Busnes: Online4Baby
Sector: E-fasnach
Christy Foster yw Rheolwr Gyfarwyddwr Online4baby, busnes teulu y gwnaeth ei sefydlu ar y cyd â Cheryl, ei chwaer iau.
Dechreuodd llwybr Christy tuag at lwyddiant entrepreneuraidd pan oedd yn 12 oed wrth iddi weithio ar stondin mewn marchnad. Er mai hi oedd un o'r bobl gyntaf i ennill miliwn o bunnau ar eBay, sylweddolodd y gallai wneud yn well gyda'i gwefan ei hun, a ganwyd Online4baby yn 2011.
Pryd wnaethoch y penderfyniad i ddechrau eich busnes eich hun a sut gwnaeth eich taith ddechrau?
Dechreuodd fy nhaith entrepreneuraidd pan oeddwn i oddeutu 13 oed. Doeddwn i ddim yn ei chael hi'n hawdd yn yr ysgol ac yn ddiweddarach des i i wybod fy mod i'n awtistig ac yn ddyslecsig, a bod gen i ADHD. Roedd angen arian arnon ni, felly dechreuais i wneud llawer o swyddi gyda'r hwyr ar ôl ysgol. Ym mhob swydd, cefais i fy nyrchafu'n gyflym iawn. Gwnes i gynilo £500 a phrynu rhai eitemau, a llwyddais i i'w gwerthu am £5,000.
Gadewais i gartref yn 17 oed a dechreuais i werthu eiddo, gan brynu fy nghartref cyntaf yn gyfan gwbl pan oeddwn i'n 20 oed am £60,000.
Yna dechreuais i werthu pethau ar-lein, megis dillad, dodrefn a chyfarpar babanod. Gwerthodd y cyfarpar babanod yn arbennig o dda. Dechreuais i brynu mwy a mwy ac yna lansiwyd eBay. Doeddwn i ddim yn gwybod llawer amdano, ond rhoddais i lawer o gynhyrchion arno, ac eto gwnaethon nhw werthu'n dda. Roedd fy ngŵr yn drydanwr, a dywedais i wrtho y byddai'n rhaid iddo roi'r gorau i'w swydd er mwyn fy helpu! Yn ddiweddarach, gadawodd fy chwaer a'i gŵr eu swyddi i ymuno â'r busnes.
Ar ben-blwydd eBay yn 10 oed, cynhaliwyd digwyddiad anferth. Roedd ef ar y newyddion, roedd sefydlwyr gwreiddiol eBay yno, a chafodd ei ddarlledu i fwy na 35,000 o gyflogeion, yn ogystal â 1,000 o bobl yn y gynulleidfa. Cefais i wahoddiad i ddod, a rhannu fy stori, gan fy mod i'n un o'r bobl gyntaf i ennill miliwn o bunnau ar eBay.
Dechreuais i gyda £500 ac rwyf wedi ennill £44m hyd yn hyn, heb fuddsoddiad.
Sut olwg oedd ar y tîm o'ch cwmpas pan ddechreuoch chi? Pa rinweddau oeddech chi'n chwilio amdanyn nhw?
Tan ddwy flynedd yn ôl, rhywbeth i'r teulu ydoedd - fi, fy ngŵr, fy chwaer a'i gŵr. Erbyn hyn, mae gan y busnes oddeutu 40 o gyflogeion, yn ogystal â rheolwyr ar lefel weithredol. Mae hi wedi gweddnewid y ffordd rydyn ni'n gweithio.
Mae fy ymennydd i’n gyflym iawn. Roedd yn rhaid i mi gael pobl sy'n fy neall i o'm cwmpas gan fy mod i'n gweithio'n wahanol. Dwi ddim yn defnyddio cyfrifiaduron; rwyf bob amser yn dweud mai fy ymennydd yw fy nghyfrifiadur. Os ydych chi'n dangos rhywbeth i mi ar sgrîn, alla i ddim ei amgyffred, ond rhowch rywbeth ar ddarn o bapur ac rwy'n gweld popeth. Mae aelodau'r tîm wedi croesawu hyn. Maen nhw'n gwybod bod yn rhaid iddyn nhw gyflwyno pethau i mi mewn ffordd wahanol.
Rwyf wedi dysgu bod ychydig yn fwy amyneddgar â phobl. Oherwydd bod fy ymennydd yn gweithio mor gyflym, mae angen i mi addasu a darganfod y personoliaethau cywir sy'n deall hyn.
A chithau'n sefydlwr benywaidd, beth fu'r rhwystr mwyaf i chi yn ystod eich taith? Ydych chi wedi wynebu rhwystrau a oedd yn ymwneud â rhywedd a sut gwnaethoch chi ymdrin â nhw?
Rwyf wedi wynebu rhwystrau gydol fy oes. Y gwahaniaeth nawr yw nad ydyn nhw'n codi cymaint o ofn arna i. Rwy'n hyderus yn fy nghroen fy hun.
Mae rhai rhwystrau yn y gorffennol wedi ymwneud â chrefydd. Mae gen i lawer o ffrindiau Iddewig ac Indiaidd, ac yn y diwylliant Iddewig, 30 neu 35 mlynedd yn ôl, doedd menywod ddim yn cynnal busnesau. Roeddwn i'n wynebu heriau oherwydd mai menyw ydwyf, yn ogystal â heriau o ran agweddau diwylliannol at fenywod ym myd busnes.
Dwi ddim yn siŵr a oedd hi’n deillio o'm rhyw, ond rwyf bob amser yn cofio pan ddechreuon ni fynd yn fwy ar eBay fod bancer o'r Almaen wedi buddsoddi mewn cwmni babanod. Roedd y cwmni'n ennill tua £5m ar yr adeg honno. Pan oedd y ddau ohonon ni'n bresennol mewn digwyddiad, dywedodd ef y byddai'n fy nghau o fewn 12 mis. Wnes i ddim dadlau ag ef, ond meddyliais i y byddwn ni'n ei frifo yn ei boced yn nes ymlaen. Un flwyddyn yn ddiweddarach, prynais i ei holl stoc ac yna gwnes i feddiannu ei fusnes.
Ar ben y rhwystrau hyn, rwyf hefyd yn niwroamrywiol. Roedd e’n destun cywilydd i mi pan oeddwn i'n iau gan nad oeddwn i'n teimlo fy mod i'n ddigon da. Erbyn hyn, ble bynnag rwy'n mynd, rwy'n dweud wrth bawb fy mod i'n falch ohono gan iddo fy ngalluogi i gael fy llwyddiant presennol fel menyw heddiw. Rhaid i chi fod yn falch o bwy ydych chi a beth ydych chi.
Beth ydych chi'n credu sydd wedi arwain at eich llwyddiant? Gan wybod beth rydych chi'n ei wybod nawr, beth fyddech chi wedi gwneud yn wahanol?
Rwy'n meddwl bod fy niwroamrywiaeth wedi arwain at fy llwyddiant. Mae fy ymennydd yn gweithio'n wahanol ac rwy'n meddwl bod hynny wedi fy ngwneud i'n fwy entrepreneuraidd. Rwy'n gallu prosesu'n dda iawn yn weledol ac yn feddyliol. Galla i ddatrys problemau'n gyflym. Rwy'n meddwl mai dyna beth sydd wedi helpu'r busnes, yn enwedig yn ystod y 12 mis diwethaf.
Yr unig beth rwy'n edrych arno nawr yw data. Doeddwn i erioed wedi rhoi pwyslais mawr ar ddata. Roeddwn i'n arfer bod yn reddfol iawn. Ond pan fyddwch chi'n dechrau gwario llawer o arian, yna dyw greddfau ddim yn ddigon. Mae'r holl benderfyniadau bellach yn seiliedig ar ffeithiau a ffigurau. Rwy'n teimlo bod gen i fformiwla am y busnes, a bod modd cyflwyno'r fformiwla ar raddfa fwy.
Rwyf bob amser wedi dylunio cynhyrchion gwych. Rwy'n ystyried fy mod i'n rhoi pwyslais ar werth, hynny yw, rwy'n cynnig gwerth am arian. Yn hytrach na chynnig gostyngiadau, rwy'n cynnig pecynnau. Mae pecynnau'n golygu bod pobl yn gwario mwy o arian, ond maen nhw'n cael mwy am eu harian. Rwy'n rhoi'r pecynnau at ei gilydd gan fod gen i efeilliaid fy hun. Rwy'n gwybod yr hyn sydd wir ei angen ar rieni a'r hyn nad oes ei angen arnyn nhw.
Mae'n dacteg wahanol i bron pawb arall yn y maes. Dwi ddim yn dweud nad oes neb arall yn gwneud hyn, ond rwy'n meddwl bod pawb am werthu un peth am y pris rhataf. Mae'r cwsmer ar ei ennill ar hyn o bryd gan fod y pris yn mynd yn is ac yn is. Ond dyma pam mae cynifer o fusnesau'n mynd i'r wal, neu'n cael trafferthion ariannol.
Doedden ni ddim am wneud yr un peth â phawb arall. Roedden ni am dorri ein cwys ein hunain, a gwnaethon ni hynny drwy gynnig gwerth am arian.
Fyddwn i wedi gwneud unrhyw beth yn wahanol? Byddwn i wedi manteisio ar yr hyn a'm gwnaeth yn wahanol yn gynt.
Beth yw'r cyngor gorau a roddwyd i chi yn ystod eich taith entrepreneuraidd?
Peidiwch â cheisio newid na phoeni am bethau nad ydych chi'n gallu eu rheoli.
Pa dri awgrym byddech chi'n eu rhoi i'r genhedlaeth nesaf o fenywod sy'n sefydlu busnesau?
- Ymchwiliwch yn drylwyr i beth bynnag rydych chi am ei wneud.
- Byddwch yn hyderus.
- Credwch ynoch chi eich hun.