Busnes: Starling Bank

Sector: Gwasanaethau Ariannol

Gwnaeth Anne Boden, a raddiodd mewn Cyfrifiadureg a Chemeg o Brifysgol Abertawe, sefydlu Starling Bank yn 2014, gan gredu mai'r unig ffordd o greu banc gwirioneddol ddigidol, wedi'i adeiladu i ddiwallu anghenion cwsmeriaid, oedd drwy ddechrau o'r newydd.

Dyfarnwyd MBE i Anne, sy'n feddyliwr blaenllaw yn y sector technoleg ariannol, am ei gwasanaethau i dechnoleg ariannol yn 2018 a hi yw cadeirydd tasglu mentergarwch twf uchel dan arweiniad menywod llywodraeth y DU.

Anne Boden

Darllenwch yr holl astudiaethau achos isod a darganfod mwy am sut y gallwch gymryd rhan.