Crynodeb o'r Newyddion

Athletwyr benywaidd yn chwarae hoci ac yn cael eu profi mewn labordy

Oes newydd ar gyfer arloesi mewn chwaraeon a thechnoleg iechyd yng Nghymru

Mae Prifysgol Abertawe wedi lansio'r Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Arloesedd mewn Chwaraeon ac Iechyd (NNIISH), sef menter newydd sy’n ceisio trawsnewid tirwedd technoleg iechyd a chwaraeon yng Nghymru. Wedi'i arwain gan Brifysgol Abertawe a'i gefnogi gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe a byrddau iechyd lleol, nod NNIISH yw cyflymu twf arloesi ym meysydd technoleg chwaraeon, technoleg feddygaeth a gofal iechyd yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe gan ddod ag arbenigedd lleol, cenedlaethol ac amlwladol ynghyd.

Darllen mwy
Myfyrwyr yn cerdded ar y traeth

Safleoedd Prifysgolion Ewrop QS yn gosod Abertawe ymysg y 100 sefydliad gorau

Mae Prifysgol Abertawe wedi'i gosod ymysg y 100 prifysgol orau yn Ewrop, yn ôl ail rifyn o Dablau Prifysgolion y Byd QS: Ewrop 2025.

Darllen mwy
Person yn ymgysylltu â chiosg AI

Ciosgau newydd yn VR rhithwir ac AI i esbonio sut maent yn gweithio

Bydd deallusrwydd artiffisial (AI) yn helpu pobl i ddysgu am dechnoleg lled-ddargludyddion, sy'n hanfodol i bopeth o ffonau symudol a cherbydau electronig i loerenni, drwy giosgau rhyngweithiol newydd a ddatblygwyd gan Imersifi, cwmni realiti rhithwir ac arbenigwyr o Brifysgol Abertawe.

Darllen mwy
Delwedd o'r llyfr 'The President's Kill List'

Llyfr newydd yn archwilio rôl llywodraeth yr Unol Daleithiau mewn llofruddiaetha

Yn ei lyfr newydd, The President’s Kill List: Assassination in US Foreign Policy Since 1945 (Gwasg Prifysgol Caeredin), mae Dr Luca Trenta, sy'n arbenigo mewn Polisi Tramor yr Unol Daleithiau ac yn Athro Cysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe, yn cynnig trosolwg cynhwysfawr o gysylltiad llywodraeth yr Unol Daleithiau â llofruddiaethau o'r Rhyfel Oer cynnar hyd at heddiw.

Darllen mwy
Myfyrwyr nyrsio plant, Rosie Read (ar y chwith) a Carys Evans gyda'r uwch-ddarlithydd nyrsio plant, Virginia Beckerman

Mae hyfforddiant efelychu o'r radd flaenaf yn llywio ein gweithlu iechyd

Mae ymarferwyr proffesiynol gofal iechyd y dyfodol yn elwa nawr o fuddion cyfleusterau hyfforddi arloesol Prifysgol Abertawe. Mae dau safle Canolfan Efelychu a Dysgu Ymdrochol Prifysgol Abertawe (SUSIM) yn gartref i'r dechnoleg wal ymdrochi fwyaf yn y byd. 

Darllen mwy
Plant yn dal dwylo yn rhedeg gyda'r haul yn y cefndir

Prosiect newydd i ymdrin â chanfyddiadau pobl ifanc yng Nghymru

Mae prosiect dan arweiniad Prifysgol Abertawe'n gobeithio atal cynnydd pryderus canser y croen yng Nghymru drwy archwilio canfyddiadau presennol plant, rhieni/gofalwyr ac addysgwyr am gael lliw haul. Bydd y canlyniadau'n helpu i ddatblygu pecyn cymorth addysgol newydd am ddiogelwch yn yr haul ar gyfer cwricwlwm Cymru.

Darllen mwy

Uchafbwyntiau Ymchwil

Mangrofau yng Ngorllewin Affrica

Mangrofau a newid hinsawdd yng Ngorllewin Affrica

Ymwelodd tîm o Brifysgol Abertawe, dan arweiniad yr Athro Geoff Proffitt, ymweld â'r Gambia i ymchwilio i'r bygythiadau lluosog i fangrofau'r wlad a chynnal asesiad cynhwysfawr o goedwigoedd mangrof Gambia, asesu adnoddau dŵr a datblygu dulliau adfer mwy effeithiol.

Darllen mwy
Gwraig yn bwydo ei babi ar y fron

Cynyddu Cyfraddau Bwydo ar y Fron

Mae llawer o strategaethau i gefnogi bwydo ar y fron yn canolbwyntio ar gymorth ymarferol ar gyfer menywod ar lefel bersonol.Tra bod hyn yn bwysig, mae ymchwil yr Athro Amy Brown wedi archwilio dylanwadau seico-gymdeithasol-ddiwylliannol ehangach sy'n niweidio bwydo ar y fron, yn enwedig dealltwriaeth wael ar lefel gymdeithasol ynghylch sut mae bwydo ar y fron yn gweithio ac ymddygiad arferol babanod.

Darllen mwy
Pobl yn cerdded trwy gefn gwlad

Twristiaeth Gynaliadwy mewn Parciau Cenedlaethol

Er mwyn lliniaru'r difrod a achosir gan dwristiaeth, mae'r Athro Sarah Nicholls, mewn partneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, wedi datblygu proses rheoli digwyddiadau effeithiol a fydd yn galluogi'r awdurdod, ac ardaloedd gwarchodedig eraill ledled y DU a'r tu hwnt, i hwyluso gweithgareddau pleserus profiadau a diogel i bob defnyddiwr a chynnal nodweddion arbennig tiroedd gwarchodedig yn fwy llwyddiannus.

Darllen mwy

Ffocws Abertawe

Ffôn symudol gyda delwedd llaw dal delwedd ddigidol o AI

'Generative AI: what is it and what are the implications for society?'

Yn y bennod hon o Archwilio Problemau Byd-eang, mae'r Athro Yogesh Dwivedi a Dr Laurie Hughes yn trafod y manteision, yr heriau a'r risgiau posib sy'n gysylltiedig â defnyddio platfformau deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol megis ChatGPT mewn addysg a goblygiadau posib deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol i unigolion, cyrff a sefydliadau yn y gymdeithas ehangach. .

Gwrandewch nawr
Adfeilion teml Groeg hynafol. Parthenon ar yr Acropolis yn Athen, Gwlad Groeg ar fachlud haul

'The science of beauty: how aesthetics can boost your mood and cognition'

Yn yr erthygl hon o The Conversation, mae Dr Irene Reppa yn trafod gwyddor harddwch, a faint rydyn ni'n hoffi rhywbeth a pha mor hardd rydyn ni'n ei ddarganfod, sy'n gallu cael effaith gymhellol ar ein profiad a'n hymddygiad.

Darllen mwy

Dan y chwyddwydr...

Dr Jun Yang

Ymchwilydd Gyrfa Gynnar

Mae Dr Jun Yang yn Darlithydd Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd Saesneg-Tsieinëeg. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar gyfieithu cydweithredol ar-lein sy'n cynnwys cyfieithu torfol a chyfieithu gan gefnogwyr.

Darganfod mwy
Gargi Naha

Ymchwilydd ôl-raddedig

Mae Gargi Naha yn gwneud PhD mewn Astudiaethau Meddygaeth a Gofal Iechyd. Nod ei hymchwil yw archwilio rôl rhywedd ac amddifadedd ym mhrofiad pobl ifanc o ofal brys ar gyfer asthma acíwt a'r canlyniadau yn sgîl mynd i Adrannau Achosion Brys yng Nghymru.

Darganfod mwy
Logo Global Drugs Policy Observatory

Canolfan Ymchwil

Nod yr Arsyllfa Polisi Cyffuriau Byd-eang yw hyrwyddo polisi cyffuriau sy’n seiliedig ar dystiolaeth a hawliau dynol, drwy fonitro, dadansoddi ac adrodd am ddatblygiadau polisi yn gynhwysfawr ac yn drylwyr, ar lefelau cenedlaethol a rhyngwladol.

Darganfod mwy

Cydweithrediadau a Phartneriaethau Ymchwil

ffotofoltäig ffilm denau

Symud y tu hwnt i hafaliad celloedd solar 80 mlwydd oed

Mae ffisegwyr ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Åbo Akademi wedi torri tir newydd sylweddol mewn technoleg celloedd solar drwy ddatblygu model dadansoddol newydd sy'n gwella dealltwriaeth o ddyfeisiau ffotofoltäig ffilm denau a’u heffeithlonrwydd.

Darllen mwy
Yn y llun yn llofnodi’r cytundeb mae’r Athro Lisa Wallace, Dhanjay Jhurry, yr Athro Paul Boyle, yr Athro Judith Lamie a Joel Bruneau.

Partneriaeth newydd i ddarparu arbenigedd hyfforddi nyrsys ym Mauritius

Bydd nyrsys ym Mauritius yn gallu elwa o hyfforddiant gofal iechyd arobryn Prifysgol Abertawe fel rhan o gydweithrediad rhyngwladol newydd. Bydd y Brifysgol yn darparu rhaglen BSc Nyrsio (Atodol) ar ôl llofnodi cytundeb partneriaeth â Hyb Addysg Rhyngwladol Uniciti (UIEH) ym Mauritius.

Darllen mwy
Tyrbin gwynt ar y môr

Cyllid newydd i gefnogi Cymru i ddatblygu technoleg ynni morol arloesol

Mae Innovate UK wedi dyfarnu cyllid i optimeiddio ymhellach blatfform gwynt alltraeth arnofiol unigryw a hyblyg ar gyfer cymwysiadau yn y Môr Celtaidd yn rhan o  gydweithrediad sy'n cynnwys Prifysgol Abertawe. Dan arweiniad Marine Power Systems, bydd Adran Peirianneg Fecanyddol Prifysgol Abertawe'n gweithio ar y cyd â Ledwood Mechanical EngineeringTata Steel UKABP (Associated British Ports) Port Talbot, a Phorthladd Aberdaugleddau ar y prosiect sy'n werth dros £800,000.

Darllen mwy
Tsimpansî mam a babi

Astudiaeth o’r galon yn cynnig dealltwriaeth newydd o esblygiad dynol

Mae tîm ymchwil rhyngwladol o Brifysgol Abertawe ac UBC Okanagan (UBCO) wedi darganfod gwybodaeth newydd am esblygiad dynol drwy gymharu calonnau dynol â chalonnau epaod mawr eraill.

Darllen mwy
Mae siarc

Amrywiaeth swyddogaethol siarcod yn is nag erioed

Mae ymchwil newydd a arweiniwyd gan Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Zurich wedi canfod bod siarcod wedi cadw lefelau uchel o amrywiaeth swyddogaethol am y rhan fwyaf o'r 66 miliwn o flynyddoedd diwethaf, cyn dirywio'n gyson yn ystod y 10 miliwn o flynyddoedd diwethaf, gan gyrraedd y gwerth isaf a gofnodwyd erioed heddiw.

Darllen mwy

Cofrestrwch i dderbyn y rhifyn diweddaraf o MOMENTUM yn syth i'ch mewnflwch

Drwy lenwi'r ffurflen hon rydych yn cydsynio i dderbyn MOMENTUM drwy e-bost. Gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd trwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio ar waelod e-bost. I gael rhagor o wybodaeth darllenwch ein polisi preifatrwydd.