Atal

Mae Atal yn faes diogelu sy'n delio â radicaleiddio rhywun i ymddygiad terfysgol neu eithafol.  

Math o gamdriniaeth yw radicaleiddio sy’n gallu effeithio ar unrhyw unigolyn, ond gwyddys bod y sawl sy’n recriwtio i derfysgaeth a grwpiau eithafol yn aml yn targedu plant (h.y., pobl dan 18 oed) ac Oedolion mewn Perygl, sydd efallai yn llai tebygol o gwestiynu’r ideolegau y mae'r grwpiau hyn yn eu hyrwyddo, neu â llai o allu i wneud.   

Mae nodi pa unigolion sydd efallai mewn perygl o gael eu radicaleiddio yn golygu y gellir rhoi ymyriadau cynnar a mesurau ataliol ar waith i gefnogi ac amddiffyn unigolion a chymuned ehangach y Brifysgol rhag gweithredoedd terfysgol ac eithafol posibl.   

Mae gwarchod lles pobl sy'n agored i gael eu tynnu i derfysgaeth yn gyfrifoldeb o dan y ddyletswydd Atal.     

Nid eich cyfrifoldeb chi yw asesu lefel y radicaleiddio, ond pan fydd gennych bryder am berson, gallwch helpu drwy gyflwyno cymaint o gyd-destun â phosibl wrth rannu'r pryder hwnnw â'ch Rheolwr Llinell.     

Atal

Hyfforddiant Prevent