Busnes: Karma Cans & Karma Kitchen

Sector: Arlwyo & Lletygarwch

Ochr yn ochr â Gini, ei chwaer, Eccie sy'n gyfrifol am Karma Cans, busnes arlwyo a digwyddiadau sy'n darparu mwy na 1,000 o brydau o fwyd bob dydd i fusnesau corfforaethol ledled Llundain.

Ar ôl cael problemau wrth ddod o hyd i fan cegin i'w busnes, gwnaethant hefyd sefydlu Karma Kitchens, gan drawsnewid safleoedd diwydiannol nas defnyddiwyd yn ddigonol yn unedau cegin masnachol wedi'u dylunio'n ystyriol i'r diwydiant gwasanaethau bwyd. Gwnaethant sicrhau buddsoddiad gwerth £250m yn ddiweddar.

Llun o Eccie Newton

Pryd wnaethoch chi benderfynu cychwyn eich busnes eich hun a sut ddechreuodd eich taith?

Ar ôl astudio yn yr LSE yn Llundain, doedd gen i fawr o syniad beth roeddwn i am ei wneud ar ôl graddio. Mewn gwirionedd, roedd angen arian arna i. Dechreuais wneud cais am swyddi ond ro’n i'n teimlo y gallwn wneud mwy o arian ar fy mhen fy hun. Ro’n i eisiau i bob diwrnod gwaith fod yn hwyl. Roedd llawer o’m ffrindiau yn ymgeisio am swyddi gyda rhyw deitlau gwych. Ond pan o'n i'n eu holi nhw beth oedd y swydd yn ei olygu, doedd o ddim yn swnio'n hwyl nac yn gyffrous iawn. Mae mor bwysig meddwl beth fydd eich gwaith bob dydd yn eich swydd nid dim ond meddwl am y teitl. Yn aml, dydyn ni ddim yn meddwl am y pethau hynny pan fyddwn ni’n gwneud penderfyniadau am ein gyrfaoedd.

Pan oeddwn i'n pwyso a mesur beth i'w wneud nesaf, meddyliais, wel, dw’i wedi ticio pob bocs - wedi gwneud Lefel A, gradd, a Gradd Meistr. Ro’n i hefyd yn teimlo ’mod i wedi gwneud popeth oedd fy rhieni am i mi ei wneud ac roeddwn i nawr eisiau gwneud beth oeddwn i eisiau ei wneud. Tra roeddwn i yn y brifysgol, ro’n i wedi bod yn paratoi bwyd at amser cinio a’i ddosbarthu i swyddfeydd pobl, felly roedd gen i droed yn y drws yn barod, ond dim ond ychydig o gleientiaid. Roeddwn i'n meddwl efallai mai dyna'r cyfeiriad yr oedd angen i mi ei ddatblygu. Dyna sut y dechreuodd Karma Cans. Ymunodd fy chwaer, Gini, â'r busnes, dechreuodd fy helpu ac fe wnaeth un peth arwain at y llall.

Y prif beth ddysgais i yn y brifysgol oedd sut i weithio ar eich pen ei hun ar brosiectau tymor hir a'u cyflawni dros gyfnod o amser. Wrth redeg busnes, mae angen i chi gael yr ymrwymiad hirdymor hwnnw i chi'ch hun i gyflawni dros amser a deall nad ydych chi o reidrwydd yn mynd i weld y diwedd am dipyn. Mae hynny'n un o’r sgiliau sylfaenol wrth redeg busnes. Mae angen i chi wybod efallai na welwch chi elw am bump i saith mlynedd. Mae angen i chi weithio’n galed yn y cefndir, gobeithio’r gorau, a dal ati.

Beth oedd eich syniad mawr pan ddechreuoch chi? Sut mae wedi datblygu ac a yw wedi newid?

Pan ddechreuon ni Karma Cans roedd hi’n ddyddiau cynnar iawn ar y farchnad danfon i’r cartref. Roedd Just Eat mewn busnes, ond doedd Uber Eats ddim yn bodoli mewn gwirionedd.

I ddechrau, ein nod oedd gwerthu prydau bwyd iach i gwsmeriaid unigol, mewn cartonau aml-dro, a’u danfon nhw i’w swyddfa ar feic. Gydag amser, daethom i sylweddoli ei bod hi’n fwy synhwyrol i gael swmp-archebion a darparu gwasanaeth i swyddfeydd mawr. Mewn egwyddor, rydyn ni’n dal i ddilyn ein cysyniad gwreiddiol o ddarparu cinio iach i’ch swyddfa. Ond rydyn ni wedi newid ein ffordd o’i werthu. Rydyn ni nawr yn mynd yn syth at reolwr y swyddfa yn hytrach nag unigolion.

Yr ail fusnes i ni ei ddatblygu yw Karma Kitchen. Rydym yn cymryd warws diwydiannol ysgafn a'i throi yn gegin fasnachol. Rydym wedyn yn rhentu gofod i fusnesau bwyd eraill. Digwyddodd hyn ar ddamwain mewn gwirionedd. Ar y pryd, doedd Karma Cans ddim yn gwneud llawer o arian, ac fe gawson ni sgwrs gyda'n rheolwr ariannol am beth i'w wneud i ddatrys hynny. Roedd un peth a ddywedodd wedi gwneud i ni sylweddoli y byddem yn debygol o wneud mwy o arian trwy rentu ein gofod cegin na thrwy ddarparu prydau bwyd.

Ar ôl meddwl mwy, fe welon ni fod gan hyn botensial. Yr her fwyaf yn Karma Cans oedd dod o hyd i ofod cegin. Roedd yn gwbl amhosibl. Nid oedd model cydweithio ar gyfer busnes bwyd neu gegin yn bodoli mewn gwirionedd chwaith. Dyna pam yr aethom ati i greu un ein hunain. Gwnaethom y penderfyniad i gymryd cam i faes cwbl anghyfarwydd ac adeiladu ail fusnes, gan ymrwymo i redeg y ddau ar yr un pryd.

Pa fath o dîm oedd o'ch cwmpas pan ddechreuoch chi? Pwy oeddech chi ân ei gael ar y daith gyda chi? Pa rinweddau oeddech chi'n chwilio amdanyn nhw a pham?

Rydyn ni’n ffodus o gael y timau gorau. Mae pobl yn siarad llawer am ddiwylliant yn y gweithle, a sut mae diwylliant yn cael ei greu gan yr hyn rydych chi'n ei wneud, sut rydych chi'n ei wneud ef, a beth sy'n bwysig i chi fel sylfaenwyr. Ond, rhywbryd neu’i gilydd, mae diwylliant yn newid o fod yn rhywbeth y mae'r sylfaenwyr yn ei reoli a'i gyfeirio, i fod yn rhywbeth sy'n cael ei adeiladu gan y tîm eu hunain.

Mae Karma Kitchen ychydig yn iau fel busnes, felly mae'r tîm yn dal i ystyried pwy ydyw, tra bod Karma Cans eisoes â diwylliant eithaf aeddfed. Mae’n bendant yn dîm o bobl sy'n cyflawni pethau, sy'n gyfrifol iawn ac sy’n cefnogi ei gilydd. Mae'r tîm yn wir yn ymddiried yn ei gilydd i wneud y gwaith. Nid oes neb byth yn siomi ei gilydd yn Karma Cans.

Mae'r tîm yn Karma Cans wedi bod yn anhygoel wrth ddiffinio beth yw'r busnes a beth y gall ei roi i'r bobl sy'n rhan o'r tîm a'r gymuned y mae'n gweithio ynddi. O'r dechrau rydym bob amser wedi credu, os ydym yn gwerthu cynnyrch, yna dyna ddylen ni fod. Cinio tîm yw'r hyn rydyn ni'n ei werthu. Rydym yn gwerthu'r syniad o fwyta cymunedol a sicrhau bod syniadau pawb yn cael eu clywed. Mae'r tîm cyfan yn eistedd i lawr amser cinio, gan rannu'r un bwyd ar yr un pryd, rhannu syniadau, a siarad yn anffurfiol. Dyna'r hyn yr ydym wir yn credu ynddo yn Karma Cans. Dyna'r gwerth craidd i ni. Dyna rydyn ni'n ei wneud yn ein cwmni bob dydd - o ddydd i ddydd - rydyn ni i gyd yn cael cinio gyda'n gilydd. Mae pawb yn cyrraedd yr un pryd, rydyn ni'n bwyta yr un adeg, ac rydyn ni'n gadael yr un pryd.

Fel sylfaenydd benywaidd, beth fu'r rhwystr mwyaf arwyddocaol ar eich taith? Ydych chi wedi wynebu rhwystrau sy'n gysylltiedig â rhywedd a sut wnaethoch chi ddelio â nhw?

Un o'r problemau gyda'r cwestiwn hwn yw ei fod yn eich annog i siarad am y problemau rydych chi wedi'u hwynebu, yn lle canolbwyntio ar y pethau gwych rydych chi wedi'u gwneud a'r holl bethau da rydych chi wedi'u hadeiladu. Mae'r stori gyfan wedyn yn sôn am sut rydych chi wedi brwydro.

Rwy'n credu bod Gini a minnau’n bobl ddigyfaddawd. Dyma’r cwmnïau rydyn ni, a dim ond ni wedi'u hadeiladu. Allwn ni ddim dweud sut brofiad fyddai hynny wedi bod i ddyn, oherwydd dydyn ni erioed wedi profi hynny. Er i ni gael rhai adegau rhwystredig, byddwn i’n canolbwyntio ar y ffaith bod gweithio i chi'ch hun yn eich rhyddhau gan eich bod yn adeiladu eich byd eich hun. All dim fod yn well na hynny?

Beth bynnag fyddwn ni wedi ei wynebu mewn cyflwyniad neu mewn cyfarfod o’r bwrdd, byddwn bob amser yn dod adref at y tîm. Pobl rydyn ni wedi eu dewis sydd o’n cwmpas, a phobl sy'n credu ynom ni. Nid oes dim yn fwy pwerus na hynny.

Sut byddech chi'n herio diwylliant status quo y cwmnïau twf uchel sy'n cael eu dominyddu'n draddodiadol gan ddynion?

Nid oes llawer iawn o sylfaenwyr benywaidd yn y DU sy'n derbyn cyllid. Mae grŵp mawr o groestoriad o bobl sy'n cyfrannu at yr economi, sy'n ddefnyddwyr ac yn aelodau o'n cymuned, sy'n cael eu hanwybyddu o ran cyllid. Rydym wedi tueddu i ariannu cwmnïau sy'n cael eu rhedeg gan ddynion gwyn, ac mae hynny'n arwain at anwybyddu grwpiau diddordeb cyfan a marchnadoedd cyfan. Gallai gweithredu polisi o ariannu amrywiol fod â’r potensial o dyfu busnesau llwyddiannus mawr gan ennill cynulleidfaoedd ehangach a mwy o ddefnyddwyr.

Byddwn i o bosibl yn edrych ar y cyfarfod cyflwyno cynnig, a mynd ati i’w ehangu i fformat ychydig yn wahanol a allai fod yn addas i bobl sy'n llai cyfforddus â'r syniadau traddodiadol o gyflwyno. Byddai'n ddefnyddiol cael sgyrsiau hirach. Fe wn i am lawer sy'n rhedeg busnesau cryf iawn, mae eu cyd-fasnachwyr yn wir yn eu hedmygu ac yn parchu'r hyn maen nhw'n ei wneud. Mae eu cwsmeriaid yn hapus ac maen nhw'n gwneud arian da, ond maen nhw'n cael trafferth mewn cyfarfod i gyflwyno cynnig am fod y sefyllfa yn frawychus, neu nid dyma'r math o sgwrs arferol iddyn nhw ei chael. Nid yw hynny'n golygu na allan nhw redeg busnes da. Y gwir yw eu bod nhw'n wael wrth gyflwyno cynnig. Byddai newid y ffurf a chreu cyfle i gwrdd â phobl a chael sgwrs yn hynod fuddiol.

Pa dri awgrym fyddech chi'n eu rhoi i'r genhedlaeth nesaf o sylfaenwyr benywaidd?

Mae’r cyntaf yn benodol iawn; creu dec o sleidiau wyth tudalen ar gyfer cyflwyno. Gwneud dec clir, hardd sy’n crisialu’ch holl syniadau am sut rydych chi’n gweld eich busnes yn tyfu.

Yn ail, gwybod o ble mae'r arian yn dod ac adeiladu eich achos busnes i dargedu'r gynulleidfa gywir. Gwnewch yr ymchwil i’r math o arian ac elw sy'n gydnaws â'ch busnes, fel y gallwch chi ddeall pwy y dylech chi siarad â nhw. Mae codi arian yn waith hir ac anodd, felly bydd hyn yn arbed cryn dipyn o amser i chi.

Yn drydydd, bydd adegau anghyfforddus wrth i chi negodi, neu pan fyddwch chi am daro bargen wrth werthu. Dyma’r adeg pan allwch chi deimlo’n lletchwith. Os gallwch chi ddal eich hun yn y foment honno am eiliad yn hirach, dyna yn sylfaenol sy’n gwneud negodi da, sef nofio’r don o deimlo'n anghyfforddus. Peidiwch â neidio i mewn a dweud rhywbeth er mwyn llenwi'r distawrwydd; mae'n iawn i fod yn anghyfforddus.


Darllenwch yr holl astudiaethau achos isod a darganfod mwy am sut y gallwch gymryd rhan.