysylltu Rhyngwladol. Yn fwyaf diweddar, bu Judith yn gweithio fel ymgynghorydd addysg uwch ac mae'n ymuno â ni gyda llu o brofiad, ar ôl gweithio mewn uwch-swyddi strategol a rhyngwladol gyda nifer o sefydliadau. Mae ei swyddi blaenorol yn cynnwys Cyfarwyddwr Strategaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Birmingham, Cyfarwyddwr Rhyngwladol ym Mhrifysgol Leeds, Dirprwy Is-ganghellor (Rhyngwladol) ym Mhrifysgol Middlesex, Dirprwy Is-ganghellor (Materion Allanol) ym Mhrifysgol Derby a Chadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr NAVITAS UK.
Gan weithio ar y cyd ar draws ein Cyfadrannau a'r Gwasanaethau Proffesiynol, bydd Judith yn cefnogi ein nodau rhyngwladol uchelgeisiol drwy weithio i ehangu ein partneriaethau byd-eang, datblygu portffolio llwyddiannus o addysg drawswladol, gwella ein gwaith o recriwtio myfyrwyr rhyngwladol a pharhau i wella ein henw da fel sefydliad o’r radd flaenaf.
Mae Judith yn parhau i gyhoeddi a chyflwyno’n eang ar bynciau addysg ryngwladol, rheoli newid ac arloesi a rhyngwladoli. Ym mis Ionawr 2022, bu Judith yn gyd-awdur, The Evolution of Transnational Education: Pathways, Globalisation and Emerging Trends, gyda Dr Chris Hill a Dr Tim Gore. Cafodd llyfr diweddaraf Judith, The Evolving Nature of Universities: What Shapes and Influences Identity in International Higher Education, ei gyhoeddi gan Routledge ym mis Awst 2023.

Yr Athro Judith Lamie