Yr Her
Gall cyfranogiad neu ymddygiad amhriodol ar ran rhieni mewn chwaraeon ieuenctid ddylanwadu ar brofiadau chwaraeon plant mewn ffordd negyddol a gall gyfrannu at eu hatal rhag cyfranogi. Yn anffodus, gellir gweld digwyddiadau o ymddygiad drwg rhieni ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol.
Gan fod gan chwaraeon y potensial i ddylanwadu’n gadarnhaol ar iechyd corfforol, seicolegol a chymdeithasol plant, mae’n bwysig helpu plant i fwynhau chwaraeon a pharhau i gyfranogi.
Y DULL
Mae'r Athro Camilla Knight a’i thîm wedi bod yn gweithio gyda rhieni, sefydliadau chwaraeon a thimau ledled y byd, ynghyd ag Uned Diogelu Plant mewn Chwaraeon yr NSPCC, i archwilio’r ffactorau unigol, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol sy’n dylanwadu ar ymddygiad rhieni mewn chwaraeon.