Beth yw iechyd poblogaethau a gwyddorau meddygol?

Mae ein cwrs Iechyd Poblogaethau a Gwyddorau Meddygol yn un o’n Llwybrau i Feddygaeth. Mae’r cwrs yn ystyried determinantau iechyd dynol o’r Gronyn, i’r Person i’r Boblogaeth gan ystyried yr amrywiaeth o ffactorau sy’n effeithio ar iechyd a lles poblogaeth.

Ein Straeon myfyrwyr

Leila Farooqi
Llun Leila

"Roeddwn wrth fy modd i ddod o hyd i gwrs a oedd yn cyflawni agweddau dynol a gwyddonol iechyd, ond cefais fy nenu'n arbennig i Brifysgol Abertawe oherwydd pa mor frwdfrydig a chyfeillgar oedd y darlithwyr a'r staff. 

Gan fod fy nghwrs yn fach, deuthum i adnabod y darlithwyr yn dda iawn a buan iawn y sefydlwyd ymdeimlad o gymuned a chefnogaeth. Roedd hyn o gymorth yn ystod cyfnodau asesu oherwydd roeddwn yn gwybod y gallwn ddibynnu ar fy rhwydwaith cymorth."

Darganfod mwy am stori myfyriwr Leila

PA YRFAOEDD A ALLAI FOD AR GAEL IMI AR ÔL IMI RADDIO?

Trwy ein tri maes cyflogadwyedd, bydd Iechyd Poblogaethau a Gwyddorau Meddygol yn rhoi ichi fynediad i ystod o yrfaoedd cyffrous, o hysbyseg iechyd ac ymchwil iechyd i eirioli dros gleifion a rheoli gofal. Hefyd gallech ddilyn ein Llwybr i Feddygaeth. Y tri maes Cyflogadwyedd yw:

  • Ymchwil Gwyddorau Meddygol
  • Menter ac Arloesedd yn y Gwyddorau Meddygol
  • Gwyddorau Meddygol ar Waith (ein Llwybr i Feddygaeth).  

LLWYBRAU AT FEDDYGETHETH 

Mae'r cwrs hwn hefyd yn un o'n graddau Llwybrau at Feddygaeth gan gynnig y cyfle am gyfweliad gwarantedig ar gyfer Meddygaeth (i Raddedigion), gan eich helpu i gyflawni eich uchelgais i astudio Meddygaeth a dod yn Feddyg. Maent yn ddelfrydol i chi os ydych:

 

Darganfyddwch mwy - Llwybrau i Feddygaeth

Archwiliwch opsiynau eich cwrs ...

Darganfyddwch fwy o wybodaeth am bob un o'n cyrsiau. Ar bob tudalen cwrs fe welwch wybodaeth am fodiwlau, gofynion mynediad, staff addysgu, ffioedd dysgu a sut mae ein Llwybrau i Feddygaeth yn gweithio.