Alan Llwyd, Athro yn Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe, yn ennill Cadair 2023

Alan Llwyd yn eistedd yn ei gadair ar lwyfa Eisteddfod Genedlaethol 2023

Presenoldeb Prifysgol Abertawe yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Eleni eto, cynhaliodd y Brifysgol wythnos lawn a llwyddiannus o weithgareddau yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llŷn ac Eifionydd 2023.

Fe wnaeth y Brifysgol gydweithio gyda’r Pwyllgor Llên lleol, cymdeithasau a chyfeillion i guradu rhaglen amrywiol a bywiog yn y Babell Lên a ninnau’n noddi’r pafiliwn hwnnw. Cafwyd cynulleidfaoedd eang a sylw teilwng iawn ar raglenni gyda’r nos S4C i’r darlithoedd, paneli trafod a chyflwyniadau ysgafn oedd i’w clywed gydol yr wythnos yn y Babell Lên. Gellir gwylio nol yma.

Bu myfyrwyr, staff a chyfeillion y Brifysgol yn cyfrannu at yr arlwy yn y Babell Lên, Pabell y Cymdeithasau, stondin y Coleg Cymraeg a nifer mwy o leoliadau, gan gynnwys Dr Non Vaughan Williams, Dr Gwennan Higham, Dr Grug Muse, Emily Evans, Alpha Evans, Joseff Gnagbo, Dr Aneirin Karadog, Yr Arglwydd Dafydd Wigley, y Prifardd Twm Morys, a’r Athro Christine James. Os am wybod mwy am ein harlwy, mae datganiad yma. Hoffai'r Brifysgol longyfarch a diolch yn fawr i’r staff a’r myfyrwyr fu’n cyfrannu i’r sesiynau hyn.

Uchafbwynt yr wythnos, wrth gwrs, oedd tystio camp aruthrol yr Athro Alan Llwyd, Adran y Gymraeg, wrth iddo gipio trydedd Cadair yn ein Prifwyl ac estynwn ein llongyfarchiadau gwresog iddo. Ceir datganiad pellach yma. Daw cyfle buan, gobeithio, i ni gyd fedru dathlu’r gamp yn ei gwmni.

Llongyfarchiadau hefyd i un o’n cydweithwyr, Dr Rhian Meara, ar ennill Gwobr Goffa Eilir Hedd Morgan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Derbyniodd y wobr am ei hymroddiad a’i chyfraniad at addysgu’r gwyddorau, ac yn benodol Daearyddiaeth, trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe ac mae ei hanes yma.

Cyfraniad pwysig a chyffrous arall a wnaed gan Gyfadran y Gwyddorau a Pheirianneg Prifysgol Abertawe i weithgareddau’r Eisteddfod eleni oedd noddi a darparu Y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg. Cafodd y fedal ei chreu ar Gampws y Bae drwy adeiladu haenau o fetal printiedig 3D. Mewn seremoni dan ofal Elin Rhys, aelod o Gyngor y Brifysgol, a chyda chyfraniadau gan yr Athro David Smith a’r Athro Trystan Watson, gwobrwywyd yr Athro Alan Shore.

Meddai’r Athro David Smith, Dirprwy Is-ganghellor a Deon Gweithredol y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg: "Roeddwn yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth â'r Eisteddfod i noddi a chynhyrchu'r Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg. Mae sawl tîm medrus iawn wedi dod ynghyd i gynhyrchu'r fedal unigryw gan ddefnyddio metel printiedig 3D yn y Ganolfan Nodweddu Deunyddiau Uwch (MACH1). Mae wedi bod yn fenter newydd gyffrous ac rydym yn falch o fod yn rhan o ddathlu gweithgareddau gwyddoniaeth a thechnoleg trwy gyfrwng y Gymraeg."

Meddai’r Athro Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi Prifysgol Abertawe: "Hoffwn ddiolch i’r holl staff a weithiodd mor galed i drefnu a sicrhau bod y Brifysgol wedi llwyddo i gyrraedd cymaint o ymwelwyr ar Faes y Brifwyl eto eleni – gŵyl a dorrodd sawl record eleni ac a ddenodd ymhell dros 150,000 o ymwelwyr. Ymlaen yn awr i Bontypridd ac i Eisteddfod Rhondda Cynon Taf yn 2024!"

Gallwch weld lluniau o weithgareddau Prifysgol Abertawe a gynhaliwyd yn ystod yr wythnos yma.

Alan Llwyd - Prifardd y Prifeirdd | Twm Morys yn cyflwyno gwerthfawrogiad o gyfraniad eithriadol yr Athro Alan Llwyd, sy’n Athro yn Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe, i lenyddiaeth Gymraeg. Bydd y digwyddiad yn cynnwys perfformiadau o’i waith| Dydd Llun, 7 Awst am 11am 

Merched yn gwneud radio: peri tarfiad ar y tonfeddi Cymraeg | Dr Non Vaughan Williams yn archwilio cyfraniad Marion Griffith Williams a Teleri Bevan i'r arlwy radio | Dydd Mawrth, 8 Awst am 4.30pm

Darlith Goffa Hywel Teifi - Cynnau 'Cannwyll y Byd'?: Lewis Morris a Datblygiad Diwylliant Print yng Nghymru. | Dr Eryn White yn traddodi ar wasg argraffedig Cymru'r 18fed ganrif | Dydd lau, 10 Awst am 11am

Eisteddfod y Beirdd: Caerwys 1523 | Cyflwyniad gan Gruffudd Antur a Peredur Lynch i nodi 500 mlwyddiant Eisteddfod Caerwys 1523 - yr eisteddfod hanesyddol honno lle cadarnhawyd rheolau'r gynghanedd | Dydd lau, 10 Awst am 4.30pm

Saunders Lewis, Cymru ac Ewrop | Dafydd Wigley yn trafod gweledigaeth Saunders ar gyfer gwir le Cymru yn Ewrop | Dydd Gwener, 11 Awst am 11am

Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023

Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023