Rydym yn gobeithio eich bod wedi cael eich ysbrydoli gan ein sgyrsiau â rhai o entrepreneuriaid benywaidd mwyaf llwyddiannus y DU. Nawr yw'r amser i chi gymryd rhan.

Adroddiad y Tasglu

Amcan y tasglu yw tynnu sylw at amrywiaeth a chynhwysiant ym myd entrepreneuriaeth twf uchel, gan ddangos bod hynny ar agor i bawb, waeth beth fo'u rhyw.

Yn ogystal â chael eich ysbrydoli gan ein hastudiaethau achos, gallwch hefyd ddysgu rhagor am Adroddiad y Tasglu drwy ymweld â gwefan y llywodraeth.

Cyfrannwch rodd

Rhowch nawr i gefnogi ymchwil ac addysg ym Mhrifysgol Abertawe.

Gallai eich rhodd helpu myfyrwyr sy'n wynebu caledi ariannol neu gefnogi ymchwil mewn sector penodol

Mentergarwch Myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Prifysgol Abertawe, ein staff, a busnesau newydd a chwmnïau allgynhyrchu gan fyfyrwyr neu gyn-fyfyrwyr wedi ennill nifer o wobrau a chydnabyddiaeth fawr. Mae Prifysgol Abertawe wedi cael lle ar y rhestr fer ddwywaith yn y categori Prifysgol "Entrepreneuraidd Ragorol" y Flwyddyn yng ngwobrau nodedig Times Higher Education (THE) yn 2021 a 2023. Y wobr hon yw'r anrhydedd uchaf ei fri yng Ngwobrau Times Higher Education a gydnabyddir yn eang fel 'Oscars' y sector addysg uwch.

Yn 2022, mae 93% o'n graddedigion mewn cyflogaeth ar lefel broffesiynol, yn astudio neu'n rheoli eu busnesau eu hunain. (arolwg Hynt Graddedigion HESA).

Astudio ym Mhrifysgol Abertawe

Mae mynd i'r brifysgol yn newid bywydau. Dyma eich amser i greu atgofion anhygoel a chwrdd â ffrindiau gydol oes. Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, byddwch yn elwa o'n cymuned amlddiwylliannol ar ddau gampws, sy'n rhoi safbwynt byd-eang a chyfleoedd i feithrin sgiliau sy'n para am oes.