Busnes: Childs Farm

Sector: Nwyddau gofal personol i blant

Joanna Jensen, a fu'n fancer buddsoddi gynt, yw sefydlydd prif frand gofal personol babanod a phlant y DU, Childs Farm, a greodd yn 2010 o ganlyniad i groen sensitif ei merch ei hun, a oedd yn tueddu i gael ecsema.

Joanna Jensen

Pryd wnaethoch y penderfyniad i ddechrau eich busnes eich hun a sut gwnaeth eich taith ddechrau?

Rwyf wedi bod yn entrepreneuraidd ers fy mhlentyndod. Roedd fy mam-gu'n entrepreneur, gan gynnal sawl gwesty ar hyd arfordir y de. Roedd gan fy nhad-cu ‘swydd go iawn’ fel masnachwr siwgr, felly roedd fy mam-gu'n gyfrifol am y gwestai. Pan wnaethon nhw ymddeol, roedd fy mam-gu a'm tad-cu am ganolbwyntio ar yr hyn a aeth â’u bryd go iawn, sef prynu a gwerthu hen bethau. Cafodd fy mam-gu lwyddiant mawr wrth werthu hen bethau, gan ddanfon cynwysyddion â dodrefn brown a dodrefn o gyfnod y Rhaglywiaeth mor bell ag Awstralia a San Francisco. Yn ystod y 1970au, roedd hi'n flaenllaw wrth achub dodrefn o gyfnod y Rhaglywiaeth gan fod trethi uchel yn golygu bod tai mawr yn cael eu gwerthu am brisiau rhad a bod perchnogion yn llosgi'r dodrefn gan nad oedd neb am eu prynu.

Gwnes i sefydlu fy musnes cyntaf pan oeddwn i'n 20 oed, gan greu busnes dylunio mewnol i addurno a dodrefnu eiddo rhent yn Llundain a brynwyd gan fuddsoddwyr o Singapore a rhai Tsieineaidd o Hong Kong. O ganlyniad i'r busnes hwn, gwnes i adleoli i Hong Kong yn y pen draw lle newidiais i yrfa'n llwyr i fod yn fancer buddsoddi.

Gwnaeth genedigaeth fy ail blentyn, Bella, fy arwain at sefydlu Childs Farm. Roedd hi'n gwenu ac yn chwerthin o'r cychwyn cyntaf, ond roedd ganddi ecsema cronig hefyd. Allwn i ddim canfod unrhyw beth i liniaru ei chroen poenus a chefais i arswyd pan wnaeth meddyg fy nghynghori i ddefnyddio hydrocortisone, eli steroid, ar ei chroen ifanc anaeddfed. Roedd ecsema wedi effeithio arna i yn ystod fy mhlentyndod ac mae gen i groen sensitif o hyd a minnau'n oedolyn, felly rwyf bob amser wedi bod yn obsesiynol am ofal croen, gan dreulio amser yn ymchwilio i arlwy newydd ac yn ymweld â fferyllfeydd ledled y byd yn chwilio am ffyrdd sensitif o ofalu am y croen. O ganlyniad i'r holl flynyddoedd hynny o fod yn chwilfrydig a gofyn cwestiynau diddiwedd i arbenigwyr croen, llwyddais i i newid o reoli ein fferm i fod yn gemegydd. Er fy mod i wedi methu cemeg lefel ‘O’, roeddwn i'n siŵr y gallwn i ddatrys y broblem drwy fy ymagwedd naturiol, a thrwy ddefnyddio cynhwysion cynaliadwy o ffynonellau moesegol.

Beth oedd y syniad mawr wrth ddechrau arni, sut gwnaeth ef ddatblygu ac a wnaeth ef newid?

Fy syniad mawr oedd creu cyfres o gynhyrchion gofal croen a gwallt a fyddai'n galluogi Bella i olchi ac ymolchi heb boen. Roeddwn i am allu lliniaru ei chroen llidiog a'i gwneud hi'n hapus ynddo. Pan greais i'r gyfres gychwynnol o gynhyrchion a oedd yn gwneud hyn, yn ogystal ag arogli'n wych, teimlo'n dda a’i galluogi i fwynhau mynd yn y bath, sylweddolais i'n gyflym y byddai'n gweithio i bobl eraill.

Roedd y fformiwlâu'n drawsnewidiol. Roeddwn i'n gwybod o adwaith Bella i'r cynhyrchion, a'r ffordd y gwnaethon nhw liniaru ei chroen gwael, y bydden nhw hefyd yn helpu rhieni eraill plant â chroen sensitif. Roeddwn i'n gwybod fy mod i wedi trosglwyddo ecsema i'm merch. Drwy greu cyfres Childs Farm, rwyf wedi rhoi cyfle i rieni beidio â theimlo’n euog wrth i'w plant gael y cysur o ymolchi a golchi â chynhyrchion nad ydyn nhw'n achosi poen nac anesmwythdra ac sydd wir yn lliniaru eu croen llidiog. Drwy greu brand moesegol, sy'n cynnig ateb o darddiad naturiol gan ddarparwyr cynaliadwy, rwyf hefyd yn credu ein bod ni wedi helpu i gynyddu ymwybyddiaeth bod brand naturiol hwyl a chynaliadwy sydd wir yn gweithio hefyd yn gallu bod yn fforddiadwy.

Mae ein cynhyrchion ar gael mewn mwy na 7,500 o siopau manwerthu ym mhob cwr o'r DU bellach ac rydyn ni'n ehangu ein dosbarthiadau ledled y byd, gan gyflenwi atebion gofal croen o hufennau lleithio a chynhyrchion gofal gwallt, i elïau gofal dwylo ac amddiffyniad rhag yr haul. Mae ein cynhyrchion yn galluogi plant – ac oedolion yn wir – â chroen sensitif, ac sy'n tueddu i gael ecsema, i fod yn hapus yn eu croen.

Sut olwg oedd ar y tîm o'ch cwmpas pan ddechreuoch chi? Pwy oeddech chi am gael wrth eich ochr ar y daith? Pa rinweddau oeddech chi'n chwilio amdanyn nhw a pham?

Pan ddechreuais i, roeddwn i eisiau pobl debyg i mi o'm cwmpas – roeddwn i eisiau gweithwyr caled a phobl a oedd yn meddwl yn gyflym. Roeddwn i eisiau pobl na fydden nhw’n suddo pe baen nhw’n cael eu taflu yn y pen dyfnaf. Roedd yn rhaid iddyn nhw fod yn feiddgar yn fasnachol a deall bod ‘na’ yn ateb hynod annerbyniol.

Wrth i fusnes dyfu, mae angen i chi chwilio am bobl wahanol i chi, sy'n ategu eich sgiliau, i alluogi'r busnes i gynrychioli rhinweddau ac ymagweddau gwahanol i gyflawni ei amcanion gwahanol – does dim diben cyflogi rheolwr ariannol sy'n hoffi risg na rheolwr marchnata sy'n ei chasáu. Ond, wrth i chi ddechrau, y llafur sy’n bwysig, mae'n rhaid bod ar flaen y gad ddydd a nos i ddatblygu'r busnes, cynnal momentwm a chadw'r breuddwyd yn fyw. Rhaid meddu ar y meddylfryd hwnnw – dyw hi byth yn swydd naw tan bump os ydych chi wir am ennill.

Wrth negodi a cheisio ennill buddsoddiad cyfalaf, pa sgiliau oedd gennych, pa sgiliau gwnaethoch chi eu meithrin, a pha sgiliau oedd angen i chi eu dysgu?

Roeddwn i'n hollol ffyddiog yn y brand ac ynof i fy hun. Roedd gen i gefndir fel bancer buddsoddi, felly gallwn i ddeall mantolen ac elw a cholled. Fodd bynnag, roedd yn rhaid i mi ddysgu sut i gyflawni rhagolygon gwerthu, nad oeddwn i'n gwybod sut i'w gwneud gan nad oedd fy sgiliau Excel yn wych. Yn ffodus, mae gan fy chwaer wych PhD mewn mathemateg, felly gwnaeth hi fy helpu.

Roedd yn rhaid i mi ddysgu i arafu rhywfaint a pheidio â thybio bod pawb yn gwybod am y problemau gallai fy nghynhyrchion eu datrys neu’n deall pa mor frwd oeddwn i amdanyn nhw. Roeddwn i braidd yn frysiog a gallai fy mrwdfrydedd godi ofn ar bobl! Roedd yn rhaid i mi leddfu ar hynny i raddau, ond mewn gwirionedd yr unig beth roedd angen i mi ei wneud oedd bod yn fwy ymwybodol o’m cynulleidfa a'r hyn a fyddai’n dderbyniol. Gwnes i gyflogi hyfforddwr a wnaeth fy helpu i ddeall ffyrdd pobl eraill o weithio. Roedd hyn o help mawr i mi.

Oes gennych chi neu oedd gennych chi fentor benywaidd, neu oes menywod penodol sydd wedi eich ysbrydoli a pham?

O ran mentoriaid, fy nghyngor yw bod yn ofalus ynghylch faint o bobl sydd o'ch cwmpas. Os ydych yn gwrando ar ormod o bobl, fyddwch chi byth yn gwneud penderfyniad gan y byddwch chi bob amser yn gwrando ar farn pobl. Gofynnwyd i mi unwaith fod ar restr rhywun o fentoriaid. Roedd sefydlydd am i mi fod yn seithfed mentor iddi! Mae mentoriaid yn wych o ran gwrando arnoch chi, ond peidiwch â'u sarhau drwy eu trin fel nwydd.

Does dim rhaid i chi wneud popeth y mae mentor yn ei ddweud wrthoch chi. Dylai mentor eich herio a dylech chi fod yn agored i her, ond yn y pen draw mae angen i chi wneud y penderfyniad hwnnw.

O ran pobl sydd wedi fy ysbrydoli, byddwn i'n rhoi fy mam-gu'n agos at frig y rhestr. Yn ogystal, mae Anita Roddick yn sefydlydd benywaidd o'r radd flaenaf. Mae ei brwdfrydedd, ei chymhelliant a'i hymgyrch dros newid cadarnhaol o ran profion cosmetig ar anifeiliaid a defnyddio cynhwysion naturiol wedi fy ysbrydoli ers fy arddegau, ac roedd hyn wrth wraidd sefydlu Childs Farm. Ar ôl y cyhoeddiad bod The Body Shop yn nwylo gweinyddwyr, roedd hi'n anrhydedd i mi gael gwahoddiad i siarad ar sianel radio genedlaethol am Anita Roddick, ei gwerthoedd a phwysigrwydd y busnes a greodd. Ar yr un pryd, mae'n drist bod busnes mor arloesol sydd wedi llywio bywydau cynifer ohonon ni wedi cael ei golli bellach.

Beth ydych chi'n credu sydd wedi arwain at eich llwyddiant? Fyddech chi'n gwneud unrhyw beth yn wahanol?

Arweiniodd cyfres wych o gynhyrchion at fy llwyddiant!

Fyddwn i'n gwneud unrhyw beth yn wahanol? Na fyddwn, gan fod hynny'n amhosib. Edrychwch ymlaen bob amser, peidiwch byth ag edrych yn ôl. Allwch chi ddim newid yr hyn sydd wedi digwydd yn y gorffennol, felly peidiwch â phendroni yn ei gylch.

Dyw bod yn sefydlydd benywaidd ddim yn addas i bawb. Does dim byd yn bod ar feddwl am syniad gwych, archwilio ei gymhwysedd a pheidio â'i wneud. Pan fyddwch chi'n penderfynu bwrw ymlaen, mae angen i'ch llygaid fod yn llydan agored. Rhaid i chi feddu ar gadernid mewnol; rhaid i chi fod yn gryf ac yn wydn.

Rwy'n credu nad yw bod yn entrepreneur at ddant pawb. Rwy'n teimlo bod math penodol o berson yn gallu llwyddo, ac nid ydych chi'n berson gwael os na allwch chi.

Pa dri awgrym byddech chi'n eu rhoi i'r genhedlaeth nesaf o fenywod sy'n sefydlu busnesau?

  1. Dewch i adnabod eich cwsmer.
  2. Dewch i adnabod eich cwsmer.
  3. Dewch i adnabod eich cwsmer.

Darllenwch yr holl astudiaethau achos isod a darganfod mwy am sut y gallwch gymryd rhan.