Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredu

Ganwyd ac addysgwyd Niamh yn Nulyn, a graddiodd o Goleg Prifysgol Dulyn â gradd anrhydedd mewn Peirianneg. Ar ôl graddio treuliodd ddwy flynedd yn gweithio i Brifysgol y Frenhines Belfast ar ysgoloriaeth ymchwil, gan gynnal prosiectau ymchwil gymhwysol a noddwyd gan fyd diwydiant. Yna cymhwysodd i fod yn Gyfrifydd Rheoli Siartredig yn y diwydiant bwyd, lle bu'n gweithio cyn symud i'r sector Addysg Uwch yng Nghernyw. Mae Niamh yn Gymrawd Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli. Cymhwysodd fel Cyfarwyddwr Siartredig yn 2022 ac mae'n Gymrawd Sefydliad y Cyfarwyddwyr.

Ar hyn o bryd, mae Niamh yn Gofrestrydd ac yn Brif Swyddog Gweithredu ym Mhrifysgol Abertawe, gan fod yn atebol i'r Is-ganghellor ac mae’n arwain llawer o'r gwasanaethau proffesiynol yn y Brifysgol. Mae'r rhain yn cynnwys adnoddau dynol, ystadau a gwasanaethau campws, marchnata, recriwtio a rhyngwladol, gwasanaethau digidol, cynllunio strategol a thrawsnewid a gwasanaethau proffesiynol Cyfadrannau. Mae gwasanaethau llywodraethu a chyfreithiol y Brifysgol yn rhan o'i phortffolio hefyd.

Cyn ymuno â Phrifysgol Abertawe, roedd Niamh yn Brif Swyddog Gweithredu Prifysgol Ulster yng Ngogledd Iwerddon. Yn Ulster adeiladodd dîm newydd cryf a fu'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau proffesiynol craidd y Brifysgol gan gynnwys Pobl a Diwylliant, Ystadau a Bywyd Campws, Cyllid, Gwasanaethau Digidol, Gweinyddu Myfyrwyr a Marchnata a Chyfathrebu. Crëwyd y tîm newydd hwn fel rhan o raglen newid ehangach gwasanaethau proffesiynol y Brifysgol yr oedd Niamh wedi'i noddi a'i harwain. Yn ogystal â chyflawni newid strwythurol angenrheidiol, arweiniodd y rhaglen at ffyrdd mwy cydweithredol o weithio, a sefydlodd ddiwylliant a oedd yn canolbwyntio ar staff a myfyrwyr gan weithio'n agos gydag undebau'r staff a'r myfyrwyr. Yn ystod ei hamser yn Ulster, bu Niamh yn gyfrifol am gyflawni datblygiad newydd campws Belfast gwerth £365 miliwn. Cwblhawyd y campws eiconig hwn, ac fe'i hagorwyd yn llawn, yn 2022.

Cyn Prifysgol Ulster, bu Niamh yn Brif Swyddog Gweithredu cyntaf ac yn Gyfarwyddwr Bwrdd Falmouth Exeter Plus (FX Plus), sef menter ar y cyd rhwng Prifysgol Falmouth a Phrifysgol Caerwysg. Yn y swydd hon, bu'n gyfrifol am ddarparu portffolio eang o wasanaethau proffesiynol a rennir ar gyfer y ddwy brifysgol ar draws tri champws yng Nghernyw. O dan arweinyddiaeth Niamh, gwnaeth yr ymgysylltu rhagweithiol gan y gwasanaethau proffesiynol â staff academaidd a myfyrwyr hyrwyddo gwelliannau ac arloesi ar draws gwasanaethau, gan gynnwys sgiliau llyfrgell ac academaidd, gwasanaethau myfyrwyr, TG, ystadau, datblygiadau adeiladu cyfalaf a gwasanaethau campws.

Yn FX Plus ac yn ei swydd flaenorol fel Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau ym Mhrifysgol Falmouth, chwaraeodd Niamh rôl ganolog ym mhrosiect y Prifysgolion Cyfunol yng Nghernyw, a gyflawnodd newid sylweddol o ran cyfleoedd addysg uwch ledled Cernyw dros gyfnod o 15 mlynedd. Ers dechrau'r bartneriaeth rhwng Prifysgol Falmouth a Phrifysgol Caerwysg bu Niamh yn bensaer arni. Dros gyfnod o dwf a wnaeth bara am fwy na degawd, gwnaeth y bartneriaeth ddatblygu ar y cyd gampws yn Penryn gwerth £300 miliwn a chyflawni gwasanaethau proffesiynol a rennir, gan alluogi twf cyflym mewn addysgu ac ymchwil o safon fyd-eang.

Am bedair blynedd tan fis Gorffennaf 2016, bu Niamh yn Gyfarwyddwr Anweithredol Wave Hub Limited, sef cyfleuster profi ynni gan donnau 48 megawat, ar y môr ac wedi'i gysylltu â'r grid, oddi ar arfordir Cernyw. Bu hefyd yn aelod o bwyllgor ymgynghorol strategol HEFCE ynghylch Arweinyddiaeth, Llywodraethu a Rheoli am bedair blynedd tan 2011. Cynrychiolodd Ogledd Iwerddon ar bwyllgor gwaith cenedlaethol Cymdeithas Penaethiaid Gweinyddu Prifysgolion tan fis Rhagfyr 2020.

Bu Niamh yn Ymddiriedolwr prif theatr Cernyw, sef The Cornwall Playhouse, am 8 mlynedd tan 2016, cyn symud i Ogledd Iwerddon ac mae'n Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau.

Niamh Lamond,