Busnes: Multiverse & One Garden

Sector: Addysg / Technoleg

Mae Sophie wedi sefydlu dau fusnes yn hytrach nag un. Yn 2016, sefydlodd Multiverse ar y cyd. Mae'r cwmni'n defnyddio meddalwedd awtomataidd i baru prentisiaid â chwmnïau ar sail dawn ac agwedd, yn hytrach na graddau.

Ar ôl gadael Multiverse, sefydlodd Sophie One Garden ar y cyd. Dyma blatfform technoleg sy'n creu cymuned i bobl chwilfrydig, gan gynnig profiadau dysgu ar-lein eithriadol i gwsmeriaid. Prynwyd One Garden gan Saga PLC yn 2023.

Sophie Adelman

Pryd wnaethoch y penderfyniad i ddechrau eich busnes eich hun a sut gwnaeth eich taith ddechrau?

Wrth dyfu i fyny, doeddwn i erioed wedi bwriadu bod yn entrepreneur. Doedd neb yn fy nheulu yn ymwneud â byd busnes. Roedd pawb yn gweithio ym maes meddygaeth. Es i i'r brifysgol yng Nghaergrawnt ac astudiais i ddaearyddiaeth oherwydd doeddwn i ddim yn gwybod beth roeddwn i am ei wneud o hyd.

Oddeutu 10 mlynedd yn ddiweddarach pan es i i Brifysgol Stanford yn America, gwnes i feddwl am y tro cyntaf fy mod i wir am dreulio gweddill fy ngyrfa ym myd busnes. Cenhadaeth Ysgol Fusnes Stanford yw newid bywydau, newid sefydliadau a newid y byd. Roeddwn i wir yn credu yn y meddylfryd hwnnw. Roeddwn i yng nghanol pobl a oedd yn ceisio creu effaith fawr ar y byd.

Dechreuais i weithio i gwmni recriwtio newydd yn 2013. Roedd y cwmni'n gweithredu mewn modd entrepreneuraidd iawn a rhoddwyd llawer o ryddid ac annibyniaeth i mi. Fodd bynnag, dros amser, dechreuais i deimlo efallai nad oeddwn i'n cytuno'n llwyr â rhai o'r penderfyniadau a wnaed gan y tîm arweinyddiaeth canolog, a ddechreuodd achosi rhywfaint o rwystredigaeth.

Yn wir, dyna'r amser pan gefais i'r syniad y gallwn i wneud rhywbeth fy hun. Gwnaeth ef gyd-fynd â'r amser pan gwrddais i â'm cyd-sefydlwr, Euan, a oedd eisoes wedi gweld cyfle ym maes prentisiaethau. Dechreuon ni siarad ac roedd egni mawr rhyngon ni. Gwnaethon ni benderfynu gweithio gyda'n gilydd fel cyd-sefydlwyr a ganwyd Multiverse.

Beth oedd eich gweledigaeth/syniad mawr pan ddechreuoch chi, a sut gwnaeth y peth ddatblygu?

Rwyf wedi sefydlu dau fusnes erbyn hyn. Deilliodd Multiverse o brofiad Euan o weithio mewn cwmni a oedd wedi dechrau cynnig prentisiaethau i bobl a oedd wedi bod yn ddi-waith ers amser maith. Bu newid yn neddfwriaeth y llywodraeth, a gwelon ni gyfle i ddechrau cyflwyno prentisiaethau mewn ffordd well.

Un o'r pethau cyntaf a wnaethon ni oedd eistedd a gwir ddiffinio ein gweledigaeth am y dyfodol. Roedden ni am greu dewis amgen neilltuol i'r brifysgol. Roedd y weledigaeth yn fwy na ‘darparu prentisiaethau'n well’ yn unig. Roedden ni am newid y byd, newid bywydau pobl a newid amrywiaeth y bobl sy'n eistedd o gwmpas y ford yn rhai o sefydliadau gorau'r byd. Roedden ni am greu llwybr amgen i fynd i brifysgolion gorau'r byd. Llwybr sydd yr un mor uchel ei fri, yr un mor foddhaus, sy'n cynnig yr un budd cymdeithasol ac sy'n arwain at yrfa yn un o gwmnïau gorau'r byd. Dyna oedd ein syniad mawr ni.

Dilynodd One Garden yr un egwyddor, sef creu mynediad gwell at gyfleoedd ym maes addysg. Gyda Multiverse, roedden ni wedi canolbwyntio go iawn ar ddechrau gyrfaoedd proffesiynol pobl. Roeddwn i wir am ganolbwyntio ar ochr arall y sbectrwm. Mae fy rhieni wedi ymddeol, ac roedd yn ymddangos fel pe baen nhw wedi colli eu pwrpas i raddau. Roedden nhw wedi mynd o weithio'n amser llawn i fod yn segur, gan ganfod gweithgareddau i lenwi eu hamser. Yn ystod y cyfnodau clo, roedd llawer o unigrwydd yn y genhedlaeth honno. Gweledigaeth One Garden oedd creu lle i bobl sy'n dwlu ar ddysgu er mwyn dysgu. Dilynodd hi'r un egwyddor â'r brifysgol, lle rydych chi'n cael cyfle i ddysgu gan rai o bobl fwyaf deallus y byd. Drwy ein syniad ni, gallai pobl wneud yr un peth, ond o foethusrwydd eu cartrefi eu hunain, heb yr angen i gyflwyno traethodau neu sefyll arholiadau. Y nod oedd profi llawenydd dysgu, a thrwy ddysgu, roedd pobl yn teimlo bod ganddyn nhw fwy o gysylltiad â'r byd a mwy o bwrpas.

Wrth negodi a cheisio ennill buddsoddiad cyfalaf, pa sgiliau oedd gennych, pa sgiliau gwnaethoch chi eu meithrin, a pha sgiliau oedd angen i chi eu dysgu?

Mae cyflwyno cynigion i fuddsoddwyr yn ymwneud ag adrodd straeon a sgiliau gwerthu. Mae angen i chi allu mynd â phobl ar daith, gwerthu gweledigaeth iddyn nhw ac esbonio sut gallwch chi wireddu'r weledigaeth honno. Mae'n bwysig iawn egluro'r broblem barhaus rydych chi'n ei datrys, a pham bydd pobl yn talu i ddatrys y broblem barhaus honno.

Dysgais i am bwysigrwydd cylchoedd adborth. Mae pobl yn gofyn cwestiynau am bethau sy'n peri pryder iddyn nhw. Mae'n bwysig cynnwys y ddealltwriaeth honno yn y cynnig nesaf. Pan fyddwch chi'n cynnwys y gwersi hynny, rydych chi'n gwella'r cynnig yn barhaus.

Bydd angen i chi hefyd allu pwyso a mesur adborth da ac adborth gwael. Bydd pawb yn rhoi ei farn ei hun. Ar adegau, byddwch chi'n dweud ‘diolch’, ond byddwch chi'n meddwl ‘dyna'i farn ef’ ac yn gadael y peth. Ar adegau eraill, byddwch chi'n cael adborth sy'n hynod ddefnyddiol. Mae gallu gwahaniaethu rhwng y ddau'n ddawn anodd ei dysgu, ond rwy'n meddwl ei bod hi'n un o'r rhai pwysicaf i sefydlwr busnes.

Sut byddech chi'n herio diwylliant status quo cwmnïau twf uchel, lle mae dynion yn teyrnasu'n draddodiadol? Pa newidiadau byddech chi'n eu gwneud?

Yn bendant, mae rhwystrau i fenywod rhag bod yn entrepreneuriaid a chodi cyfalaf. Rwy'n deall fy mod i'n fenyw wen a aeth i brifysgol dda a bod y brifysgol dda honno wedi rhoi cyfle i mi gyda brandiau mawr. Rwy'n cydnabod fy mod i'n freintiedig. Dwi ddim yn dod o deulu cyfoethog; es i ddim i ysgol breifat. Mae llawer o bobl eraill sy'n fwy breintiedig na minnau, ond rwy'n cydnabod fy mod i'n freintiedig i ryw raddau ac mae'n debygol fy mod i wedi cael amser haws nag eraill, yn enwedig gan fod gen i gyd-sefydlwr gwrywaidd. Dyw hynny ddim yn golygu ei bod hi'n hawdd dechrau arni neu godi cyfalaf, ond wnes i ddim wynebu rhai o'r rhwystrau rwyf i wedi gweld eraill yn eu hwynebu.

Mae amlygrwydd yn hollbwysig. Mae hi mor bwysig gweld menywod eraill sy'n llwyddo. Mae diffyg addysg gyrfaoedd mewn ysgolion a'r brifysgol o hyd sy'n dangos bod entrepreneuriaeth yn llwybr gyrfa, ac mae diffyg cyngor da ynghylch sut a phryd i ystyried entrepreneuriaeth. Mae amlygrwydd yn bwysig iawn gan ei fod yn dangos bod sawl llwybr i entrepreneuriaeth. Cymerodd hi rhwng 10 a 12 mlynedd ar ôl gadael y brifysgol i mi gredu bod gen i'r adnoddau a'r sgiliau i allu dechrau rhywbeth. Rwy'n credu'n gryf fod entrepreneuriaid yn cael eu creu, yn hytrach na'u geni.

Mae annog menywod i sylweddoli nad ydyn nhw wedi colli'r cyfle os byddan nhw'n aros tan iddyn nhw gyrraedd canol eu 30au neu ganol eu 40au i ddechrau cwmni hefyd yn bwysig. Yn wir, mae'n debygol bod ganddyn nhw fwy o adnoddau, a mwy o sgiliau i ddechrau cwmni'n llwyddiannus bryd hynny. Does dim cyfyngiad oedran ar entrepreneuriaeth.

Beth ydych chi'n credu sydd wedi arwain at eich llwyddiant?

Dydw i ddim o reidrwydd yn teimlo fy mod i wedi llwyddo. Taith yw hyn i gyd, ond ife? Rwyf wedi cael rhai profiadau galla i eu rhannu â phobl eraill, a gobeithio y byddan nhw o werth iddyn nhw.

Rwy'n meddwl mai un o'r pethau sydd wedi arwain at yr hyn rwyf wedi ei gyflawni hyd yn hyn yw fy mod i'n benderfynol. Rwy'n meddwl bod hon yn nodwedd allweddol. Rwyf hefyd yn cwestiynu pethau'n fawr ac rwy'n chwilfrydig iawn. Roeddwn i'n bendant yn blentyn a oedd yn gofyn ‘pam’. Roedd bob amser gymhelliant mewnol dwfn gen i i adael etifeddiaeth, a chael effaith gadarnhaol ar y byd.

Rwyf hefyd yn meddwl fy mod i'n dda iawn wrth adnabod pobl dalentog, ac yn gobeithio fy mod i'n dda wrth annog pobl i ymuno â mi. Mae angen tîm i lwyddo, ac rwy'n credu fy mod i wedi bod yn ffodus i allu dod â thimau gwych at ei gilydd i adeiladu pethau gwych. Mae rhan o hynny'n ymwneud ag ysgogi pobl i gredu yn y weledigaeth, ond mae hi hefyd yn ymwneud â'r gallu i asesu pwy sy'n meddu ar y meddylfryd cywir, yr agwedd gywir, y dyheadau cywir, a dangos llwybr i'w llwyddiant eu hunain iddyn nhw. Rwy'n dwlu ar fuddsoddi mewn pobl wych a'u helpu i lwyddo.

Pa dri awgrym byddech chi'n eu rhoi i'r genhedlaeth nesaf o fenywod sy'n sefydlu busnesau?

  1. Meithrinwch eich rhwydwaith. Mae pobl yn meddwl am rwydweithio mewn ffordd negyddol, ond mae'n ymwneud â chwrdd â phobl newydd a meithrin perthnasoedd â nhw. Rwyf bob amser yn ceisio meithrin perthnasoedd â phobl, y tu mewn i'm cylch a'r tu allan iddo. Fy rhwydwaith pwysicaf bob amser fu fy nghymheiriaid (nid fy mentoriaid) sydd wedi fy nghefnogi, fy nghynghori a'm herio dros y blynyddoedd.
  2. Os ydych chi'n frwd am syniad, ewch ati i'w brofi yn y farchnad cyn i chi fuddsoddi mewn creu cynnyrch neu wasanaeth. Siaradwch â'ch darpar gwsmeriaid. Bydd angen i chi wir ddeall pwy yw eich cwsmeriaid a beth yw eu hanghenion – dyna'r ffordd orau o lunio rhywbeth a fydd yn datrys eu problemau parhaus ac yn creu rhywbeth y byddan nhw'n ei garu.
  3. Byddwch yn chwilfrydig. Gofynnwch gwestiynau'n barhaus am sut mae pethau wedi cael eu gwneud.

Darllenwch yr holl astudiaethau achos isod a darganfod mwy am sut y gallwch gymryd rhan.