Mae’r Tîm Datblygu, Cymeradwyo ac Adolygu Rhaglenni’n arbenigo mewn datblygu rhaglenni a phortffolios a chymeradwyo, rheoli a sicrhau ansawdd yr holl raglenni astudio’n barhaus, gan sicrhau y gall y Brifysgol gynnig i fyfyrwyr bortffolio o raglenni arloesol a lywir gan y farchnad sydd oll yn cynnig sicrwydd ansawdd o ran y dysgu, yr addysgu a’r profiad a gynigir i fyfyrwyr.

Swyddog Datblygu Ansawdd Academaidd

Swyddog Datblygu Ansawdd Academaidd

James Bennett, Swyddog Datblygu Ansawdd Academaidd: Dylunio, Datblygu, Cymeradwyo ac Adolygu Rhaglenni

 

 

Mae James yn arwain yr is-dîm sy’n gyfrifol am lunio, datblygu, cymeradwyo ac adolygu rhaglenni, gan oruchwylio prosesau cymeradwyo rhaglenni’r Brifysgol, yn ogystal ag adolygu rhaglenni a modiwlau bob blwyddyn ac adolygu ansawdd bob pum mlynedd. Mae James yn Gymrawd Cysylltiol o AdvanceHE ac yn Aelod Achrededig o’r AUA (Association of University Administrators). Ef yw Eiriolydd yr AUA ar ran Prifysgol Abertawe hefyd.

Mae James hefyd yn Ysgrifennydd i’r Bwrdd Rheoli Rhaglenni, y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni a’r Pwyllgor Ymgynghori Academaidd. Partner Ansawdd y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd ar gyfer y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd a’r Coleg, Prifysgol Abertawe.

Ebost: d.j.bennett@swansea.ac.uk

Swyddog Datblygu Ansawdd Academaidd

Swyddog Datblygu Ansawdd Academaidd

Dr Laura Baker, Swyddog Datblygu Ansawdd Academaidd

 

 

Ymunodd Laura â’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd ym mis Ebrill 2022, gan weithio’n bennaf yn y Tîm Rhaglenni, yn cefnogi prosesau dylunio, datblygu, cymeradwyo ac adolygu rhaglenni. Yn ogystal, mae hefyd yn ysgrifennydd sawl pwyllgor a bwrdd. Prosiect presennol y mae’n gweithio arno yw defnyddio data i arwain prosesau.

Mae gan Laura berthynas hirsefydlog â Phrifysgol Abertawe, gan ymuno yn 2014 fel myfyrwyr BSc mewn Bioleg. Wedi hyn yn 2022, enillodd Laura ei PhD mewn Geneteg Ficrobaidd gydag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Treuliodd Laura flwyddyn yn gweithio fel ymchwilydd ôl-ddoethurol ar brosiect amlddisgyblaethol ar draws y brifysgol, cyn ymuno â’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd.  Wrth gynnal cariad at bopeth sy’n ymwneud â gwyddoniaeth, mae’n awyddus i ddatblygu ei gwybodaeth am ei chariad arall, addysg uwch a phrosesau cysylltiedig, gyda’r nod o helpu’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr i gael y profiad gorau yn Abertawe, sy’n debyg i’w phrofiad hi. 

Ebost: l.m.baker@swansea.ac.uk