Ymchwil y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol

Mae'r gyfadran yn ceisio arloesi dulliau newydd cyffrous o ymchwilio ac arloesi wrth fynd i'r afael â heriau byd-eang mawr a sicrhau llwyddiant mewn safleoedd rhyngwladol a Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil y DU. Rydym yn darparu isadeiledd ymchwil ac arloesi helaeth cyffredin i gefnogi ymchwil yn yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Ysgol y Gyfraith a’r Ysgol Reolaeth.

Rydym yn cael ein hariannu gan gynghorau ymchwil y DU i hyfforddi ymchwilwyr ôl-raddedig a datblygu effaith ymchwil. Rydym wedi datblygu cydweithrediadau â phrifysgolion cenedlaethol a rhyngwladol ac wedi buddsoddi mewn strwythurau cymorth ymchwil mewnol a chymorth ar gyfer uniondeb ymchwil. Rydym yn hyrwyddo ystod eang o ymchwil ôl-raddedig a chyfleoedd am gymrodoriaethau ôl-ddoethurol.

REF QS Logos Small

Ymchwil ym Mhedair Ysgol y Gyfadran

Sut Rydym yn Cefnogi Ein Hymchwilwyr

Mae ystod o adnoddau a chynlluniau ar gael i'n hymchwilwyr, sy'n eu darparu â'r cymorth sydd ei angen arnynt i wireddu eu hamcanion ymchwil.

Mae ein hymchwilwyr yn mwynhau cymorth cynhwysfawr gan gynlluniau sy'n cynnwys lwfansau academaidd a chynlluniau cyllido mewnol, yn ogystal â llawer o gyfleoedd hyfforddi a datblygu i ymchwilwyr ar bob cam.

I gael gwybodaeth fanwl am gynlluniau Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, ewch i dudalennau Cymorth Ymchwil Canvas (sydd ar gael i staff yn unig) neu dewiswch bwnc isod. Os na allwch ddod o hyd i'r hyn rydych yn chwilio amdano yma, e-bostiwch fhss-researchsupport@abertawe.ac.uk

Cyfleoedd Ymchwil

Chwilio ein Harbenigedd